Skip to main content

Lansio ymgyrch er mwyn i bobl ifanc ddefnyddio’r we yn ddiogel

Dyddiad

Dyddiad
image

Ar ddechrau mis Gorffennaf, ac fel mae’r gwyliau ysgol yn agosáu, mae Get Safe Online – gwasanaeth wedi’i gomisiynu gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol efo trigolion yr ardal – yn lansio ymgyrch “Safer Kids”, er mwyn annog y plant ledled yr ardal i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn hyderus. Boed ar gyfer yr ysgol, er mwyn chwarae gemau neu gymdeithasu efo ffrindiau, mae plant yn defnyddio’r we fwy a mwy, ac mae’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny’n ddiogel.

Mae Get Safe Online yn arwain fel ffynhonnell gwybodaeth di-duedd, ffeithiol ac hawdd-i’w-ddeall ynglŷn â diogelwch ar-lein yn y DU, ac mae ei gyngor ar gyfer yr ymgyrch yn cynnwys:

  • Eistedd a siarad efo’ch plentyn yn rheolaidd am eu gweithgareddau ar-lein, a gofyn iddyn nhw ddangos wrthych chi be’ maen nhw’n ei wneud.
  • Llywio eich plentyn tuag at chwilio, gwefannau ac apiau diogel. Gwiriwch be’ maen nhw’n ei wylio ac / neu yn ei rannu ar wefannau ffrydio fel YouTube a TikTok.
  • Ymgyfarwyddo efo’r gemau neu batrymau newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy’n denu cyhoeddusrwydd negyddol oherwydd eu bod yn dreisgar, yn annog gamblo, neu’n gadael y drws yn agored i negeseuon oddi wrth bobl ddieithr, sy’n galluogi rhwydo posibl neu fathau eraill o orfodaeth.
  • Peidio tanbrisio’r rhan mae cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseuo yn ei chwarae ym mywyd eich plentyn, na sut y gall y pethau maen nhw’n ei brofi ar-lein wneud iddyn nhw deimlo.
  • Mae terfynau oed ar gemau, cyfryngau cymdeithasol, apiau rhannu lluniau / fideos a llawer o apiau a gwefannau eraill yn bodoli am reswm, felly gwnewch yn siŵr nad ydy eich plentyn yn defnyddio’r rhai lle buasen nhw o dan oed.
  • Ystyried sefydlu meddalwedd ac apiau rheolaeth rhieni ar gyfrifiaduron, teclynnau symudol a chonsolau gemau.
  • Rhybuddio eich plentyn am wybodaeth gyfrinachol, manylion personol a lluniau / fideos ynglŷn â’u hunain neu bobl eraill pan maen nhw’n eu rhannu mewn negeseuon, proffiliau a sgyrsiau.
  • Heb reoli gormod arnyn nhw, cadw llygad ar weithgareddau ar-lein eich plentyn, a sut i adnabod pan dydy rhywbeth ddim yn iawn.

Dywedodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: “Mae gan y we gymaint o fanteision. Mae rhoi cyfle i’n plant ei ddefnyddio er mwyn helpu eu hastudiaethau nhw, ymgysylltu efo ffrindiau ac hyd yn oed siopa, wedi dod yn ail natur.

“Fodd bynnag, fel efo llawer o’r pethau maen nhw’n wneud, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n eu haddysgu nhw i ddefnyddio’r we yn ddiogel. Mae ein hymgyrch ni y mis yma yn canolbwyntio ar gyngor allweddol i helpu ein plant i gyd ddefnyddio’r byd ar-lein mewn ffordd barchus a diogel.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Dros wyliau’r haf, mi fydd llawer o rieni a gwarchodwyr yn naturiol yn trio cydbwyso gwaith, teulu a chartref, ac weithiau ‘da ni gyd yn gadael y plant i blesio’i hunain, ar eu teclynnau nhw.

“Ond gallwn ni gyd gymryd camau syml er mwyn sicrhau bod ein teuluoedd yn defnyddio’r we yn ddiogel, ac mi fuaswn yn annog pawb sy’n gofalu am blant ddilyn cyngor Get Safe Online, sy’n wasanaeth ‘dwi’n falch o’i gomisiynu fel rhan o fy nghynllun i weld Gogledd Cymru lle mae lleihad pellach mewn troseddau, a lle mae pobl yn cael eu diogelu gymaint â phosib.”

Am ragor o gyngor, ewch ar wefan Get Safe Online – getsafeonline.org – a chwiliwch am “diogelu plant”.