Skip to main content

Lansio prosiect newydd er mwyn helpu pobl ifanc daclo hiliaeth

Dyddiad

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sy'n elusen addysg gwrth-hiliaeth, wedi sicrhau cyllid gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin ar gyfer prosiect er mwyn taclo hiliaeth yn y rhanbarth. Mae cyllid ar gyfer y prosiect yn dod o fenter Arloesi i Dyfu'r Comisiynydd, sy'n helpu ffyrdd newydd ac arloesol o ddatrys y problemau a all arwain yn aml at ymddygiad troseddol mewn cymunedau.

Nod y prosiect, sef enw Leaders of Now, ydy herio hiliaeth drwy alluogi sgyrsiau parhaus o fewn ysgolion uwchradd am hiliaeth ac atal hiliaeth. Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan ddisgyblion a'i deilwra i bob grŵp ysgol er mwyn helpu pobl ifanc deimlo'n hyderus wrth herio hiliaeth o fewn eu hardaloedd eu hunain a mynd ati i fod yn erbyn hiliaeth yn eu  cymunedau.

Y bwriad ydy i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth weithio hefo pedair ysgol uwchradd yn Sir y Fflint, hefo bob ysgol hefo'r hawl i anfon pum disgybl ar y cwrs. Y disgyblion sy'n gyfrifol, ond maen nhw'n cael arweiniad gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Mae'n rhoi amser i ddisgyblion drafod ac adlewyrchu ar wrth hiliaeth mewn lle a rennir ac yna cymell newid o fewn eu hysgolion eu hunain.  Gwnaiff y tîm weithio'n uniongyrchol hefo disgyblion hŷn er mwyn eu helpu nhw ddod yn arweinwyr gwrth-hiliaeth yn yr ysgol. Ond y gobaith ydy bydd plant o bob blwyddyn yn yr ysgol uwchradd yn elwa. Gorchwyl allweddol i lysgenhadon fydd sefydlu grwpiau gwrth hiliaeth mewn ysgolion, sy'n agored i bob oed. 

Mae prosiect fel hyn yn bwysig achos, yn ôl llywodraeth y DU, roedd 118,573 o droseddau casineb wedi'u cofnodi gan yr heddlu a oedd wedi targedu dioddefwyr ar sail hil a/neu grefydd yn 2021/22.  Mae trosedd casineb hiliol wedi codi 19% ac mae troseddau casineb crefyddol wedi codi 37% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 70% o holl droseddau casineb yn berthnasol i gasineb hiliol yn unig (ddim yn cynnwys crefydd).

Dywedodd April Herzog, Gweithiwr Addysg Gogledd Cymru dros Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: "Bydd bob un o'r ysgolion 'da ni'n gweithio hefo nhw ar fannau gwahanol ar eu taith yn erbyn hiliaeth.  Byddan nhw'n cael help er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth am hiliaeth a chynnal ymchwil yn eu lleoliadau eu hunain er mwyn nodi lle bydd angen hoelio eu sylw. 

"'Da ni'n edrych ymlaen yn fawr at weithio hefo'n harweinwyr ifanc er mwyn herio'r problemau sy'n bwysig iddyn nhw yn eu hardaloedd. 'Da ni eisiau rhoi hyder iddyn nhw a llais ymysg uwch arweinwyr er mwyn effeithio newid a mynd ati i annog gweithgarwch gwrth hiliaeth tymor hir o fewn eu hysgolion nhw a thu hwnt."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae cyflawni cymdogaethau saffach a helpu dioddefwyr a chymunedau yn gonglfeini fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru. Mae trechu hiliaeth yn hanfodol i hyn. Pobl ifanc ydy ein dyfodol ni, ac arweinwyr yfory. Ond mae'n hynod bwysig eu bod nhw'n dysgu am y peryglon a berir gan hiliaeth a sut i'w drechu heddiw. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld Cymru wrth-hiliaeth erbyn 2030. Mae hwn yn nod dwi'n gefnogi. Mae prosiectau fel hwn gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn arloesol ac yn ffordd rymus o gyflawni'r targed hwn."

Elusen gwrth-hiliaeth ydy Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a gafodd ei sefydlu yn 1996. Maen nhw'n gweithio hefo ysgolion drwy Gymru o Fôn i Fynwy gan gyflwyno gweithdai gwrth-hiliaeth a throseddau casineb i dros 20,000 o bobl ifanc bob blwyddyn. Maen nhw hefo hanes o gyflawni prosiectau ar ran Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyllidwyr eraill.

Mae'r fenter Arloesi i Dyfu yn ategu'r blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd â'i ymdriniaeth o Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o brosiectau sy'n gymwys i gael cymorth Arloesi i Dyfu yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. Y peth mwyaf pwysig yw eu bod yn cynnig dulliau newydd a dyfeisgar o ddatrys y problemau a all arwain at droseddu.

Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun Arloesi i Dyfu er mwyn cynorthwyo prosiectau hyd at flwyddyn, gyda'r pwyslais ar arloesi. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ar draws dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000. 

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Arloesi i Dyfu ac am sut i ymgeisio, ewch ar: www.northwales-pcc.gov.uk/innovate-grow