Dyddiad
Ymwelodd uned therapi symudol newydd i atal trais yn erbyn merched ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan RASASC Gogledd Cymru â Phencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn i rannu ei neges am bwysigrwydd gwarchod merched
Ymwelodd uned therapi symudol newydd â Phencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn heddiw i fwrw goleuni ar ymdrechion i atal trais yn erbyn merched mewn cymunedau ledled y rhanbarth.
Mae'r uned wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o grant cyfalaf ac mae'n cael ei redeg gan RASASC Gogledd Cymru (Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol). Mae'r uned cerbyd symudol yn cynnwys ardal eistedd ac ymgynghori, gyda chyfleusterau i gyfarfod a chael coffi a sgwrs gyd defnyddwyr y gwasanaeth a lle gallent dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth cwnsela.
Y nod ydy cynorthwyo'r rhai hynny a effeithir yn uniongyrchol gan drais rhywiol a'u teuluoedd. Bydd y gwasanaeth y cynnwys yr holl siroedd ledled Gogledd Cymru yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cymysgedd o leoliadau gwledig a threfol, gyda'r nod o ymweld â lleoliadau fel meysydd parcio archfarchnadoedd ac ysbytai er mwyn cynnal sesiynau galw i mewn rheolaidd. Defnyddir y cerbyd hefyd i godi ymwybyddiaeth, bod â phresenoldeb amlwg a chynnyrch gwella diogelwch yn ystod wythnosau'r glas a mynd i ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy gydol y flwyddyn.
Fe'i croesawyd yn y Pencadlys gan grŵp o swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd a Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Roeddent yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r prosiect a'r ymgyrch ehangach i leihau trais yn erbyn merched a genethod.
Mae'r angen am yr uned newydd wedi'i harddangos gan y cynnydd mawr mewn atgyfeiriadau o ran trais yn erbyn merched a genethod yng Ngogledd Cymru a welwyd gan weithwyr proffesiynol mewn blynyddoedd diweddar. Bu cynnydd o 178 yn 2011-12 i 801 yn 2021-22. Gwnaeth RASASC GC hefyd gydnabod yr angen iddo ymestyn ei gyrhaeddiad ledled yr ardal, a bod merched mewn cymunedau ymylol, ardaloedd gwledig, neu'r rhai hynny sydd â diffyg trafnidiaeth neu gysylltiad rhyngrwyd angen gallu cael mynediad at ei wasanaethau a chyngor hanfodol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn anelu i wasanaethu'r gymuned LHDTQ+, y gymuned deithiol, y gymuned BAME a gweithwyr rhyw, a fydd yn gallu asesu sesiynau galw i mewn argyfwng yn y brif ganolfan RASASC, ynghyd â defnyddio'r uned therapi symudol.
Dywedodd Gaynor McKeown, PSG Dros Dro, RASASC Gogledd Cymru: "Mae RASASC GC yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn atal ac ymdrin â phroblemau trais yn erbyn merched a genethod (VAWG) a gwella mynediad at gyngor a chymorth. Rydym wedi lansio'r uned therapi symudol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd cymaint o gymunedau ledled Gogledd Cymru a phosibl, gan weithio gyda'r cymunedau hyn i godi ymwybyddiaeth ac ymdrin â thrais rhywiol.
"RASASC GC ydy'r darparwyr gwasanaethau cymorth a chyngor achrededig mwyaf i holl ddioddefwyr treisio neu ymosodiadau rhywiol yng Ngogledd Cymru. Mae ein tîm o gwnselwyr ac ISVAs cymwys yn rhoi cymorth wedi'i deilwra i oroeswyr sydd am ddim, yn gyfrinachol a gall ei gyflwyno wyneb yn wyneb neu o bell. Wrth weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, rydym wedi nodi fod rhai ardaloedd daearyddol lle nad yw dioddefwyr yn cael mynediad at gymorth. Gyda'r uned therapi symudol newydd a lansio ein rhaglen addysgiadol "Peidiwch â dwyn fy Nyfodol", rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'n gwasanaeth, gan alluogi mwy o ddioddefwyr a'u teuluoedd a effeithir gan drais rhywiol i gael mynediad at gymorth."
Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint croesawu uned therapi newydd RASASC GC i Bencadlys yr Heddlu. Mae RASASC GC wedi creu gwasanaeth hanfodol a wnaiff alluogi cymunedau ac unigolion bregus ledled Gogledd Cymru i gael mynediad at y cymorth a'r cyngor sy'n hanfodol os ydym i oresgyn y pla cynyddol o drais yn erbyn merched a genethod.”
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae ymdrin â cham-drin domestig a thrais rhywiol wrth galon Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a gwnaiff y fenter hon gynorthwyo i gyflawni'r amcanion hynny. Rydym yn falch o gefnogi RASASC, Heddlu Gogledd Cymru a holl bartneriaid eraill yn eu hymdrechion i wneud ein cartrefi a'n strydoedd ledled Gogledd Cymru yn fwy diogel i ferched a genethod."
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Jason Devonport, Arweinydd VAWG Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hon yn ased a chyfle gwych i ymgysylltu gyda'n holl gymunedau, yn enwedig rhai o'n hardaloedd mwy gwledig, lle rydym yn gwybod fod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn digwydd ac yn cael ei hysbysu amdano'n llai aml.
"Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n dioddef yr ymddygiad hwn ond eisiau gallu dod a throseddwyr o flaen eu gwell yn gyflym ac yn effeithiol. Gall y math hwn o ymgysylltu a chymorth ond cryfhau'r ymdriniaeth o bartneriaeth i drais yn erbyn merched a genethod."
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru:
“Mae ein hymrwymiad yn glir. Rhaid stopio trais yn erbyn merched a genethod. Mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn digwydd bob dydd i ferched ac maent wedi rheoli eu bywydau am yn rhy hir o lawer.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i wasanaethau arbenigol er mwyn rhoi cymorth amhrisiadwy sy’n achub bywyd i holl ddioddefwyr VAWDASV. Mae hyn yn cynnwys ymyrraeth gynnar, cymorth ataliol ac addysgiadol, rhaglenni ymyriadau troseddwyr, Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol i ddioddefwyr risg uchel ynghyd ag ymyriadau adfer therapiwtig ar gyfer y cymorth parhaus y rhai hynny a effeithir gan VAWDASV.
“Rydym yn falch o fod wedi ariannu’r uned therapi symudol i gael ei ddefnyddio ledled Gogledd Cymru. Mae’r fenter hon yn cynorthwyo ein hymrwymiad bod gwasanaeth cyhoeddus ac arbenigol cryf yn barod i gynorthwyo lle bynnag mae dioddefwr yn byw yng Nghymru. Rydym eisiau annog unrhyw un sy’n pryderu, sy’n cael eu sbarduno neu sy’n profi VAWDASV i geisio cymorth.”
Ynghyd â'r uned therapi newydd, mae RASASC Gogledd Cymru wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth am fynychder ac effaith cam-drin plant yn rhywiol a thrais rhywiol ar unigolion, goroeswyr, dioddefwyr, eu teulu a'u ffrindiau a chymdeithas. Mewn ymateb i fenter VAWG 16+, gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ariannu RASASC Gogledd Cymru i ddatblygu eu rhaglenni hyfforddiant presennol ymhellach er mwyn bodloni amcanion yr heddlu i ymdrin â'r mater hwn.
Recriwtiodd RASASC Gogledd Cymru arbenigedd TACTA – Cymdeithas Hyfforddiant Canolog Dadansoddiad Gweithrediadol – er mwyn datblygu'r rhaglen hon gan weithio'n agos ar y cyd a RASASC Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r canlyniad, "Peidiwch â dwyn fy Nyfodol", yn weithdy hyfforddiant grymus a gymhellir gan effaith sy'n disgrifio mynychder eang trais rhywiol a sut all cymdeithas ddechrau newid agweddau ac ymddygiadau tuag at ferched, genethod a thrais rhywiol. Gan barhau am dair awr, mae'r gweithdy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth ac amcanion dysgu clir, gyda'r nod o leihau trais, yn enwedig tuag at ferched a genethod sy'n creu'r gyfran fawr o'r boblogaeth a effeithir gan y troseddau hyn.
Mae'r pecyn yn cynnwys dysgu rhyngweithiol, enghraifft bywyd go iawn a llawer o wybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol. Mae diwedd yr hyfforddiant yn cynnwys addewid unigryw i beidio dwyn dyfodol neb, fel gall pawb fyw bywyd yn rhydd o ofn trais rhywiol.
Parhaodd Gaynor McKeown, PSG Dros Dro, RASASC Gogledd Cymru: "Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 35% mewn atgyfeiriadau, ond rydym yn gwybod nad yw hyn yn ddarlun gwir o'r nifer o droseddau sy'n cael eu cyflawni. Gall effaith treisio a thrais rhywiol ar unigolion a'u teuluoedd fod yn ddinistriol a pharhaol. Gyda goroeswyr yn adrodd eu bod yn teimlo fod eu dyfodol wedi'i ddwyn ac wedi newid am byth, mae'r fenter ar y cyd hon yn gyfle i godi hyder y cyhoedd ac annog pobl i godi llais yn erbyn trais rhywiol. Mae hyn fel nad ydy mwy o bobl yn cael eu dyfodol wedi'i ddwyn."