Skip to main content

Koda yn ymuno â'r heddlu ci

Dyddiad

Koda yn ymuno â'r heddlu ci

Dewch i gyfarfod â Koda, y ci ymladd troseddau.

Mae'r Malinois o Wlad Belg, sy'n 14 mis oed, newydd gymhwyso i ddod yn gi heddlu llawn ac mae wedi cael ei rhif coler, PD1301 ac wedi cael ei cherdyn gwarant ei hun.

Hi yw’r aelod diweddaraf o Uned Cŵn Heddlu a’r Gynghrair Plismona Arfog sy’n cael ei rhedeg ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’u cymheiriaid yn Swydd Gaer.

Cafodd Koda ei chyflwyno gan ei thriniwr, PC Sonia Stobbart, sy’n hyfforddwr gyda’r uned, i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, pan fu ar ymweliad â’r Uned yn ddiweddar.

Ci heddlu pwrpas cyffredinol yw Koda sy’n cael ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd gwahanol, yn amrywio o chwilio am bobl sydd ar goll, chwilota am eiddo ac arfau, cadw pobl dan amheuaeth a mynd i'r afael ag anhrefn ar raddfa fawr.

Yn ôl Mr Dunbobbin, cŵn heddlu fel Koda a’r swyddogion heddlu sy’n eu trin yw “arwyr tawel” plismona.

Ar ôl gweld sawl ci yn mynd trwy ymarferion hyfforddi gwahanol, gan gynnwys arogli cyffuriau a dal “troseddwyr” ar ffo, dywedodd y Comisiynydd: “Mae'r hyn rydw i wedi'i weld wedi creu argraff fawr arnaf.

“Mae lefel y rheolaeth sydd gan y trinwyr yn hollol anhygoel. Mae fel eu bod nhw'n gallu troi’r cŵn ymlaen efo switsh.

“Maen nhw’n gallu mynd o eistedd yn llonydd i afael ym mraich rhywun mewn eiliad ac maen nhw’n stopio’n syth ar ôl cael gorchymyn.

“Roedd un o’r ymarferion yn cynnwys chwilio swyddfa am ychydig o gyffuriau gan ddod o hyd i’r pecyn yn gyflym iawn.

“Mae’r cŵn hyn a’u trinwyr yn chwarae rhan allweddol mewn plismona rheng flaen - nhw yw ein harwyr tawel.

“Rwy’n siŵr y bydd Koda yn ychwanegiad gwych i’r tîm.”

Lansiodd yr uned ei rhaglen cŵn bach ei hun bedair blynedd yn ôl ac mae ganddi gyfradd llwyddiant o 85 y cant wrth hyfforddi'r cŵn fel eu bod yn cyrraedd y safon gofynnol.

Y cŵn pwrpas cyffredinol fel arfer yw cŵn Alsasian, Herders o'r Iseldiroedd neu Malinois tra bod cŵn arbenigol fel arfer yn fridiau cŵn hela gyda drylliau fel, Labradors, Cocker Spaniels neu Springer Spaniels.

Roedd ymuno â’r uned cŵn 13 blynedd yn ôl yn “gwireddu breuddwyd” i PC Stobbart.

Meddai: “Mae bob amser wedi bod yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud oherwydd fy mod i wedi gwirioni efo cŵn.

“Rydw i wrth fy modd yn gweithio efo nhw ac rydw i’n mwynhau eu hyfforddi yn fawr iawn, felly mi weithiais tuag at fod yn hyfforddwr.

“Fel yr holl gŵn yn yr Uned, daeth Koda yma oddi wrth fridiwr ag enw da sy’n cyflenwi cŵn gwaith ledled y wlad.

“Rydw i wedi ei chael hi ers pan oedd hi’n wyth wythnos oed, ac mae hi wedi bod ar y rhaglen hyfforddi efo mi ers hynny.

“Mae hi wedi bod yn wych a ddoe mi wnaeth hi gymhwyso fel ci heddlu pwrpas cyffredinol a chael ei rhif coler.

“Mae cŵn fel Koda yn achub bywydau bob dydd ac maen nhw'n rhan annatod o blismona.

“Mae eu trwynau yn hollol anhygoel ac mae hynny'n rhywbeth na all technoleg ei ddisodli yn yr amgylchedd rydyn ni'n gweithio ynddo.”

Ategwyd y teimlad gan y Prif Arolygydd Simon Newell sy’n rheoli tîm y Gynghrair.

Meddai: “Yn ogystal â chael eu cardiau gwarant unigol eu hunain, mae gan bob ci rif coler unigol.

“Rydyn ni wedi rhoi arfwisg corff iddyn nhw yn ddiweddar - fyddech chi ddim yn anfon heddwas allan i'r strydoedd heb arfwisg y corff, felly pam fyddech chi'n anfon ci heddlu?

“Maen nhw hefyd yn aelodau pwysig o’r tîm. Mae yna bobl allan yna sy'n fyw heddiw oherwydd y gwaith y mae ein cŵn wedi'i wneud, pobl agored i niwed sydd wedi mynd ar goll yng nghanol y gaeaf y mae'r cŵn wedi dod o hyd iddyn nhw. Ni fydden nhw wedi cael eu darganfod fel arall.

“Mae yna eiddo coll hefyd na fyddai wedi cael ei ddarganfod oni bai am ein cŵn.

"Mae yna bobl sydd wedi cael eu harestio am fyrgleriaeth neu ymosodiadau neu ddwyn ceir sydd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth swyddogion heddlu. Ond mi wnaethon ni gael gafael arnyn nhw. Fydden nhw ddim wedi cael eu dal oni bai am y cŵn.”