Skip to main content

Panel Heddlu a Throsedd yn cadarnhau Amanda Blakeman fel Prif Gwnstabl Gogledd Cymru

Dyddiad

Andy and Amanda

Mewn cyfarfod ar 26 Medi o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn adeilad Bodlondeb Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, cadarnhaodd aelodau mai Amanda Blakeman ydy Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth. Ms Blakeman ydy'r Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf yn hanes Heddlu Gogledd Cymru. Mae'n ymuno o Heddlu Gwent, lle roedd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl. 

Mae Paneli Heddlu a Throsedd yn gyrff craffu cynrychiolwyr lleol sy'n cadw llygad rheolaidd ar gyflawniad y Comisiynydd. Mae gofyn i’r Comisiynydd ymgynghori gyda’r Panel ar gynlluniau a chyllideb plismona, lefelau'r dreth gyngor a phenodiad Prif Gwnstabl newydd.

Ymunodd Amanda Blakeman â Heddlu Gorllewin Mercia yn 1992 a thrwy gydol ei gyrfa, mae wedi cael sawl swydd. Treuliodd 11 mlynedd cyntaf ei gwasanaeth yn magu profiad a gwybodaeth amhrisiadwy ledled amrywiol rolau fel cwnstabl heddlu.

Yn 2003 cafodd ei dyrchafu i fod yn rhingyll. Ers hynny, ledled sawl rheng, mae wedi arwain wrth gyflwyno gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Mae wedi bod yn gyfrifol am swyddogaethau cudd-wybodaeth a rhagweithiol. Mae wedi bod yn Uwch Swyddog Ymchwilio fel rhan o Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig yr Heddlu. Yn 2008, wedi cael secondiad i Uned Cudd-wybodaeth Rhanbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr, fe arweiniodd ddatblygiad y prosesau hanfodol ynghylch nodi ac aflonyddu Grwpiau Trosedd Trefnedig. Ar ben hyn, mae wedi arwain i gyflawni ymgyrchoedd plismona ar lefel leol fel Pennaeth Ardal Plismona Lleol. Mae hefyd wedi bod yn Bennaeth Gwarchod y Cyhoedd a Phennaeth Cymorth Gweithredol i Heddlu Gorllewin Mercia a Heddlu Swydd Warwick. Mae wedi bod yn Bennaeth Drylliau Tanio Tactegol a Bennaeth Drylliau Tanio Strategol Arbenigol.

Mae gan Amanda radd baglor mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd mewn Trosedd a Throseddeg.

Penodwyd Amanda fel Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mercia ym mis Chwefror 2017. Roedd wedi bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Lleol, ers mis Hydref 2014, i Heddlu Swydd Warwick a Heddlu Gorllewin Mercia. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Gwent yn 2019. 

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o gael fy nghymeradwyo fel Prif Gwnstabl newydd Gogledd Cymru gan y Panel Heddlu a Throsedd a bod y Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf yn hanes yr Heddlu. Rwyf yn ddiolchgar i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a phawb sy'n gysylltiedig yn y broses recriwtio a phenodi am eu ffydd ynof i. Rwyf yn edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma yn cyfarfod swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru a sgwrsio gyda chymunedau lleol.

"Rwyf yn mynd i fod yn rhannu fy strategaeth a'm cynlluniau ar gyfer yr Heddlu yn ehangach wedi i mi ddechrau. Bydd yn amlinellu fy ngweledigaeth am ymdrin â throsedd ymhellach a gwarchod pobl Gogledd Cymru.  Mae'r gwaith caled yn dechrau rŵan, ond mae'n her rwyf yn edrych ymlaen ati."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch fod y Panel Heddlu a Throsedd wedi cadarnhau Amanda Blakeman fel Prif Gwnstabl yn dilyn fy argymhelliad. Bydd Amanda yn gyfrifol am weithio gyda mi er mwyn cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, gyda ffocws mawr ar gynyddu amlygrwydd a gwella cyflawniad.

"Penodi Prif Gwnstabl ydy un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddaf yn eu gwneud yn fy swydd. Rwyf yn ddiolchgar am gymorth fy swyddfa wrth ddod â'r broses recriwtio i ddiweddglo llwyddiannus.   Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Prif Gwnstabl newydd mewn modd adeiladol a chadarnhaol er mwyn sicrhau fod Gogledd Cymru'n parhau lle diogel i bron i 700,000 ohonom sy'n ddigon lwcus o alw'r ardal yn adref."

Mae Amanda yn dechrau yn ei rôl newydd fel Prif Gwnstabl ar 31 Hydref.