Skip to main content

Hwb i gynllun cadw llygad ar geffylau rhag lladron diolch i arian troseddwyr

Dyddiad

Hwb i gynllun cadw llygad ar geffylau rhag lladron diolch i arian troseddwyr

Mae prosiect atal troseddu yng ngogledd Cymru sy'n ceisio diogelu perchnogion ceffylau rhag lladron am wario rhywfaint o grant gwerth £5,000 ar sglodion adnabod i geffylau diolch i arian parod a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Mae Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru am ei gwneud yn haws olrhain ceffylau sydd wedi cael eu dwyn a dal y lladron yn ogystal â gwneud aelodau o'r gymuned geffylau yn fwy ymwybodol o fygythiad troseddu.

Mae Helen Lacey, a sefydlodd y cynllun yn 2010 ar ôl i’w harnais a generadur gael eu dwyn, yn dweud y bydd dyfarnu grant o £4,920 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn helpu'r grŵp i hyrwyddo atal troseddau ar draws y rhanbarth.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.

Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.

Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.

Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.

Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Dywedodd Helen, o Wrecsam: “Ar ôl i mi gael offer wedi'i ddwyn, fe welodd y Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu a oedd yn delio efo'r drosedd fod angen fersiwn ceffylau o Farm Watch arnom. Erbyn hyn mae gennym 10 o wirfoddolwyr ac rydym yn rhoi marciau diogelwch ar daclau, trelars offer, cerbydau a chwadiau yn defnyddio gwahanol fathau o farcio.

Mae troseddau gwledig ar gynnydd felly rydym wedi rhoi mwy o fesurau atal troseddu yn eu lle, felly mae cael mwy o wirfoddolwyr allan i roi cyngor a marcio taclau ac offer arall yn ogystal â rhoi arweiniad ar faterion lles fel pori anghyfreithlon yn hanfodol.”

Mae'r gwirfoddolwr Norma Morris, o Fae Penrhyn, yn helpu Helen i redeg Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru ac meddai: “Rydym am barhau i hyrwyddo Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru mewn digwyddiadau wedi'u trefnu yn ogystal â chynnal ymweliadau addysgol â chlybiau merlod, ysgolion, colegau, clinigau ceffylau a chymunedau gwledig.

Rydym yn adnabod ceffylau trwy ddefnyddio darllenwyr sglodion ond mae angen mwy o ddarllenwyr sglodion arnom sydd o fudd mawr i'r heddlu ac i ni ein hunain.

Maen nhw'n ein helpu i olrhain perchnogion ceffylau sydd ar goll, ceffylau sy’n cael eu darganfod neu'n pori’n anghyfreithlon. Ein cyfradd llwyddiant o ailuno ceffylau â pherchnogion yw 100% ac mae'n ddigwyddiad rheolaidd.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.

Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus.

Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”

Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.

Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.

Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.

Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”

Cynrychiolwyr  Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned Eich Dewis ym Mhencadlys Heddlu'r Gogledd, o'r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett, Norma Morris a Helen Lacey gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.