Dyddiad
Mae'r rhestr fer ar gyfer menter 'Eich Cymuned, Eich Dewis', sy'n noddi prosiectau craidd, wedi cael ei gyhoeddi ac mae gofyn i'r cyhoedd nawr bleidleisio dros eu hoff brosiect i dderbyn arian. Mae'r fenter yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.
Yn dilyn derbyn nifer o geisiadau ar gyfer y fenter mae'r panel yn cynnwys Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) wedi dewis rhestr o enwebiadau sydd â'r siawns o gael cyllid ar gyfer eu prosiectau.
Mae'r fenter yn dathlu degawd ym 2023 ac i ddathlu'r garreg filltir hon, mae'r arian sydd ar gael wedi dyblu i £120,000. Daw'r gronfa yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Mae'r grwpiau a phrosiectau sy'n ymgeisio ar gyfer arian fel a ganlyn:
Ynys Môn
- Amlwch Showstoppers – Uwchraddio Offer Sain
- GirlGuiding Anglesey - Prosiect Gwella Storio
- Canolfan Gymunedol Llanfaes - Prosiect Maes Chwarae Llanfaes
- Sgowtiaid Ynys Môn - Prosiect Adnoddau Storio Canolog
Conwy
- Cyfeillion Queens Park, Llandudno - Prosiect goleuo'r nos
- Sgowtiaid Conwy - Prosiect cynnal a chadw Gwersyll Sgowtiaid Rowen
- Cwmni Theatr Kaleidescope - Prosiect Datblygu Theatr Ieuenctid
- Menter Kind Bay - prosiect Celf a Llesiant
Sir Ddinbych
- Blossom and Bloom – Prosiect canolfan lles
- Cyngor Cymuned Efenechtyd - prosiect datblygu maes chwarae cymunedol
- Prosiect Parciau Llangollen - prosiect Llwybr Antur Parc Pengwern
- Clwb Seiclo'r Rhyl - Sgiliau Ffyrdd a Diogelwch ar gyfer seiclwyr ifanc
Sir y Fflint
- Cobra Life - Prosiect Cobra Bully Buster
- Aura Wales Leisure - Prosiect Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid ASB
- Enbarr Foundation CIC - prosiect 'Back to Basics'
- Cyngor Tref Treffynnon - Prosiect Ymgysylltu Ieuenctid
- Grŵp Sgowtiaid 1st Saltney Ferry - Offer gwersylla
Gwynedd
- Byw’n Iach - Prosiect Mentro Allan
- Hamdden Harlech ac Ardudwy - Prosiect gweithgareddau ieuenctid Harlech ac Ardudwy
- Seren Ffestiniog Cyf - Prosiect Serennu yn y Cylch
Wrecsam
- Cyngor Cymunedol Llansantffraid Glyn Ceiriog - Prosiect Clwb Ieuenctid
- CP Rhostyllen - Prosiect ffensio gwrth-fandaliaeth
- Yellow and Blue Group - Our City, Our Tribe
Prosiectau ledled Gogledd Cymru
- Gogledd Cymru Ymateb 4x4 - Prosiect Cefnogaeth Gymunedol
- DangerPoint - Prosiect Gogledd Cymru ddiogelach
- North Wales Crusaders Foundation - Prosiect newid bywydau drwy rygbi
- Woody’s Lodge - Prosiect cyn-filwyr yn y Gymuned
- Youth Shedz Cymru - Prosiect Recovery Shed
Mae'r ffenest bleidleisio nawr ar agor a bydd yn cau ar 17 Mawrth 2023. Gallwch ganfod mwy am bob prosiect a phleidleisio yma: www.surveymonkey.co.uk/r/YCYC_23
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru:- “Mae safon y ceisiadau ar gyfer y fenter eleni yn ardderchog ac rwyf nawr yn galw ar y cyhoedd i ddewis pwy yr hoffent eu gweld yn elwa o'r arian sydd ar gael.
"Mae grwpiau a sefydliadau ar draws Gogledd Cymru yn rhoi eu hamser a'u hegni i helpu eu hardal leol ac mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd dda o roi'n ôl i'r gymuned a helpu'r sefydliadau hyn gyflawni eu hamcanion a'u cynlluniau. Maent yn helpu cadw ein cymdogaethau yn ddiogel ac yn ateb blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Gan mai hon yw degfed flwyddyn y fenter, gyda'r swm uchaf o arian ar gael erioed rwyf yn annog cymaint o bobl â phosib i bleidleisio dros Eich Dewis, Eich Cymuned!"
Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: “Rydym wedi rhoi'r penderfyniad pa grwpiau cymunedol ddylai dderbyn yr arian yn nwylo’r cyhoedd ac rwyf yn annog pawb i edrych ar y prosiectau sydd ar y rhestr fer sy'n anelu at gefnogi cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
“Rwyf wedi bod yn ffodus i weld cymaint o grwpiau cymunedol yn elwa yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi gwneud newid mawr yn y modd y maent yn cyflawni eu gwasanaeth. Gadewch i ni gadw'r momentwm ym 2023 a phleidleisio nawr am eich hoff brosiect."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: “Rwyf yn falch o fod yn rhan o’r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis yn ei degfed blwyddyn o ariannu prosiectau. Mae'r arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brosiectau cymunedol ac yn mynd ymhell i ddatrys problemau lleol a mynd i'r afael â throseddau. Rwyf yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn pleidleisio ar gyfer eu hoff brosiectau.”