Skip to main content

Llwyddiant i Sgowtiaid Ynys Môn - efo buddsoddiad a atafaelwyd gan droseddwyr

Dyddiad

Talwrm

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans a Chadeirydd Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT), Ashley Rogers â Gwersyll Ardal Talwrn ar Ynys Môn ar ddydd Sadwrn, 25 Mai, er mwyn dysgu mwy am waith a gweithgareddau’r Sgowtiaid, ac i weld sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc ar yr ynys, ac i wella cyfleusterau’r gwersyll.

Mae’r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad, efo cefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru. Mae buddsoddiad Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol o arian a atafaelwyd drwy’r llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Trosedd, efo’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Sgowtiaid Ynys Môn yn cynnwys saith grŵp sy’n gwasanaethu pobl ifanc yr ynys gyfan, o 4 oed hyd at 18. Yn bresennol, mae ganddyn nhw aelodaeth o dros 320, a thua 80 o wirfoddolwyr ar ben hynny. Mae’r buddsoddiad gan Eich Cymuned, Eich Dewis wedi helpu i wella’r cyfleusterau toiled yn y gwersyll, wedi talu am hamogau ychwanegol, ac am gelfi ac offer er mwyn ymarfer byw gwyllt, ac i helpu efo cynnal a chadw’r gwersyll.

Mi ymunodd SCCH Caitlin Mcgonigle a David Webster efo Andy Dunbobbin ac Ashley Rogers, i weld y Sgowtiaid yn rhoi ffensys o amgylch y berllan eirin, a gwasgaru pren mân o dan y lloches newydd. Yn ystod yr ymweliad, ‘roedd gweithgareddau eraill yn digwydd, gan gynnwys adeiladu lloches, cynnau tân , gemau gwyllt, a dysgu am hamogau a phebyll.

Dros yr un mlynedd ar ddeg ers i Eich Cymuned, Eich Dewis ddechrau, mae bron i £600,000 wedi ei wobrwyo i bron i 200 prosiect, yn gweithio i leihau trosedd yn eu cymdogaethau, ac i gynorthwyo’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dywedodd Gwirfoddolwr Arweiniol y Grŵp, Sgowtiaid 1af Llanfairpwll o Sgowtiaid Ynys Môn, Annie Simmonite: “Mae Sgowtiaid Môn wrth eu bodd i groesawu’r ymwelwyr i’n gwersyll, ac i dderbyn buddsoddiad gan Eich Cymuned, Eich Dewis unwaith eto. Mae’r buddsoddiad yn hanfodol i’n gwaith, er mwyn cynnal a gwella ein cyfleusterau a’r amgylchedd yng ngwersyll Caeau’r Tŷ Talwrn. Drwy wneud hyn, ‘da ni’n dysgu wrth bobl ifanc am yr amgylchedd a sut i edrych ar ei ôl.

“’Da ni wedi defnyddio’r arian i brynu offer ymarfer byw gwyllt, er mwyn galluogi’r gwirfoddolwyr â hyfforddiant i ddysgu’r sgiliau hynny i’r bobl ifanc. Mae hefyd wedi ein galluogi i wella’r cyfleusterau ymolchi ac i brynu offer newydd mawr eu hangen, i’n helpu i gynnal y gwrychoedd, y perllannau a’r ardaloedd gwersylla. Bwysicaf oll, mae’n galluogi i hyd yn oed rhagor o blant a phobl ifanc ddatblygu parch tuag at yr amgylchedd, ac i ymgysylltu mewn gweithgareddau anturus yn yr awyr agored.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “’Dwi bob tro’n mwynhau fy ymweliadau efo Sgowtiaid Ynys Môn, ac ‘roedd yn bleser ymweld â Thalwrn ac i weld gwaith a gweithgareddau’r Sgowtiaid yn y Gwersyll Ardal. Yn ystod yr ymweliad yma, a’r ddau flaenorol, ‘dwi wedi gweld faint mae’r gwersyll yn ei olygu i Sgowtiaid yr ynys, a sut mae’n eu galluogi i fod yn agos at natur ac i ddysgu gwerth treulio amser yn yr awyr agored. Fel cyn-Sgowt fy hun, ‘dwi’n gwybod faint mae’r sefydliad yn elwa pobl ifanc a ‘dwi’n diolch i bawb yn Nhalwrn am eu croeso cynnes.”

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “’Dwi wrth fy modd wedi medru cynorthwyo Sgowtiaid Ynys Môn efo buddsoddiad gan Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud, drwy ymgysylltu efo a chynorthwyo pobl ifanc ar draws yr ynys, yn hanfodol, ac efo dros 320 o aelodau sy’n cynyddu, ‘dwi’n siŵr bydd Gwersyll yr Ardal yn parhau i fod yn adnodd werthfawr i’r dyfodol.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans: “Mae’r cyfleusterau yng Ngwersyll Talwrn yn gwella o hyd, ac maen nhw’n enghraifft ymarferol o sut mae buddsoddiad Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned, ac i alluogi pobl ifanc i ddysgu gweithgareddau newydd, ac i roi sgiliau gydol oes fydd yn eu helwa yn yr ysgol ac yn y gymdeithas ehangach.”

Am ragor o wybodaeth am PACT, ewch i ww.pactnorthwales.co.uk/cy/ ac am ragor o wybodaeth am waith Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch i ww.northwales-pcc.gov.uk/cy

Am ragor o wybodaeth am Sgowtiaid Ynys Môn, ewch i: sgowtiaidmôn