Skip to main content

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan y CHTh

Dyddiad

Mae'r Nadolig yn amser arbennig iawn o'r flwyddyn i bobl ar draws Gogledd Cymru. Wrth i'r Nadolig nesáu, roeddwn i eisiau rhannu neges Nadoligaidd hefo trigolion ac ymwelwyr i'n rhanbarth hardd. Mae hi'n neges lle 'da ni'n adlewyrchu ar y flwyddyn ddiwethaf, ond hefyd yn edrych ymlaen at flwyddyn gadarnhaol, lewyrchus a chynhyrchiol i ni gyd gobeithio. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy swyddfa a minnau wedi bod hwnt ac yma yn y gymuned. Er enghraifft, mi wnes i ddechrau cyfres o gymorthfeydd cyhoeddus, gan gysylltu'n uniongyrchol hefo cymunedau er mwyn gwrando ar farn a phryderon pobl o ran plismona.

Ym mis Mai, fe wnaethon ni drefnu digwyddiad 'Ar agor ar gyfer Busnes' , a oedd yn edrych ar ymdrin â chaethwasiaeth fodern yn economi Gogledd Cymru yn dilyn y pandemig. Ym mis Mehefin, cafwyd digwyddiad 'Diogelwch Seiber Gogledd Cymru', a oedd yn rhoi cipolwg hanfodol i berchnogion busnes ar ddiogelu eu mentrau rhag troseddau seiber sy'n esblygu o hyd. Gan fynd i'r afael â heriau unigryw sy'n wynebu ein cymunedau cefn gwlad, cafwyd digwyddiad ar y cyd yng Nghaernarfon ym mis Mai mewn partneriaeth hefo Heddlu Gogledd Cymru a Thir Dewis. Edrychwyd ar ffyrdd arloesol o wella diogelwch yng nghefn gwlad. 

Ym mis Ebrill, fe wnes i gyflawni ymrwymiad allweddol a wnaed yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Cafwyd cyfarfod cyntaf Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru er mwyn clywed gan ddioddefwyr yn uniongyrchol am eu profiad o'r system cyfiawnder troseddol a dysgu o'u canfyddiadau. 

Wrth i wyliau'r haf nesáu ym mis Gorffennaf, cafodd clybiau a sefydliadau ieuenctid ledled Gogledd Cymru eu hannog i ymgeisio am gyllid drwy fy Nghronfa Bêl-Droed yr Haf arbennig, a brofodd yn hynod lwyddiannus wrth helpu amryw o weithgareddau egnïol i bobl ifanc.

Roeddwn i hefyd yn falch o fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst ym Moduan, Gwynedd. Fel dysgwr Cymraeg fy hun, dwi’n gwybod pa mor bwysig ydy cael cyfleoedd i ddarllen, siarad ac ymarfer yr iaith ac mae’r Eisteddfod yn lle gwych i bawb ddathlu ein diwylliant unigryw. 

Fe gawson ni hefyd amser prysur yn mynd i sioeau sir yr haf ar draws y gogledd. Roedden ni’n Sioe Môn, Sioe Dinbych a Fflint a Sioe Meirionnydd. Fe wnaethon ni fwynhau cyfarfod hefo’r cyhoedd a thrafod fy mlaenoriaethau i fel Comisiynydd. Fe wnaethon ni groesawu dros 5,000 o aelodau o’r cyhoedd i’n stondin ni dros y gwahanol ddigwyddiadau.

Dwi'n falch o ddweud, o ffigyrau 11 Rhagfyr 2023, fod achosion o drosedd ar draws Gogledd Cymru sydd wedi'u cofnodi wedi gostwng bron 13% o'i gymharu â llynedd. Mae'r gyfradd canlyniad cadarnhaol wedi cynyddu ychydig dros 2%. Mae'r rhain yn ganlyniadau cadarnhaol, ond dwi'n ymwybodol fod mwy o waith i'w wneud o hyd. Mi wnâi weithio hefo Heddlu Gogledd Cymru er mwyn lleihau trosedd a gwella cyflawniad ymhellach eto.

Dwi'n darfod y flwyddyn hefo fy Nghronfa Gymunedol ar gyfer y Nadolig, lle dwi 'di neilltuo £10,000, mewn grantiau bach o £500, ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio er mwyn helpu plant a phobl ifanc bregus a'u teuluoedd. Mae enwebiadau wedi'u derbyn gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r ymateb i'r fenter wedi bod yn hynod gadarnhaol, hefo 50 sefydliad ar draws Gogledd Cymru yn debygol o gael help.

Mae'r ychydig o enghreifftiau hyn ond yn gipolwg o'n gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond maen nhw'n dangos yr ysbryd cymunedol yng Ngogledd Cymru 'da ni'n ei werthfawrogi cymaint, yn enwedig dros y Nadolig.

Ond mae'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn gyfnod prysur i Heddlu Gogledd Cymru hefyd. ⁠Hefo bywydau mor brysur, efallai ei bod hi'n anodd dod o hyd i amser i ddod at ein gilydd. Ond mae'n hanfodol ein bod ni'n cael amser i stopio, ymuno hefo'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr a dathlu'r hyn sy'n bwysig i ni yn ein cymuned ni.

Wrth i ni ddathlu'r Nadolig hwn, gadewch i ni oedi er mwyn diolch am ymdrechion diflino ein heddlu a'n gwasanaethau brys ni. Mae ymroddiad ac ymrwymiad swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Gogledd Cymru tuag at ein cymunedau wedi bod yn gyson. Dwi'n diolch o galon i bawb sy'n cyfrannu tuag at ein diogelwch ni.

Boed i dymor yr ŵyl ddod â llawenydd a chynhesrwydd i chi a'ch anwyliaid chi. Wrth i ni edrych ymlaen at 2024, a beth bynnag ddaw yn ei sgil, gadewch i ni barhau ychwanegu at y gwaith aruthrol sydd wedi cael ei wneud yn 2023.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Cofio cynnes

Andy Dunbobbin

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru