Dyddiad
Dylai unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd angen cefnogaeth ffonio Cerrig Camu Gogledd Cymru ar 01978 352717 neu ymweld â’r wefan yn www.steppingstonesnorthwales.co.uk
Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio i estyn allan at fyfyrwyr coleg a phrifysgol sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel nad ydynt yn dioddef mewn distawrwydd trwy gydol eu hoes.
Yn ôl Cerrig Camu Gogledd Cymru, yn rhy aml o lawer, nid oedd goroeswyr yn teimlo eu bod yn gallu ceisio cymorth oherwydd eu bod yn teimlo “euogrwydd a chywilydd” er eu bod nhw eu hunain yn hollol ddi-fai.
Mewn llawer o achosion difethwyd eu bywydau yn llwyr oherwydd iddynt gadw’r trawma i’w hunain am ddegawdau heb allu dweud wrth neb.
Yn ôl Berni Durham-Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r elusen, maent wedi derbyn galwadau gan bobl yn eu 70au a’u 80au a gafodd eu cam-drin pan oeddent yn blant.
Y sbardun yn aml oedd cael diagnosis o salwch angheuol, gan eu hannog i ddod ymlaen oherwydd bod angen iddynt rannu eu stori gydag o leiaf un person cyn iddynt farw.
Ar yr ochr gadarnhaol, meddai Mrs Durham-Jones, gall goroeswyr gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn trwy gwnsela a chefnogaeth, gan eu galluogi i gael dyfodol disglair yn hytrach na dioddef oes o drallod.
Mae Cerrig Camu Gogledd Cymru, a sefydlwyd yn 1984, yn darparu cefnogaeth i oedolion o bob rhan o’r rhanbarth sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol pan oeddent yn blant.
Mae eu gwaith bellach wedi cael hwb enfawr gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin.
Byddant yn derbyn £154,000 yn ychwanegol gan Mr Dunbobbin sy’n ymgyrchydd brwd ers amser hir yn erbyn pob math o gamdriniaeth.
Mae’n rhan o becyn cyllid gwerth £1.3 miliwn a sicrhawyd ganddo a fydd yn cael ei rannu ymhlith nifer o sefydliadau yng ngogledd Cymru.
Ymhlith y cyrff eraill sydd wedi derbyn cymorth ariannol y mae Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru, y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru a Gorwel.
Yn achos Cerrig Camu Gogledd Cymru, mae’n golygu y byddant yn gallu recriwtio dau Gynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAS).
O ganlyniad, bydd yr elusen yn lansio dau brosiect newydd, gan gynnwys yr un i ddarparu gwasanaeth cwnsela i fyfyrwyr coleg a phrifysgol 16 oed neu hŷn ar draws y Gogledd.
Mae’r un arall yn cael ei drefnu ar y cyd â RASASC a bydd yn darparu cefnogaeth ymarferol ychwanegol i oroeswyr, gan gynnwys y rhai sydd am adrodd ynghylch achos o gam-drin i’r heddlu.
Y gobaith yw y bydd y cynllun i helpu myfyrwyr sydd wedi cael eu cam-drin yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol iddynt gyda golwg ar wybod ble i geisio cymorth.
Yn ôl Berni Durham-Jones, roedd graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol yn “hollol ysgytwol”.
Tynnodd sylw at adroddiad a gyhoeddwyd gan y Ganolfan CSA (canolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol) ym mis Mehefin eleni a oedd yn amcangyfrif bod 15 y cant o ferched a menywod ifanc yng Nghymru a Lloegr wedi profi rhyw fath o gam-drin rhywiol tra bod yr un peth yn berthnasol i bump y cant o fechgyn a dynion ifanc.
Dywedodd Mrs Durham-Jones: “Mae cam-drin plant yn rhywiol yn amlwg yn bwnc dinistriol i bobl ac ar hyn o bryd mae tua 500,000 o blant yn dioddef cam-drin rhywiol yn y DU.
“Roeddem yn ymwybodol bod angen cefnogaeth ar lawer o bobl ifanc, yn enwedig mewn colegau a phrifysgolion.
“Bydd yr arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn ein galluogi i allu darparu cwnsela a Chynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol iddynt ar gyfer llu o faterion.
“Er enghraifft, os ydyn nhw’n cael trafferth efo’u gwaith coleg, bydd yr ISVA yn gallu bod yn gyswllt rhwng y tiwtor a’r myfyriwr.
“Mae’n anodd iawn i bobl sydd wedi dioddef i gymryd y cam nesaf a dweud wrth rywun amdano ac weithiau mae pobl yn dioddef mewn distawrwydd am nifer o flynyddoedd.
“Mae gennym bobl yn eu 70au a’u 80au sy’n ein ffonio ac yn dweud ‘Rwy’n difaru na wnes i wneud yr alwad ffôn hon flynyddoedd lawer yn ôl’ ond mae mor anodd codi’r ffôn a dweud hynny.
“Mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn delio â’u hemosiynau yn golygu nad ydyn nhw’n gallu ceisio cymorth ar unwaith bob amser, ond nod y prosiect hwn yw eu helpu i estyn allan yn gynt nag yn hwyrach, efallai yn eu 20au yn lle cadw’r cyfan i’w hunain am nifer o flynyddoedd.
“Gall rhannu’r baich newid cwrs bywyd rhywun yn ddramatig oherwydd nad ydyn nhw’n byw gyda’r cywilydd hwnnw a’r euogrwydd hwnnw mwyach.
“Mae’r broses yn golygu deall nad eich bai chi ydyw a chaniatáu i’ch hun gredu hynny a gweithio trwy hynny gan ddefnyddio strategaethau ymdopi priodol, ac yna byddwch chi’n gallu cael bywyd cyflawn wrth symud ymlaen.
“Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym ‘rydych wedi achub fy mywyd oherwydd doeddwn i ddim yn gallu gweithredu’n iawn ond rŵan rydw i wedi gallu gweithio trwyddo ac rwy’n ei ddeall ac rwy’n gwybod nad ydw i ar fai’.
“Bydd y budd hwnnw wedyn yn parhau drwy’r cenedlaethau. Trwy wella bywyd unigolyn sydd wedi dioddef camdriniaeth, rydych chi hefyd yn gwella bywydau eu plant a phlant eu plant.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Andy Dunbobbin sy’n teimlo’n angerddol am fynd i’r afael â cham-drin yn ei holl ffurfiau. Mae’r ffaith ei fod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd efo ni yn anfon neges wirioneddol bwerus.”
Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae cam-drin rhywiol yn drosedd ddifrifol sydd â chanlyniadau hirhoedlog i ddioddefwyr, a dyma pam mae mynd i’r afael â’r felltith hon yn un o fy mlaenoriaethau pennaf.
“Rwy’n falch o allu cefnogi’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan Cerrig Camu Gogledd Cymru a’r sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda goroeswyr camdriniaeth i’w helpu i sicrhau dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.”
Dylai unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd angen cefnogaeth ffonio Cerrig Camu Gogledd Cymru ar 01978 352717 neu ymweld â’r wefan yn www.steppingstonesnorthwales.co.uk