Dyddiad
Aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy, Dunbobbin i Ysgol Treffynnon ar 7 Gorffennaf i ddysgu mwy am sut mae arian wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr yn helpu ariannu prosiect Success For Life. Mae'r fenter yn defnyddio crefftau ymladd i ddysgu sgiliau bywyd pwysig i blant mewn ysgolion ac aeth y CHTh i gwrdd â'r tîm, er mwyn gweld sut mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi a sut mae'n ymgysylltu pobl ifanc.
Mae Cobra Life Family Martial Arts Academy wedi ei leoli yn Shotton, Sir y Fflint ac mae'r sylfaenydd Gavin Eastham wedi lansio rhaglen addysgiadol i blant sef Success for Life fel cwrs 12 wythnos sy'n defnyddio crefftau ymladd i ddysgu sgiliau yn eu hysgolion. Cynhaliwyd dosbarthiadau mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru ac hefyd yn Swydd Caer.
Derbyniodd y prosiect £2,500 o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis i helpu talu am ddefnyddio’r cwrs ac am hyfforddwr. Mae Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), yn ei nawfed flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros £400,000 wedi'i roi i achosion haeddiannol ac mae llawer ohono wedi'i adennill drwy'r Ddeddf Enillion Trosedd, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr, gyda'r gweddill yn dod o Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae'r rhaglen Success for Life yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau bywyd canlynol: Hunan hyder, gosod targedau, hunan ddisgyblaeth, canolbwyntio, tegwch, cyfrifoldeb, osgoi gwrthdaro, gwaith tîm, caredigrwydd, iechyd, agwedd bositif ac ymddiriedaeth. Cafodd y rhaglen ei ddatblygu gan hyfforddwyr, athrawon ac arbenigwyr addysg. Mae'r dosbarthiadau yn cael eu cefnogi yn y cartref gan rieni a phlant yn gweithio gyda'i gilydd. Wedi i'r plant ddangos yr ymdrech a'r ymddygiad yn y dosbarthiadau a'r tu allan maent yn derbyn tystysgrifau gyda'u hoff arwyr crefftau ymladd arnynt. Mae pob sesiwn yn digwydd yn ysgol y plentyn gan hyfforddwr crefftau ymladd cymwysedig. Cynhaliodd Ysgol Treffynnon sesiynau ychwanegol yn defnyddio theori drwy ymarfer crefftau ymladd.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwy wrth fy modd yn gweld arian o'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn mynd tuag at helpu dysgu sgiliau bywyd pwysig i bobl ifanc wrth iddynt ymgysylltu â'u cyfoedion. Elfen hanfodol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw cefnogi a diogelu plant. Un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn yw drwy roi'r sgiliau a'r weledigaeth sydd angen arnynt i fod yn annibynnol ac yn rhan o gymdeithas, gyda'r hyder a'r hunan-ddisgyblaeth y mae crefft ymladd yn ei ddysgu. Mae'r gwaith a welais gan Cobra Life yn Ysgol Treffynnon yn dangos sut y gallwn weithio gyda'n gilydd ar draws plismona, addysg a chwaraeon i wneud gwahaniaeth i'n pobl ifanc yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd Gavin Eastham, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Cobra Life Family Martial Arts Academy: “Lansiais fy musnes tra fy mod yn ddigartref. Mi wnes i fynd i'r llyfrgell, ymchwilio i fentergarwch a llunio cynllun busnes. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar grefftau ymladd, ond ro'n i am ganolbwyntio ar athroniaeth sydd wrth wraidd crefftau ymladd - sgiliau fel gwella hyder, canolbwyntio a hunan ddisgyblaeth. Dyna sut y gwnaeth Success for Life ddechrau.
“Rwyf nawr yn gweithio'n agos gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid ar draws yr ardal, yn dysgu y rhaglenni hyn ac yn rhoi gwybod yn gyson i rieni/gofalwyr am gynnydd y disgyblion. Cefais yr hyder a'r ymroddiad i wneud hyn i gyd oherwydd i mi ymddiddori mewn crefftau ymladd pan yn blentyn. Fy nod yw pasio'r un lefel o ddewrder a phenderfyniad i'n plant a rhoi'r un gwerthoedd i'r plant wrth iddynt ddod yn oedolion. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynydd a PACT am yr arian sydd wedi fy ngalluogi i ehangu’r rhaglen hon."
Dywedodd Mr Rob Chesters, Athro Arweiniol Gofal, Cymorth ac Arweiniad Ysgol Treffynnon: “Mae’r plant yn Ysgol Treffynnon wir wedi mwynhau’r cwrs ac mae wedi rhoi’r sgiliau y gallent eu defnyddio yn rhywle arall mewn bywyd. Mae hefyd wedi rhoi cadernid iddynt ddefnyddio lleoliadau academaidd ynghyd ag yn y gymuned.”
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Daw rhan o'r cyllid ar gyfer y prosiect Eich Cymuned, Eich Dewis o enillion troseddu ac mae'n iawn fod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a'i roi yn ôl i fentrau cymunedol fel y prosiect 'Success For Life'.
"Mae hyn yn helpu i droi arian drwg yn arian da ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu problemau lleol a sut i'w datrys. Mae plismona yn rhan o'r gymuned, ac mae'r gymuned yn rhan o blismona, ac mae cynlluniau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd bositif o adeiladu ymddiriedaeth mewn plismona."
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae'r dyfarniadau ariannu hyn yn bwysig gan eu bod yn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, yn union fel yr un yma gan Success For Life, a'r cymunedau eu hunain sy'n penderfynu ble orau y gellir gwario'r arian. Bydd y prosiect yn mynd â neges bwysig iawn i ysgolion a gobeithiwn y bydd hyn rhoi'r hyder a'r sgiliau i'n pobl ifanc i ragori."