Skip to main content

Lansio ffilm rymus am ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Ar 30 Ionawr, dangoswyd ffilm newydd drawiadol, ‘Digon yw Digon’ , am y tro cyntaf yn Sinema’r Empire yng Nghaergybi. Wedi'i hariannu gan y Gronfa Strydoedd Diogelach, nod y ffilm ydy codi ymwybyddiaeth am effeithiau difrifol ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith disgyblion ysgol blwyddyn 8 ledled Cymru.

Mae ‘Digon yw Digon’ yn dramateiddio digwyddiadau bywyd go iawn sy’n cynnwys unigolyn ifanc sy’n cael eu dal mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n mynd allan o reolaeth yn gyflym. Mae’r ffilm yn edrych ar themâu perthnasol fel pwysau gan gyfoedion a dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ymhlith pobl ifanc. Ei nod ydy tynnu sylw at sut y gall gweithgaredd y gall pobl ifanc yn eu harddegau ei ystyried yn hwyl diniwed fynd ar chwâl yn hawdd, hefo cosbau difrifol.

Cafodd y ffilm ei hariannu drwy Gronfa Strydoedd Diogelach. Mae hon yn rhaglen gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol ymgeisio am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal troseddau mewn cymdogaethau.

Yn dilyn y dangosiad cyntaf, a oedd hefo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymhlith y gynulleidfa, bydd Swyddogion Heddlu Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio’r ffilm fel rhan o gynllun gwers a gyflwynir i bobl ifanc 12-14 oed fel rhan o Raglen Heddlu Ysgolion Cymru, sy'n fenter bartneriaeth sy’n gweithio hefo Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gostyngiad yn lefelau trosedd ac anhrefn yn ein cymunedau ifanc.

Roedd y wers addysg ‘Digon yw Digon’ wedi’i threialu gan nifer o swyddogion heddlu mewn gwahanol ysgolion yng Ngogledd Cymru rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2023 er mwyn sicrhau ei hansawdd. Lansiwyd y ffilm a’r cynllun gwers yn ardal Caergybi, yn rhannol er mwyn fynd i’r afael â phryderon ynghylch gweithrediadau gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar drigolion. Ym mis Tachwedd 2023, ymwelodd y CHTh â Chaergybi er mwyn clywed pryderon ynghylch trosedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a thrafod mesurau er mwyn helpu pobl ifanc yn y dref.

Dywedodd Anna Mitchell, Rheolwr Rhanbarthol Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru  Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ‘Digon yw Digon’ yn ffilm berthnasol sy’n adlewyrchu profiadau bywyd go iawn dioddefwyr o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn edrych ar y ffiniau rhwng hwyl ac ofn. Hefo'r bwriad o herio meddylfryd ac agweddau, mae'n ddoniol ac yn emosiynol.

“'Da ni'n dilyn taith Aron, unigolyn ifanc hoffus sy’n cael ei ddylanwadu gan ei grŵp o ffrindiau er mwyn achosi niwsans i bobl eraill er mwyn cael ‘likes’ ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond pan fydd ei gymdogion swnllyd yn dechrau effeithio’n ddifrifol ar ei deulu ei hun, mae'n sylweddoli'n fuan ei fod wedi mynd yn rhy bell a'i fod angen help. 

“Yn y mewnbwn addysgol newydd cyffrous hwn sy'n cael ei gyflwyno gan ein tîm o Swyddogion Heddlu Ysgolion ni, mae disgyblion yn trafod y mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol maen nhw wedi eu gweld neu wedi clywed amdanyn nhw yn eu cymunedau nhw. Maen nhw hefyd yn nodi enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ffilm. Maen nhw'n edrych ar effeithiau hirhoedlog a niweidiol ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gymeriadau allweddol. Maen nhw'n dysgu am y troseddau a chanlyniadau sy'n gysylltiedig hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwybod lle i gael cyngor a help. 

“'Da ni'n hynod falch o'r ffilm ac mae wedi bod yn wych derbyn adborth cadarnhaol gan ddysgwyr ac athrawon. Mae’r ymgysylltiad cadarnhaol rhwng myfyrwyr a’u Swyddogion Heddlu Ysgolion yn hanfodol er mwyn creu cymunedau saff. Drwy’r mewnbynnau addysgol ataliol effeithiol hyn, ein perwyl ni ydy atal pobl ifanc rhag troseddu, a’u cadw allan o’r system cyfiawnder troseddol.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r ffilm hon yn amlygu’r problemau gwirioneddol sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ffordd sy’n apelio at gynulleidfaoedd ifanc nad ydyn nhw efallai’n deall y canlyniadau’n iawn.

“Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau’n flaenoriaeth. Mi fyddai'n parhau gweithio hefo Heddlu Gogledd Cymru er mwyn chwilio am ddulliau arloesol o gynyddu dealltwriaeth ac atal ymddygiad niweidiol ymhlith rhai o’n pobl ifanc.

“Drwy gyfuno ffilm berthnasol a thrafodaeth agored am ganlyniadau cyfreithiol, 'da ni'n gobeithio atal ymddygiadau cyn iddyn nhw ddechrau.”