Skip to main content

Llawenydd Joy wrth ennill gwobr am hwb £25 miliwn gorsaf heddlu i economi'r rhanbarth

Dyddiad

Llawenydd Joy wrth ennill gwobr am hwb £25 miliwn gorsaf heddlu i economi'r rhanbarth

Mae cwmni adeiladu sy’n gyfrifol am orsaf heddlu newydd wedi adeiladu etifeddiaeth a fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod - gan gynnwys hwb o £25 miliwn i economi’r rhanbarth.

Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, bod y contractwyr Galliford Try nid yn unig wedi adeiladu pencadlys heddlu ecogyfeillgar yn Llai, ond hefyd wedi cryfhau economi’r rhanbarth, creu swyddi sy’n talu’n dda a chyfleoedd eraill i bobl leol.

Mae hyn i gyd yn cyfateb i hwb economaidd o tua £25 miliwn mewn gwariant i fusnesau a siopau’r rhanbarth.

Ac mae’r cwmni sydd â chanolfannau ledled y wlad - a swyddfa ranbarthol newydd sydd ar fin agor yn yr Wyddgrug – o’r farn mai’r person sy’n gyfrifol yn bennaf yw ei reolwr Cymuned a Chymdeithasol Gogledd Orllewin Lloegr Joy Woods, sydd wedi’i lleoli yn Warrington.

Hi oedd yr enillydd yng nghategori newydd Gwobr Gwerth Cymdeithasol mewn seremoni a gynhaliwyd dan nawdd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Arfon Jones, yng Ngwesty’r Celtic Royal, yng Nghaernarfon a roddodd ganmoliaeth hael i Galliford Try.

Dywedodd: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hwb economaidd enfawr i’r rhanbarth ond mae hefyd wedi cyfrannu’n helaeth o ran gwerth cymdeithasol gydag ymweliadau gan blant ysgol lleol, mentrau sy’n cynnwys rhoi profiad gwaith i bobl ddi-waith, creu prentisiaethau a hyd yn oed diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd lleol hefyd.

Rwy’n benderfynol y bydd prosiectau seilwaith mawr fel hyn a phrosiectau llai hefyd yn rhoi budd i’w cymunedau ac mae Joy wedi bod yn enghraifft wych o sut y gellir cyflawni hyn.”

Meddai Joy: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint fawr i mi, ac yn bersonol rwy’n falch i dderbyn y wobr hon, ond ni fyddai wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad ac angerdd gweddill tîm Galliford Try.

Roedd y cleient, Heddlu Gogledd Cymru, hefyd yn agored i syniadau newydd ac mae’r llwyddiant i’w briodoli iddyn nhw hefyd.”

Dros gyfnod y prosiect gwerth £17.5 miliwn, sefydlodd Joy a’i thîm berthynas gref gyda Charchar EM Berwyn yn Wrecsam ac meddai: “Cynhaliais weithdy gyda chyn-droseddwyr er mwyn esbonio’r cyfleoedd a’r sgiliau cyflogaeth yr oedd eu hangen ar gyfer ein safle.

Esboniais pa fath o sgiliau y mae’r diwydiant adeiladu yn edrych amdano. Fy neges oedd peidiwch â gadael i’r ffaith eich bod chi wedi bod yn y carchar eich dal yn ôl.”

Dywedodd Liz Bryan, Rheolwr Prosiect Ystadau Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r gwaith cymunedol a gwerth cymdeithasol wedi cael ei arwain gan Joy. Bu’n allweddol wrth gysylltu rhwng y contractwr, yr isgontractwyr a’r gymuned wrth ddarparu addysg, nawdd, profiad gwaith a chyfleoedd creu swyddi.

Mi wnaeth Galliford Try ddechrau gweithio gyda’r ysgolion yn yr ardal cyn arwyddo’r contract ym mis Rhagfyr 2016 gydag ymweliad ag Ysgol Uwchradd Darland yn yr Orsedd i gyflwyno gweithdy rhifedd.

Ac mi gynhaliwyd llawer o weithgareddau eraill dros 18 mis y gwaith adeiladu.”

Mae’r rhain wedi cynnwys digwyddiadau cwrdd â’r prynwr, ymgysylltu a sgyrsiau pecyn gwaith Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu a Chanolfan Arloesi Gweithwyr Adeiladu gyda 54 o weithwyr ar y safle, noson agored yng nghampws Coleg Cambria yn Wrecsam, profiad o ffug gyfweliad i ddisgyblion blwyddyn 11 Ysgol Uwchradd Rhosnesni yn Wrecsam, digwyddiad effaith uchel a chyfle i godi ymwybyddiaeth yng Nghanolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a ffug gyfweliadau Gyrfa Cymru yn Ysgol Uwchradd Bryn Alyn yng Ngwersyllt.

Hefyd cafwyd ymweliadau Drysau Agored gan fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr ac o gampws Coleg Cambria yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, digwyddiad merched mewn adeiladu ym Mhrifysgol Glyndŵr, darlithoedd a gweithdai ym mhrifysgol Wrecsam, digwyddiadau Drysau Agored i Ysgol Gynradd Llai, Cyfiawnder Ieuenctid a Chymunedau ar gyfer Gwaith, a sgwrs cyflwyno peirianneg safle i fyfyrwyr ail flwyddyn rheoli adeiladu ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Dywedodd Liz Bryan bod Galliford Try, drwy waith diwyd Joy, hefyd wedi cefnogi nifer o fentrau a phrosiectau cymunedol.

Mae’r cwmni wedi noddi tîm pêl-droed ieuenctid o dan 16 oed Pentre yn Wrecsam, darparu lle storio ar gyfer offer beicio cymunedol ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yng Ngwersyllt, gwaith pŵer pedal gyda phreswylwyr anabl er mwyn annog beicio a ffyrdd egniol o fyw, a darparu pwll tân a llwyfan coed ar gyfer sesiynau chwarae awyr agored i’r elusen adfywio Groundwork ym Mrymbo.

Bu hefyd yn clirio prysgwydd er mwyn gwella ardal o laswelltir a roddwyd i Sw Caer er mwyn darparu tir pori ar gyfer anifeiliaid fel jiraffod, rhinoserosod ac eliffantod.

Bu Joy yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymunedau ar gyfer Gwaith, Groundwork, Cymunedau’n Gyntaf a Gyrfa Cymru.

Mae prosiect Llechen Llân gyda Charchar EM Berwyn yn Wrecsam yn haeddu clod arbennig,” meddai Liz.

Bu Galliford Try yn weithgar wrth gefnogi troseddwyr trwy  brosiect Llechen Lân gydag Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu; gan weithio’n agos gyda hyfforddwyr cyflogadwyedd Carchar EM Berwyn.

Cefnogodd Galliford Try unigolion i feithrin hunanhyder a pharodrwydd at waith, darparu mentora gyrfaoedd, ffug gyfweliadau, profion iechyd a diogelwch y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, hyfforddiant ymddygiadol iechyd a diogelwch a chyfleoedd cyflogaeth ar ôl eu rhyddhau o’r carchar.

Lle bynnag y bo modd, drwy gydol y prosiect mae’r cwmni wedi ceisio defnyddio llafur a deunyddiau gan gyflenwyr lleol. Hyd yma mae 51 y cant o wariant y prosiect wedi bod o fewn 30 milltir i’r safle gyda llawer o’r gweithwyr yn dod o’r ardal gyfagos.”

Ymysg y cwmnïau lleol a gafodd eu cynnwys wrth ymgymryd â phrosiect yr orsaf heddlu y mae ELM o Llai ar gyfer rheolaeth ecolegol y safle, sgaffaldio gan Altrad o’r Fflint, gwaith maen gan Briars Grove o’r Wyddgrug, toeau gan Redwither o’r Fflint gan ddefnyddio cynnyrch Kingspan o’r Maesglas, ffenestri a waliau llen gan Bretton Architectural, a’r addurnwyr JE Curtis o’r Fflint.

Cyflwynwyd y Wobr Gwerth Cymdeithasol i Joy Wood o gwmni Galliford Try gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Mae gan Joy bron i 20 mlynedd o brofiad rheoli ystod amrywiol o brosiectau cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwyedd yn y sector preifat a chyhoeddus.

Mae Cyfleuster Rheoli a Dalfa Gogledd Ddwyrain Cymru yn Llai ei hun hefyd ar y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar Orffennaf 6.

Ymysg yr enwebiadau y mae un ar gyfer y Wobr Oddi Ar y Safle am ymagwedd arloesol gan y contractwr Galliford Try a’i bartner adeiladu PCE Ltd. Fe wnaethon nhw greu ffrâm goncrit cyn-castio, gan arbed £1.5 miliwn mewn effeithlonrwydd a thorri 10 wythnos o’r cyfnod adeiladu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cleient y Flwyddyn ac mae gan yr is-gontractwr Ecological Land Management (ELM), o Llai, gyfle hefyd i ennill gwobr i Fentrau Bach a Chanolig.

Bydd Galliford Try yn trosglwyddo’r adeilad yn ddiweddarach yr haf hwn a disgwylir i’r orsaf fod yn weithredol yn yr hydref.

Mae’r pencadlys rhanbarthol newydd ar safle hen warws Sharp yn Llai a chost gyffredinol y prosiect yw £21.5 miliwn sy’n cynnwys prynu’r safle, gosodiad mewnol a TG.

Bydd yr hen orsaf heddlu yn Wrecsam yn cael ei dymchwel a bydd gorsaf canol tref newydd, gyda desg flaen cyhoeddus, yn agor yn hen Oriel y dref.