Skip to main content

Mae SCHTh a Heddlu Gogledd Cymru yn dod i Fangor

Dyddiad

Andy Dunbobbin - The Quay Hotel, Deganwy 2

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yng Nhy Cwrdd y Crynwyr, Stryd y Deon i drigolion Bangor a'r ardal o 1pm i 3pm ar 25 Mai fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd a'i gynrychiolwyr yn Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r comisiynydd yn hapus i siarad am faterion sy'n effeithio trigolion yn eu cymunedau lleol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud i siarad â'r Comisiynydd. Bydd yntau yno yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth mwyaf posib i'r cyhoedd. ⁠Bydd y sgyrsiau yn aros yn gyfrinachol a bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu cynnig awgrymiadau eraill os oes modd i asiantaethau a sefydliadau eraill ddelio â’r problemau yn well.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'n fraint cael dod i Fangor fel rhan o fy nghymorthfeydd misol ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Rwyf bob amser yn ceisio gwrando'n astud ar yr hyn y mae pobl yn dweud wrthyf ac mae'n glir i mi fod nifer o bobl am gael perthynas agosach a mwy personol gyda phlismona, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig.

“Rwyf yn annog pobl leol i gysylltu, archebu lle i gwrdd â mi ac i drafod eu problemau, fel y gallwn wneud ein gorau i fynd i'r afael â nhw. Fel CHTh sy'n rhan o'r gymuned, rwyf yn benderfynol o wneud plismona a’r ffordd mae’n gweithio yn fwy gweladwy -  yn agosach i gymunedau a chymdogaethau ar draws Gogledd Cymru."

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd bedwar dyletswydd, dyma'r blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona; ac i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol.  ⁠

Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio

Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm ym Mangor a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.

Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.

Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.

Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.

Sut i archebu lle

Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu. Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW

Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill.