Skip to main content

Hwb i barc poblogaidd yn Llanferres

Dyddiad

Hwb i barc poblogaidd yn Llanferres

Bydd gofod awyr agored poblogaidd y mae gwirfoddolwyr o bob oed yn gofalu amdano yn parhau i fod wrth galon cymuned - diolch i arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr.

Mae Cymdeithas Cae Chwarae a Hamdden Llanferres wedi dioddef 12 mis anodd yn ceisio sicrhau cyllid i dalu am gostau rhedeg cae chwarae a pharc y pentref, wrth i ddigwyddiadau gael eu canslo oherwydd pandemig Covid-19.

Mae’r cyfleuster wedi cael ei gadw mewn cyflwr da ac mae wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned fechan rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug am dros 20 mlynedd.

Mae Cymdeithas Cae Chwarae a Hamdden Llanferres wedi helpu i feithrin pentrefwyr ifanc yn llysgenhadon da i’w cymuned trwy eu hannog i chwarae eu rhan mewn diwrnodau gwirfoddoli, gan helpu i dacluso’r cyfleusterau a gweithio ochr yn ochr â thrigolion hŷn.

Diolch i grant o £2,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae disgwyl i’w gweithredoedd da barhau am flynyddoedd i ddod.

Cefnogir menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 23 oed eleni.

Dyma wythfed flwyddyn y cynllun dyfarnu arian ac mae llawer o’r dros £280,000 a roddwyd i achosion haeddiannol yn yr amser hwnnw wedi’i atafaelu trwy’r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a gymerwyd oddi wrth droseddwyr gyda’r gweddill yn dod gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at sefydliadau sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Arfon Jones.

Eleni rhoddir 21 o grantiau i gefnogi cynlluniau gan sefydliadau cymunedol gyda phleidlais ar-lein yn penderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus o blith y nifer fawr o brosiectau a gyflwynwyd gyda thros 33,000 o bleidleisiau yn cael eu bwrw.

Hefyd yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau yn Sir Ddinbych yr oedd Clwb Bocsio Amatur Clwyd yn y Rhyl, a sicrhaodd £2,500 i helpu gyda chostau rhedeg, a Dinbych yn ei Blodau, sydd wedi cael £2,000 i gefnogi’r adfywiad arfaethedig ym Mharc Isaf.

Mae cymdeithas Llanferres, sy’n elusen gofrestredig, wedi helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy annog pobl ifanc i fod yn rhan o ddiwrnodau cynnal a chadw rheolaidd y gweithgor.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Cae Chwarae a Hamdden Llanferres, Sean Thomas: “Mae’r digwyddiadau’n helpu i ddod â’r gymuned ynghyd ac mae gennym lawer o wirfoddolwyr sydd eisiau cymryd rhan.

“Ar un achlysur diweddar roedd oedrannau’r rhai a gymerodd ran yn amrywio o 84 i tua phedair oed, felly mae gennym bob oed yn ein cymuned yn cymryd rhan.

“Mae’n helpu’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan i ennill sgiliau bywyd. Maen nhw’n profi sut beth yw gweithio fel rhan o dîm a gall helpu i fagu eu hyder.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio helpu’r bobl ifanc i deimlo eu bod nhw’n cymryd rhan ac i elwa o’r profiad.

“Mae yna lawer iawn o ysbryd cymunedol i’w weld ac rydyn ni’n croesawu unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.”

Effeithiwyd yn wael ar y gymdeithas gan Covid-19 a arweiniodd at orfod gohirio noson rasio oedd i’w chynnal fis Mawrth diwethaf, oedd yn golygu na fyddai Cymdeithas Cae Chwarae a Hamdden Llanferres yn elwa o swm ariannol pedwar ffigur.

Bu’n rhaid gohirio digwyddiadau codi arian eraill hefyd, gan atal y gymdeithas rhag cwrdd â’i chostau rhedeg blynyddol o rhwng £1,500 a £2,000.

Ychwanegodd Sean: “Mi wnes i neidio mewn llawenydd ar ôl cael gwybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a bleidleisiodd.

“Mae’r holl ddigwyddiadau rydyn ni wedi bwriadu eu cynnal wedi cael eu canslo. Rydyn ni wedi gorfod defnyddio ein cronfeydd wrth gefn i dalu rhai costau felly mae derbyn yr arian hwn yn newyddion i’w groesawu’n fawr.”

Arweiniodd y pandemig at orfod cau’r safle am chwe mis tan fis Medi diwethaf pan ail-agorodd gyda mesurau pellhau cymdeithasol a hylendid llym ar waith.

Trawsnewidiwyd y tir - sy’n eiddo i Gyngor Cymuned Llanferres a’i roi ar brydles i Gymdeithas Cae Chwarae a Hamdden Llanferres - ddiwedd y 1990au pan gafodd y parc a’r maes chwarae ei greu ac mae’r safle ar Cae Gwyn wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn rheolaidd i gydnabod pa mor daclus mae gwirfoddolwyr wedi ei gadw.

Yn ogystal â’r diwrnodau cynnal a chadw, mae digwyddiadau eraill a gaiff eu cynnal yn rheolaidd yn cynnwys gwneud blychau ystlumod ac adar a barbeciw codi arian yn y Parc.

“Rydyn ni’n ffodus i gael cefnogaeth o’r fath gan ein cymuned leol,” meddai Sean, sy’n daid i bedwar ac sydd wedi byw yn y pentref ers 1994.

“Dim ond pentref bach ydyn ni, ond rydyn ni’n cael llawer o gefnogaeth ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn amdano.

“Bydd y gwaith y gallwn ei wneud yn awr yn help mawr a phe bai pethau’n dechrau dychwelyd i normal, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o bobl i’r parc yn y dyfodol.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd wedi ymweld â’r parc: “Rwy’n falch iawn bod fy nghronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol fel hyn am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

“Mae’r gronfa unigryw hon yn caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau a ddylai gael cefnogaeth ariannol trwy ein system bleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.

“Mae’r prosiectau hyn yn cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd gyda’r bwriad o sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn talu sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi’u nodi fel rhai hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu eu hunain.

“Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliais sydd wedi arwain at ddiweddariad i’m blaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd yr ydym yn mynd i’r afael â thueddiadau sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys Troseddau Cyfundrefnol ac ecsbloetio pobl agored i niwed.

“Fel rhan o hyn, fy nod yw sicrhau bod ffocws clir yn parhau o amgylch troseddau llinellau cyffuriau - math arbennig o ddrygionus o droseddu sy’n cam-fanteisio ar bobl ifanc agored i niwed a’u harwain i fywyd o droseddu sy’n hynod beryglus a threisgar ac nad oes ffordd hawdd o ddianc ohono.

“Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn anelu at gefnogi ein pobl ifanc.

“Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, a helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn rhai o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn y DU.”

Ychwanegodd cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae eich cymuned eich dewis yn ffordd werthfawr iawn o gefnogi cymunedau a rhoi’r dewis o ba brosiectau sy’n cael eu cefnogi yn eu dwylo nhw.

“Mae’n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwy’n credu ei bod wedi bod yn gynllun mor hirhoedlog a llwyddiannus.

“Mae’n brosiect hyfryd i fod yn rhan ohono a gallwch weld yn uniongyrchol y budd o’r arian wrth gryfhau ein cymunedau.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae’r arian hwn yn cynnwys arian parod o asedau a atafaelwyd gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges arbennig o allweddol oherwydd trwy broffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chyda chefnogaeth y Llysoedd, rydym yn gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo - yn eu pocedi.

“Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddu difrifol gan gynnwys troseddau sy’n croesi ffiniau, lladrad arfog, defnydd troseddol o ynnau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

“Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant hwn gyda gwybodaeth leol yn cael ei rhoi i’n swyddogion sy’n ein helpu i ddod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.

“Mae’n anfon neges gadarnhaol iawn bod arian a gymerwyd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian gwael yn arian da sy’n cael ei ddefnyddio at bwrpas adeiladol.”