Skip to main content

Hosbis yn lansio ymgyrch i recriwitio gwirfoddolwyr ifanc

Dyddiad

Hosbis yn lansio ymgyrch i recriwitio gwirfoddolwyr ifanc

Mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael defnydd da wrth recriwtio cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr hosbis ifanc.

Mae Hosbis Dewi Sant, sy’n darparu gofal hosbis i gleifion sy’n oedolion ledled Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, yn gobeithio denu cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr er mwyn helpu i redeg ei restr gynyddol o ddigwyddiadau codi arian awyr agored a heriau dygnwch.

Bydd staff yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid mewn ymgais i gyrraedd pobl ifanc 16 oed a hŷn a allai fod yn chwilio am her newydd mewn bywyd, yn enwedig unigolion sydd â risg uwch o gyflawni troseddau.

Diolch i grant o £2,410 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gall yr hosbis fwrw ymlaen ag ymgyrch recriwtio cyfryngau cymdeithasol newydd a phrynu festiau diogelwch ac offer TG i’w defnyddio mewn digwyddiadau ac i ddarparu cyflwyniadau a chrysau polo newydd i wirfoddolwyr.

Cefnogir menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 23 oed eleni.

Dyma wythfed flwyddyn y cynllun dyfarnu arian ac mae llawer o’r dros £280,000 a roddwyd i achosion haeddiannol yn yr amser hwnnw wedi’i atafaelu trwy’r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a gymerwyd oddi wrth droseddwyr gyda’r gweddill yn dod gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at sefydliadau sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Arfon Jones.

Eleni rhoddir 21 o grantiau gyda thros 32,000 o bleidleisiau yn cael eu bwrw i benderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus gyda Hosbis Dewi Sant yn un o dri enillydd yng Nghonwy, ynghyd â Menter Kind Bay a Hope Restored.

Derbyniodd Menter Kind Bay £2,500 er mwyn cefnogi eu prosiect i helpu mentrau iechyd meddwl trwy eu Sesiynau Cymunedol Create ac Express yn y sir tra dyfarnwyd £2,000 i Hope Restored i gefnogi pobl ddigartref a phobl sy’n cysgu allan yng Nghonwy.

Dywedodd Louise Barber, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Hosbis Dewi Sant: “Rydyn ni wrth ein boddau o dderbyn yr arian. Mae’n gyfle go iawn i gynnig rhywbeth i bobl ifanc sydd wedi cael eu cyffwrdd gan yr hosbis neu unigolion a allai fod eisiau cyfeiriad newydd a dod yn rhan o dîm mwy. Bydd ganddyn nhw le efo ni bob amser.

“Bydd y grant hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn ddiogel gyda festiau gwelededd uchel gyda’n logo arnynt fel bod ganddyn nhw ymdeimlad o bwrpas a pherthyn ac yn teimlo’n rhan o rywbeth gwych.

“Rydym yn dîm codi arian deinamig ac mae gennym raglen gyffrous o ddigwyddiadau sy’n amrywio o nosweithiau comedi i redeg llwybrau, rhediadau lliw, rasys cychod draig a theithiau cerdded adeg machlud, ac mae llawer o’r rhain wedi’u hanelu at y codwr arian iau.

“Bydd gwirfoddolwyr yn dysgu gweithio fel rhan o dîm, gyda chyfrifoldeb am faes penodol boed hynny’n stondin diodydd ar ras hwyl neu fel stiward maes parcio. Mae’n gyfle i wneud ffrindiau y tu allan i’w grŵp cyfoedion.

“Yn ystod y cyfnod clo mae gwirfoddoli wedi bod yn rhywbeth amhrisiadwy i lawer. Hoffwn ymestyn y cyfle hwnnw i bobl iau.”

Mae gwirfoddolwyr yn arbed mwy na £800,000 y flwyddyn i’r elusen mewn costau cyflogau ac maent yn hanfodol i’w gwaith, yn staffio siopau a chaffis elusen, yn cynorthwyo digwyddiadau ac yn gwirfoddoli mewn unedau cleifion mewnol.

Mae mwy na hanner gwirfoddolwyr presennol yr hosbis yn 50 oed neu’n hŷn ac mae’r elusen yn gobeithio y bydd y rhaglen yn annog cynorthwywyr iau i ddod ymlaen i gefnogi ei nifer o weithgareddau codi arian, sy’n aml yn digwydd dros dirwedd heriol.

“Byddai ein drysau’n cau heb wirfoddolwyr,” meddai Louise.

“Pe bai’n rhaid i chi fesur y cyfraniad maen nhw’n ei wneud o ran oriau gwaith cyflogedig, does dim unrhyw ffordd y byddem yn gallu talu am hynny. Mae eisoes angen i ni wneud rhwng £4m-£5m y flwyddyn.

“Ein gwirfoddolwyr yw’r bobl fwyaf ystyriol, hyfryd a ffyddlon y gallech obeithio eu cyfarfod. Maen nhw wedi cael eu cyffwrdd gan yr hosbis ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

“Rydyn ni wedi bod yn gyfyngedig o ran yr hyn rydyn ni wedi gallu ei gynnig i’n gwirfoddolwyr trwy bandemig Covid-19 oherwydd rydyn ni am eu cadw’n ddiogel. Fodd bynnag, rydym yn agor hosbis gyntaf Ynys Môn ac mae lle yn y dyfodol i wirfoddolwyr weithio mewn lleoliad mwy clinigol.

“Mewn gwirionedd, nid oes llawer o swyddi na fyddem yn eu hystyried ar gyfer gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddoli yn lôn ddwy ffordd ac mae pobl yn cael cymaint o weithgaredd gwirfoddol ag y maen nhw’n ei rhoi i mewn.”

Mae’r elusen, a fydd yn lansio’r rhaglen recriwtio newydd ym mis Ebrill, yn cefnogi nodau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ehangu cyfleoedd i bobl ifanc fel bod trosedd yn dod yn rhywbeth llawer llai dymunol a’i nod yw helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy’n cael eu tynnu i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.

Mae eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen gyflogaeth a hyfforddiant Ynys Môn, sef Cymunedau Mon Ymlaen sydd wedi cynorthwyo i recriwtio gwirfoddolwyr ac elusen wirfoddoli Medrwn Mon.

Er bod Covid-19 wedi cwtogi ar lawer o ddigwyddiadau codi arian arferol yr hosbis, mae’r tîm eisoes yn archwilio syniadau newydd ar gyfer yr adeg y bydd pobl yn gallu ymgynnull yn ddiogel unwaith eto.

“Byddwn yn tyfu mor fawr â nifer y gwirfoddolwyr sydd gyda ni,” meddai Louise.

“Ein gobaith yw y byddwn yn gallu tynnu’r gorau o bawb sy’n dewis gwirfoddoli efo ni, ac y byddan nhw’n ennill y sgiliau a’r hyder nid yn unig i gryfhau eu cymuned, ond hefyd i gyfoethogi eu bywydau nhw eu hunain.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Y llynedd mi wnaethon ni ofyn am geisiadau a oedd yn anelu at adeiladu cymunedau cydnerth ac eleni rydym wedi parhau â’r thema honno gyda phrosiectau sy’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd - gan gynnwys cynigion sy’n mynd i’r afael â thueddiadau troseddol sy’n dod i’r amlwg fel Llinellau Cyffuriau a Throsedd Cyllyll.

“Mae wedi bod yn flwyddyn hynod heriol i ni i gyd ond rwy’n falch iawn bod fy nghronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ledled y Gogledd am yr wythfed flwyddyn.

“Mae’r gronfa unigryw hon yn caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol trwy ein system bleidleisio ar-lein a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn talu sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi’u nodi fel rhai hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu eu hunain.

“Rwy’n anelu at sicrhau bod ffocws clir yn parhau o amgylch troseddau llinellau cyffuriau - math arbennig o ddieflig o droseddu sy’n ecsbloetio’r ifanc a’r bregus ac rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn anelu at gefnogi ein pobl ifanc.

“Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, a helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn rhai o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn y DU.”

Ychwanegodd cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae eich cymuned eich dewis yn ffordd werthfawr iawn o gefnogi cymunedau a rhoi’r dewis o ba brosiectau sy’n cael eu cefnogi yn eu dwylo nhw.

“Mae’n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwy’n credu ei bod wedi bod yn gynllun mor hirhoedlog a llwyddiannus.

“Mae’n brosiect hyfryd i fod yn rhan ohono a gallwch weld yn uniongyrchol y budd o’r arian wrth gryfhau ein cymunedau.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae’r arian hwn yn cynnwys arian parod o asedau a atafaelwyd gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges arbennig o allweddol oherwydd trwy broffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chyda chefnogaeth y Llysoedd, rydym yn gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo - yn eu pocedi.

“Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddu difrifol gan gynnwys troseddau sy’n croesi ffiniau, lladrad arfog, defnydd troseddol o ynnau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

“Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant hwn gyda gwybodaeth leol yn cael ei rhoi i’n swyddogion sy’n ein helpu i ddod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.

“Mae’n anfon neges gadarnhaol iawn bod arian a gymerwyd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian gwael yn arian da sy’n cael ei ddefnyddio at bwrpas adeiladol.”