Dyddiad
Mae maes chwarae cymunedol poblogaidd ar ochr y brif ffordd ym Mhwllglas, Sir Ddinbych wedi derbyn ystod o offer a chyfleusterau newydd. Mae hyn diolch i arian a gymerwyd o enillion trosedd drwy fenter ariannu Eich Cymuned, Eich Dewis. Ar ddydd Gwener 1 Rhagfyr, fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld â'r maes chwarae, a enwir bellach yn Barc Hamdden Efenechtyd. Tra roedd yno, fe wnaeth y Comisiynydd gyfarfod ag aelodau o Gyngor Cymuned Efenechtyd, gan gynnwys y Cadeirydd Wynn Jones, a phlant lleol o feithrinfa Miri Meithrin a oedd yno er mwyn mwynhau'r cyfleusterau newydd oedd ar gael.
Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.(HGC) Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Roedd aelodau o Gyngor Cymuned Efenechtyd, sy'n cwmpasu ardal Pwllglas, yn ymwybodol fod y cyfleusterau blaenorol ar y safle – cae hefo dau bostyn gôl – yn annigonol ar gyfer y gymuned ehangach. Fe wnaethon nhw benderfynu ymgeisio am gyllid gan Eich Cymuned, Eich Dewis. Roedd hyn er mwyn gwella'r safle i bawb yn y cyffiniau.
Fel rhan o’r uwchraddiad, mae'r maes chwarae bellach yn cynnig offer newydd ar gyfer plant iau, rhai yn eu harddegau a rhieni – gan gynnwys model o gar heddlu wedi'i addurno'n arbennig. Cafodd y darn o offer hwn ei addurno'n arbennig gan dîm fflyd Heddlu Gogledd Cymru fel arwydd ewyllys da i'r gymuned leol. Mae'r cyngor lleol hefyd wedi sicrhau fod yr ardal yn addas i bobl anabl, gan gynnwys arwyddion braille a mynediad i gadeiriau olwyn. Ceir hefyd gafnau blodau a llysiau fel bod pobl yn gallu tyfu eu cynnyrch eu hunain.
Yn ystod yr ymweliad, eglurwyd sut mae'r prosiect yn anelu gwella cysylltiadau cymunedol drwy gynnal digwyddiad. Y gobaith ydy bydd y maes chwarae yn ganolfan i drigolion gydweithio er dyfodol cadarnhaol. Mae'r eglwys leol yn Efenechtyd yn cynllunio trefnu digwyddiadau lleol, fel cystadleuaeth ffotograffiaeth a gŵyl flodau. Mae'r gymuned Fwslimaidd leol yn Rhuthun yn bwriadu defnyddio'r fan er mwyn trefnu cyfarfodydd brecwast a choffi. Y nod ydy hyrwyddo dealltwriaeth am ddiwylliannau amrywiol yn lleol.
Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Roedd yn bleser ymweld ag Efenechtyd er mwyn gweld sut mae cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei roi ar waith.
"Mi wnes i weld o lygad y ffynnon yr ymdeimlad o ysbryd cymunedol dwfn yn yr ardal. Roeddwn i'n parchu'r ffordd roedd y cyngor cymuned wedi gweithio'n agos hefo'r rhai hynny sy'n byw ym Mhwllglas ac Efenechtyd er mwyn ystyried eu barn wrth ddatblygu'r prosiect hwn. Roedd yn bwysig fod holl ddiwylliannau, cefndiroedd ac oedrannau trigolion yn cael eu hystyried a'u cynrychioli'n dda yn y broses ddatblygu.
"Mae Cyngor Cymuned Efenechtyd yn haeddu cael cyllid Eich Cymuned Eich Dewis. Dwi'n falch o weld y prosiect hwn yn helpu fy mlaenoriaeth blismona ar gyfer Gogledd Cymru wrth helpu cymunedau a chyflawni cymdogaethau saffach."
Dywedodd Pat Astbury, Clerc Cyngor Cymuned Efenechtyd: "Yn dilyn adolygiad o'r adnoddau yn y parc hen ffasiwn, penderfynodd Cyngor Cymuned Efenechtyd edrych ar ffyrdd o ariannu atgyweiriad llawn o'r ardal.
"Cyflwynwyd cynigion i sefydliadau ariannu amrywiol ac un o'r cynigion llwyddiannus oedd gan Eich Cymuned Eich Dewis.
"Fe wnaethon ni ddefnyddio'r arian o'r gronfa honno er mwyn prynu 'car heddlu' ac roedd Heddlu Gogledd Cymru yn garedig iawn yn ei addasu ar ein cyfer ni. Mae Miri Meithrin yn defnyddio'r parc pan mae'r tywydd yn caniatáu ynghyd â phlant eraill o'r ardal.
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT:: "Mae ymroddiad cymunedau fel Pwllglas ac Efenechtyd, fel mae'r prosiect hwn yn ddangos wrth uwchraddio eu parc hamdden nhw, yn adlewyrchu'r newid cadarnhaol a ellir ei gyflawni drwy gydweithio. Mae'n galondid gweld manteision sy'n gwella lles trigolion a meithrin ymdeimlad o undod a chynhwysiant. Dwi'n dymuno'r gorau i bawb at y dyfodol."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae parc hamdden Efenechtyd sydd wedi cael bywyd newydd yn adlewyrchu ymroddiad i leihau trosedd, gwella diogelwch a lles cymunedau. Mae'n gydnaws hefo gweledigaeth Heddlu Gogledd Cymru am gymunedau saffach. Mae'r fenter hon yn dystiolaeth am rym prosiectau lleol wrth ymdrin hefo blaenoriaethau plismona, gan greu amgylchfyd mwy cynhwysol i bawb. Dwi'n diolch i Gyngor Cymuned Efenechtyd am eu hymdrechion nhw.
Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis wedi dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio er mwyn lleihau trosedd yn eu hardaloedd. Mae'n helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae ton nesaf menter ariannu Eich Cymuned, Eich Dewis bellach ar agor. Mae £60,000 mewn grantiau ar gael er mwyn ariannu prosiectau grwpiau cymunedol yng Ngogledd Cymru.
Bydd y ffenest ymgeisio yn cau ar 11.12.23. Dewch i wybod mwy ac ymgeisio yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/community-projects-urged-apply-share-ps60k-fund