Skip to main content

Nod clwb pêl droed o Fôn o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dyddiad

Llangoed1

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i gae Clwb Pêl droed Llangoed ar 20 Gorffennaf i ddysgu mwy am sut mae arian wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr yn cynorthwyo i ariannu eu prosiect. Galluogodd yr ymweliad i'r CHTh gwrdd â'r tîm ynghlwm, gweld sut mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi a sut mae'r prosiect yn ymgysylltu gyda phobl ifanc.

Mae Clwb Pêl droed Llangoed yn glwb cymunedol sydd â thîm pêl droed hŷn sy'n darparu ar gyfer bechgyn ac oedolion rhwng 16-40 oed. Ar hyn o bryd, hwn ydy'r unig glwb pêl droed sy'n Ward Seiriol yn Ynys Môn. Dros y 12 mis diwethaf, mae Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon wedi bod yn gweithio gyda'r Clwb i wella'r adnoddau i chwaraewyr y clwb ynghyd â'r cyhoedd yn yr ardal.

Derbyniodd y clwb £2,500 o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis y Comisiynydd. Roedd arian yn mynd tuag at wella diogelwch yn nhwll ymochel y clwb yn dilyn cyfnod o fandaliaeth. Gosodir giât ddiogelwch yn y twll ymochel er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth y Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), yn ei nawfed flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros £400,000 wedi'i roi i achosion haeddiannol ac mae llawer ohono wedi'i adennill drwy'r Ddeddf Enillion Trosedd, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, gyda'r gweddill yn dod o Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Aeth Mr Dunbobbin i gae'r clwb ar Gaeau Chwarae Tyddyn Paun gan gyfarfod ag Alun Foulkes, Clerc Cyngor Cymunedol Llangoed a Phenmon, a wnaeth y cais am gyllid, ynghyd ag aelod o grŵp rheoli'r Clwb.  Cafodd daith o amgylch y cae a chlywed sut mae'r gymuned leol yn elwa o'r prosiect a sut y gwnaiff cyllid gan y Comisiynydd gryfhau amcanion y prosiect.

Bu ymweliad y Comisiynydd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n ddigwyddiad cenedlaethol gyda 'ffocws ar effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bobl ifanc, a phwysigrwydd ymgysylltu gyda'r cyhoedd ehangach am eu rhan allweddol mewn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.'

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf wrth fy modd yn gweld arian o'm cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo Clwb Pêl Droed Llangoed. 

"Mae ymdrin ac atal trosedd cefn gwlad yn flaenoriaeth o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Rwyf wedi bod yn falch heddiw o brofi sut mae cyllid o'm cronfa wedi cyfrannu at ymdrechion yn yr ardal i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc. 

"Roedd yr ymweliad yn amserol ac roedd yn cyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, achos sy'n amlygu'r hyn ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut y gall gael effaith niweidiol ar gymunedau. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi ymroi i'w atal.

"Fel cefnogwr pêl droed hirhoedlog, rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon sut y gall chwaraeon gael effaith gadarnhaol ar ddod a chymunedau at ei gilydd. Mae prosiect Clwb Pêl Droed Llangoed yn dangos sut y gall chwaraeon gynorthwyo pobl ifanc drwy roi gweithgaredd gwerth chweil iddynt a gallu uno cymuned drwy gefnogi eu tîm lleol.  Pob lwc CPD Llangoed!"

Dywedodd Alun Foulkes, y Clerc Cyngor Cymunedol: "Yn dilyn achos siomedig o fandaliaeth yn y clwb pêl droed, roeddem yn falch o dderbyn cyllid gan Eich Cymuned, Eich Dewis er mwyn adfer ein twll ymochel ar gyfer ein haelodau.

"Heddiw, fe wnaethom groesawu Mr Dunbobbin i'n cae hyfforddi i weld sut caiff yr arian ei wario a phrofi sut mae ein prosiect yn dysgu pobl ifanc, ac oedolion, am benderfyniad wrth eu cadw nhw'n brysur drwy chwaraeon.

"Drwy roi gweithgaredd hyfyw i bobl ifanc, rwyf yn credu ei fod yn y pen draw yn gwneud iddynt gadw'n glir o ymddwyn yn wrthgymdeithasol a bod yn niwsans ar ein strydoedd.

"Rwyf yn falch o fod wedi gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac am eu cymorth. Rydym yn hynod ddiolchgar."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Daw rhan o'r cyllid o brosiect Eich Cymuned, Eich Dewis o enillion trosedd. Mae'n iawn fod arian yn dod o bocedi troseddwyr ac yn dychwelyd i fentrau cymunedol fel Clwb Pêl Droed Llangoed.

"Mae hyn yn helpu i droi arian drwg yn arian da ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu problemau lleol a sut i'w datrys. Mae plismona yn rhan o'r gymuned, ac mae'r gymuned yn rhan o blismona, a chynlluniau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd bositif o adeiladu ymddiriedaeth mewn plismona."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae'r gwobrau ariannu hyn yn bwysig gan eu bod yn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, yn union fel yr un yma gan Glwb Pêl Droed Llangoed. Y cymunedau eu hunain sy'n penderfynu lle ellir gwario'r arian orau. Bydd y prosiect yn mynd â neges bwysig iawn i ysgolion a gobeithiwn y bydd hyn rhoi'r hyder a'r sgiliau i'n pobl ifanc i ragori."