Skip to main content

Lansio strategaeth newydd efo’r weledigaeth o Ogledd Cymru heb drais

Dyddiad

SVD

Mae menter newydd wedi’i lansio heddiw yng Nghanolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, efo’r nod o greu Gogledd Cymru heb drais. Ei henw ydy Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a  bwriad y cynllun ydy  gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth.

Blaenoriaethau allweddol strategaeth Gogledd Cymru ydy:

  • Helpu a chynyddu atal ac ymyrraeth cynnar ynglŷn â thrais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
  • Hyrwyddo diogelu cyd-destunol er mwyn gweithio efo plant a phobl ifanc sy’n fregus i gamfanteisio a / neu gaethwasiaeth fodern.
  • Nodi a rhoi gwelliannau, ymarferiadau da ac arloesi ar waith fel partneriaeth, er mwyn ymateb i drais difrifol.
  • Creu ffordd ataliol yng Ngogledd Cymru, drwy ddeall  risg, profiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod.

Mae’r strategaeth y cyntaf o’i bath yng Nghymru, ac wedi’i chyflwyno fel rhan o’r Ddyletswydd Trais Difrifol sydd yn gyfrifoldeb ar asiantaethau lleol gorfodi’r gyfraith, yn dilyn Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022. Mae’r ddyletswydd yn canolbwyntio ar ddod â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, yr awdurdodau lleol, y gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau penodol o’r adrannau iechyd a chyfiawnder troseddol, at ei gilydd er mwyn ymdrin â thrais difrifol a’i achosion gwraidd mewn ardaloedd lleol.  

Mae trais difrifol yn cael effaith ddwys ar unigolion a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Yn ystod 2022-23, mi gofnododd yr heddlu dros 30,000 o droseddau ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn 44 trosedd ym mhob 1,000 o bobl, er roedd hyn yn lleihad o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Dywedodd Ian Bancroft, Cadeirydd Bwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel, a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam: “Mae’r strategaeth arwyddocaol yma yn nodi trobwynt yn ein hymdrechion ni  i greu rhanbarth mwy diogel a thecach. Pan mae trais difrifol yn digwydd, a phan mae pobl yn byw yn ofni trais, mae’r effaith ar ein cymunedau ni’n ddinistriol. Mae’r strategaeth, sydd wedi’i chreu drwy gydweithrediad helaeth ein cyfranwyr allweddol a’n partneriaid cymunedol hanfodol, yn cynnig cynllun mentrus a chynhwysfawr er mwyn achosi newid. Mae ein gweledigaeth yn amlwg: Gogledd Cymru lle nad ydy trais yn dylanwadu, lle mae unigolion yn teimlo’n ddiogel ac yn ysbrydoledig, lle gallai deuluoedd ffynnu mewn amgylchfyd o barch ac urddas.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Yng Ngogledd Cymru, mi wnawn ni gyflawni gofynion y Dyletswydd Trais Difrifol fel rhanbarth. Mae llawer i fod yn falch ohono ar draws partneriaethau sy’n bodoli yn barod, ac mae hanes cryf o gydweithrediad ar draws yr asiantaethau. Mae ymddiriedaeth, hefyd, yn beth allwn ni ei gyflawni yn ein nod ni o gydweithio efo’n cymunedau ni, er mwyn atal a lleihau trais difrifol yng Ngogledd Cymru. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, dwi’n falch iawn bod fy swyddfa yn arwain y gwaith ar y strategaeth ac yn helpu creu dyfodol mwy diogel i holl breswylwyr y rhanbarth.”

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Fel Arweinydd Cymru Gyfan dros Drais yn erbyn Merched a Genethod, dydw i ddim yn goddef unrhyw un yn ein cymdeithas sy’n cyflawni troseddau fel hyn.

“Ni ddylai unrhyw un fyw mewn ofn na dioddef trais, a gallai’r effaith o gael profiad o hynny fod yn wirioneddol ddinistriol. Mae’r Ddyletswydd Trais Difrifol yn darparu cynllun sy’n canolbwyntio ar gymryd camau ataliol a rhagweithiol cadarn.

“Mae’r Ddyletswydd yma yn ychwanegu at bartneriaethau sy’n bodoli’n barod, a mi wnawn ddefnyddio’r sylfaen yma er mwyn gwneud gwelliannau pellach. ‘Dwi’n croesawu’r dull cydweithredol yma, fydd yn gweithio tuag at leihau trais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”

Dywedodd Diane Jones, Arweinydd Prosiect Trais Difrifol o Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Mae’r Strategaeth Trais Difrifol yma wedi ei seilio ar dystiolaeth ac wedi’i llunio er mwyn cael effaith tymor hir. Nid ond ymateb i ddigwyddiadau ydan ni – ‘da ni’n buddsoddi yn rhagweithiol mewn atal, ymyrryd ac yn adeiladu cadernid yng nghymunedau Gogledd Cymru, er mwyn torri’r cadwyn drais.”

Dywedodd Fflur Emlyn, Pennaeth Gweithrediadau a Dirprwy Prif Weithredwr Canolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru: “’Da ni’n helpu plant, pobl ifanc ac oedolion yng Ngogledd Cymru, sydd wedi cael profiad o gam-drin rhywiol neu / a thrais, ac wedi rhedeg ymgyrch ataliol – Peidiwch â Dwyn fy Nyfodol – sy’n cyflwyno hyfforddiant i ysgolion, colegau, prifysgolion a chlybiau chwaraeon ledled Gogledd Cymru.

“’Da ni wedi ymgyrchu codi cydnabyddiaeth amlder ac effaith trais a cham-drin rhywiol, nid yn unig o safbwynt y dioddefwr neu’r goroeswr, ond hefyd o safbwynt y troseddwr. ‘Da ni’n credu ei bod yn hanfodol darparu ymyrraeth i ddioddefwyr cam-drin a thrais rhywiol. Mae hefyd yn angenrheidiol ein bod yn ymdrin ag achosion craidd y broblem – sef y troseddu. Mae’r ymyrraeth yma wedi achosi newid yn ymddygiad, ac ochr yn ochr efo’r strategaeth newydd yma, ein gobaith ni ydy parhau  ymgysylltu hefo bechgyn ifanc a dynion, ac mi wnaiff gyfrannu at y daeargryn sydd ei angen er mwyn cael gwared ar drais rhywiol yn ein cymdeithas.”

Am ragor o wybodaeth am Strategaeth Trais Difrifol Gogledd Cymru, ewch ar: Final formatted version North Wales strategy v3 (1).pdf (northwales-pcc.gov.uk)