Skip to main content

Mae system ystafell reoli uwch-dechnoleg newydd am arbed bywydau

Dyddiad

NWP Control room-14

Bydd swyddogion heddlu yn gallu ffrydio digwyddiadau yn fyw yn ôl i’r ystafell reoli pan fydd system uwch-dechnoleg newydd yn weithredol.

Yn ôl Paul Shea, rheolwr ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru, bydd meddalwedd soffistigedig On Call yn arbed bywydau ac yn lleihau straen i staff sy’n cysylltu â swyddogion heddlu ar lawr gwlad.

Roedd yn siarad â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sydd newydd arwyddo siec gwerth £5.8 miliwn i brynu’r system newydd sy’n uwchraddiad o dechnoleg gorchymyn a rheoli presennol yr heddlu.

Mae’r ystafell reoli yn Llanelwy eisoes yn delio â 80,000 o alwadau brys 999 y flwyddyn ar gyfartaledd, ar ben 250,000 o alwadau eraill nad ydynt yn rhai brys, 18,000 o sgyrsiau ar y we a bron i 60,000 o negeseuon e-bost sydd i gyd yn cyfateb ar gyfartaledd i dros 1,100 o gysylltiadau bob dydd.

Cynlluniwyd y system newydd fydd yn cael ei chyflwyno mewn cyfres o gamau i gyd-fynd â’r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN) newydd sydd i’w gyflwyno yn y DU.

Clywodd Mr Dunbobbin fod manteision eraill pecyn uwch-dechnoleg newydd blaengar yr ystafell reoli yn cynnwys y gallu i ganfod union leoliad o lun a dynnwyd o’r olygfa.

Bydd hefyd yn galluogi gweithredwyr yn yr ystafell reoli i ddefnyddio swyddogion ac adnoddau eraill i ddelio â digwyddiadau wrth glicio llygoden.

Yn y cyfamser, bydd y gallu i ffrydio’n fyw o leoliad digwyddiad yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r ail gam a fydd yn rhoi darlun cliriach i reolwyr digwyddiadau o’r hyn sy’n digwydd ac yn eu galluogi i benderfynu ar y ffordd orau i ymateb.

Dywedodd Paul Shea: “Pan fydd yr ail gam yn cychwyn byddwn yn gallu ffrydio digwyddiad yn fyw rhywbeth nad oedd y system bresennol yn gallu ei wneud, a bydd Rheolwr Digwyddiadau yr Heddlu yn gallu ei weld.

“Ar yr un pryd byddwn yn gallu rhannu popeth sydd gyda ni efo’r swyddogion yn y fan a’r lle.

“Os oes gennych chi berson ar goll gallwch atodi ffotograff i’r digwyddiad a’i anfon ac os ydych chi’n riportio digwyddiad a ddim yn hollol siwr ble rydych chi, mi allwn ni anfon neges destun atoch a’r cyfan fydd raid i chi ei wneud yw ateb y neges ac mi fydd hynny’n dweud wrthym yn union ble rydych chi.

“Os tynnwch ffotograff o ble rydych chi, gallwn ddefnyddio’r data yn y ffotograff i ddweud wrthym ble rydych chi a gosod hynny yn y digwyddiad a rhoi marc ar y map i ddweud wrthym ble rydych chi.

“Mae’n barod ar gyfer yr ESN newydd sy’n disodli’r system Airwave bresennol - rydym ar flaen y gad o ran gallu anfon gyda chymorth cyfrifiadur.

“Bydd yn arbed bywydau ond bydd hefyd yn ysgafnhau’r straen ar ysgwyddau ein staff yn yr ystafell reoli.”

Roedd clywed hyn yn galondid mawr i’r Comisiynydd sydd wedi arbenigo mewn technoleg ac sydd hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ymladd troseddau ar-lein ledled y DU ac yn harneisio technoleg fel y gall heddluoedd weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon.

Cafodd ei ethol yn ddiweddar gan y Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd fel eu dirprwy arweinydd ar gyfer technoleg a digidol yr heddlu a dirprwy arweinydd ar gyfer troseddau economaidd a seiberdroseddu, gan gynnwys twyll.

Mae Mr Dunbobbin hefyd yn awyddus i dechnoleg chwarae rhan gynyddol bwysig yn nes adref.

Meddai: “Mae gweithrediad yr ystafell reoli a lefel yr arbenigedd yma wedi creu argraff fawr arnaf.

“Fel rhywun sydd â chefndir yn y maes technoleg, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn cael yr offer a’r cyfarpar gorau sydd ar gael.

“Dyna pam rwy’n falch iawn o allu buddsoddi yn y system anfon â chymorth cyfrifiadur newydd i ategu’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yn yr ystafell reoli.

“Er efallai nad ydyn nhw’n weladwy yn y ffordd draddodiadol gan fod pawb ohonom yn hoffi gweld heddlu yn cerdded y strydoedd, ond mae’r staff yn yr ystafell reoli yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac mae’n dda iawn gweld sut mae’r cyfan yn asio gyda’i gilydd.

“Bydd y system newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr a bydd yn helpu’r arwyr â chlustffonau yma i arbed hyd yn oed mwy o fywydau.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Williams, Uwch Reolwr Digwyddiadau yr Heddlu: “Yn aml iawn yr ystafell reoli yw’r drws ffrynt i blismona. Mae aelodau’r cyhoedd sydd angen cysylltu â’r heddlu yn amlach na heb yn dod trwy’r ystafell hon mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

“Mae ein staff yma yn gorfod delio efo trawma yn rheolaidd, gan orfod delio â dioddefwyr troseddau a phobl sydd mewn lle isel, felly mae’n rôl heriol.

“Rydym yn cynnal hyfforddiant dwys iawn ac mae’r staff i gyd yn fedrus iawn yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud, nid yn unig gyda systemau ond hefyd wrth gyfathrebu â phobl sydd mewn sefyllfa anodd.

“Bydd y system newydd yn rhoi mynediad llawn i swyddogion heddlu at bopeth sydd gennym yn yr ystafell reoli, a hynny yng nghledr eu llaw pan fyddan nhw allan ar batrôl felly bydd yn gam mawr ymlaen o ran technoleg.”