Skip to main content

Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru yn nodi blwyddyn o godi llais y dioddefwr mewn plismona a chyfiawnder troseddol

Dyddiad

Dyddiad
Victims Panel

Flwyddyn yn ôl, cyflawnodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) addewid maniffesto allweddol wrth greu Panel Dioddefwyr ar gyfer Gogledd Cymru. Perwyl y CHTh oedd sefydlu'r panel er mwyn rhoi "cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ddweud wrthym ni'r hyn y gellir ei wneud yn well a dal y CHTh, yr heddlu a'r asiantaethau yn atebol.

Rŵan, yn dilyn blwyddyn o gynnydd a gweithredu, cyfarfu'r panel eto ar 31 Gorffennaf er mwyn helpu darparu hyd yn oed fwy o help i ddioddefwyr troseddau a gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed. Mae'r panel wedi cyfarfod bob chwarter ers ei lansio yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno. Hyd yn hyn, mae 18 o ddioddefwyr wedi rhannu eu profiadau o blismona a'r system cyfiawnder troseddol hefo'r nod o wella gwasanaethau i bobl eraill sy'n mynd drwy'r un broses.

Mae'r panel yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Wayne Jones, ac yn bresennol mae staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (SCHTh) ac yr elusen Victim Support sy’n ddarparu Canolfan Cymorth Dioddefwyr (VHC). Gwasanaeth ydy'r Ganolfan wedi ei gomisiynu gan y CHTh er mwyn cynnig cyngor a help i ddioddefwyr trosedd. Maen nhw'n helpu gweinyddu rhedeg y panel a gweithio hefo dioddefwyr er mwyn rhannu eu profiadau nhw.

Mae'r panel yn rhoi adborth i'r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol drwy SCHTh. Bydd y SCHTh yn paratoi adroddiadau ar gyfer y Bwrdd gan gytuno ar gamau ar sail yr adborth a gaiff ei roi. O fewn ffrâm amser dylai'r Bwrdd ofyn i'r asiantaeth partner roi diweddariadau ar weithredu, argymhellion a gwelliannau a wnaed i wasanaethau dioddefwyr o ganlyniad uniongyrchol i ymgysylltiad hefo dioddefwyr. Mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn gweithio hefo dioddefwyr i'w diweddaru nhw ar unrhyw welliant i'r gwasanaeth.

Trwy gydol ei flwyddyn gyntaf, mae'r themâu i'w trafod yn y pum cyfarfod panel wedi cynnwys trais yn erbyn merched a genethod, troseddau casineb yn erbyn grwpiau Du a lleiafrifoedd ethnig, a stelcio ac aflonyddu.

Yn ystod y flwyddyn, mae'r Panel Dioddefwyr wedi cwrdd hefo aelodau o'r cymunedau gweledol a rhai hefo nam ar eu clyw, yn ogystal â dioddefwyr hefo problemau symudedd er mwyn sicrhau'r gynrychiolaeth ehangaf o gymdeithas. Gall dioddefwyr hefyd ddod â gweithiwr cymorth i gyfarfod y panel os ydyn nhw'n dymuno ac, yn naturiol, mae pob dioddefwr yn gallu rhannu eu profiad nhw yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn ôl eu dewis iaith.

Mae dioddefwyr wedi tynnu sylw at sawl maes gweithredu yn dilyn eu profiadau. Er enghraifft, mae dioddefwyr wedi dweud bod yna ddiffyg cyfathrebu amserol a chyson gan yr Heddlu, hefo swyddogion ddim yn mynd yn ôl at ddioddefwyr pan ddywedon nhw y bydden nhw. Amlygodd pobl eraill y dylai swyddogion ddeall yn well y gwahaniaeth rhwng stelcio ac aflonyddu, ynghyd â'r anghysondeb o beidio â siarad hefo'r un swyddog am fater mewn llaw. Dywedodd mwy fyth fod angen cyfathrebu hefo dioddefwyr anabl mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion nhw'n well. Nodwyd hefyd bod angen i rai swyddogion fabwysiadu meddylfryd datrys problemau ac edrych ar y darlun ehangach mewn achosion, yn hytrach na delio hefo digwyddiadau ar wahân.

Mae'r heddlu wedi gweithredu mewn ymgais i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Er enghraifft, ar ôl un o gyfarfodydd y panel, gwnaeth y Dirprwy CHTh gyfarfod hefo uwch swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Rhoddwyd sawl cam ar waith er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth i ddioddefwyr. Roedd rhai o'r camau hynny'n cynnwys hyfforddiant pellach i swyddogion ar y gwahaniaeth rhwng stelcio ac aflonyddu. Cysylltodd yr uned troseddau seiber hefo un dioddefwr yn uniongyrchol er mwyn trafod sut y gallan nhw gadw eu hwyres nhw'n saff ar-lein.

O ganlyniad i ddewrder un dioddefwr wrth rannu eu profiadau nhw hefo'r panel, cynhaliwyd adolygiad achos amlasiantaeth o'r achos. Diwygiodd asiantaethau eu harferion hefo'r bwriad o wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i ddioddefwyr.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Pan gefais fy ethol, roeddwn yn benderfynol y dylid gwrando ar leisiau dioddefwyr troseddau fel bod gwelliannau yn gallu cael eu gwneud yn y system. Dyma oedd egwyddor sylfaenol Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru, a dwi'n falch ei fod bellach yn nodi blwyddyn ers ei lansio.

"Diben y Panel ydy gwneud yn siŵr bod llais dioddefwyr yn dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau, gan ganiatáu dioddefwyr siarad yn rhydd, fel y gallwn ni ddeall sut i wella eu profiad nhw, a phrofiad dioddefwyr eraill."

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae hyder y cyhoedd mewn plismona a'r system cyfiawnder troseddol yn rhywbeth y gallwn ei wella bob amser. Rhan hanfodol o'n rôl ni yn Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ydy craffu ar waith yr Heddlu a rhoi cyngor adeiladol lle bo hynny'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr a'r cyhoedd yn ehangach.

"Fel Cadeirydd y panel, dwi wedi cael fy syfrdanu gan urddas a didwylledd y dioddefwyr sydd wedi dod ymlaen i adrodd eu stori, a helpu creu newid er gwell i bobl eraill yn yr un sefyllfa. Dwi hefyd yn ddiolchgar i'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr am gydweithio hefo'r dioddefwyr er mwyn adrodd eu straeon ac i'n Swyddog Polisi yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd sef Rhian Rees-Roberts am ei rôl yn y gwaith o greu a rheoli'r panel."

Dywedodd Jess Rees, Rheolwr Ardal, Cymorth Dioddefwyr: “Yn anffodus, yn rhy aml mae dioddefwyr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu diystyru ac nad oes ganddynt lais yn y system cyfiawnder troseddol. Mae Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi profi trosedd roi adborth am eu profiadau a chreu newid. Dylai lleisiau dioddefwyr fod wrth galon y system cyfiawnder troseddol - mae'r panel yma yn un cam tuag at gyflawni hynny."   

Mae Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru yn rhoi help cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau yng Ngogledd Cymru. Gallwch chi gysylltu hefo'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr ar 0300 303 0159 waeth os ydych wedi cysylltu hefo'r heddlu, ac ni waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd y drosedd.