Skip to main content

Pawb ar eu hennill wrth i gêm bêl-droed chwalu'r muriau

Dyddiad

220122-PCC Football-7

4-3 oedd y sgôr ond ar y diwedd cytunodd pawb fu’n rhan o gêm bêl-droed yn Wrecsam bod pawb ar eu hennill.

Roedd chwiban olaf y gêm yng nghanolfan Parc Colliers Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn garreg filltir mewn cysylltiadau cymunedol gan fod y gêm rhwng timau o swyddogion heddlu lleol a Chlwb Pêl-droed Bellevue, tîm cymunedol yn cynnwys chwaraewyr o gefndiroedd amrywiol.

Ac mi wnaeth y gêm nid yn unig lwyddo yn ei nod o helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng yr heddlu a’r cyhoedd ond fe roddodd hwb hefyd i gais Dinas Diwylliant Wrecsam ar gyfer 2025.

Syniad y Rhingyll Dave Smith a sefydlodd dîm pêl-droed Gorsaf Heddlu Wrecsam, oedd y gêm ar gae 3G trawiadol y safle, ond yn anffodus nid oedd yn gallu bod yno i weld ei baratoadau’n dwyn ffrwyth oherwydd ei fod yn dioddef o Covid-19.

Ef, yn ei rôl fel Swyddog Plismona Cymdogaeth, a drafododd y syniad gyntaf gyda Delwyn Derrick, y sbardun y tu ôl i glwb pȇl-droed Bellevue, a ffurfiwyd bum mlynedd yn ôl.

Mae'r clwb wedi dod yn ganolbwynt i ugeiniau o ddynion a merched bregus, gyda llawer ohonynt wedi defnyddio’r clwb er mwyn helpu i weddnewid eu bywydau.

Ymhlith y rhai a gymerodd ran yr oedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a ddaeth ymlaen i’r cae fel eilydd yn yr ail hanner i’r Gleision.

Dywedodd y comisiynydd, sydd wedi gwirioni ar bêl-droed, ei fod yn falch iawn o gymryd rhan mewn digwyddiad mor bwysig i hybu cysylltiadau cymunedol.

Mae’n gefnogwr mawr o ethos Clwb Pel-droed Bellevue y mae’n ei ddisgrifio fel un o’r “clybiau mwyaf amrywiol ar y blaned”.

Dywedodd y comisiynydd: “Mae’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni yma yn rhyfeddol. Mae’n fan cyfarfod i bobl o genhedloedd a chefndiroedd amrywiol sy’n gwella bywydau ac yn newid bywydau, gan gwmpasu holl sbectrwm yr enfys.

“Mae’r ffordd y maen nhw’n dod â phobl at ei gilydd o bob rhan o’r gymuned – waeth beth fo’u cefndir – yn gwbl ysbrydoledig.

“Mae hefyd yn dweud llawer am bŵer pêl-droed fel iaith ryngwladol a grym er daioni yn y byd.

“Roedd hi’n addas dros ben felly fod gêm gyntaf y tîm heddlu newydd yn erbyn Bellevue oherwydd maen nhw’n esiampl i ni gyd.

“Mae’n amlwg bod pêl-droed yn helpu i chwalu rhwystrau a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o dimau heddlu yn gwneud yr un peth mewn rhannau eraill o ogledd Cymru,” ychwanegodd.

Dywedodd Delwyn Derrick, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith cymunedol, fod y syniad o gȇm bȇl-droed yn erbyn yr heddlu, oedd yn chwarae eu gêm gyntaf 11 bob ochr, wedi denu diddordeb mawr.

“Roedd tua 30 o bobl eisiau chwarae ond bu’n rhaid setlo ar 22, gan roi tîm gwahanol ar y cae ym mhob hanner,” meddai.

“Mae’n bechod mawr na allai Dave Smith fod yma oherwydd iddo wneud cymaint i wthio’r cwch i’r dŵr,” meddai. “Mae chwarae yn erbyn swyddogion a SCCHau yn helpu pobl i edrych arnyn nhw mewn golau gwahanol - fel rhywun roedden nhw’n rhannu cae pel-droed efo nhw yn hytrach na dim ond rhywun mewn iwnifform.

“Rhan fawr o waith yr heddlu yw atal troseddau a gall y math yma o beth chwarae rhan enfawr yn hynny.”

Yn ei sgwrs i’r tîm cyn y gêm dywedodd Delwyn wrth ei chwaraewyr i beidio osgoi taclo ond i ddangos eu dawn wrth barchu eu gwrthwynebwyr - a’r canlyniad oedd gêm ddifyr a chyffrous, gyda’r fuddugoliaeth yn mynd i’r bechgyn - a’r merched - mewn glas (crysau ac iwnifform.)

Yn absenoldeb Dave Smith camodd ei gydweithiwr PC Simon Hughes i'r adwy fel rheolwr tîm yr heddlu, a chytunodd fod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

“Mae’n helpu i chwalu stereoteipiau ac mae’r hogiau’n gwneud hyn yn eu hamser eu hunain, a rhai wedi cymryd gwyliau er mwyn iddyn nhw allu chwarae,” meddai.

Cynhaliwyd gêm dydd Sadwrn y tu ôl i ddrysau caeedig ond cafodd y cyhoedd gyfle i’w wylio’n fyw wrth iddi gael ei ffrydio fel rhan o gais Dinas Diwylliant Wrecsam ar gyfer 2025, sydd bellach yn magu momentwm.

Ymhlith yr ychydig breintiedig a oedd yn bresennol yr oedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince, ac arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard.

“Mae’n ffordd wych o ddod â’r gymuned at ei gilydd, yn enwedig gan fod yna wefr am bopeth yn ymwneud â phêl-droed yn Wrecsam ar hyn o bryd ers i’r perchnogion newydd gymryd drosodd clwb y dref,” meddai’r Cynghorydd Prince.

Un arall o’r gwylwyr balch oedd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams, sy’n hanu o Gefn Mawr.

“Mae’r math hwn o gêm yn ffordd wych o ddod â’r gymuned ynghyd a chodi ymwybyddiaeth o rolau a chyfrifoldebau pobl. Fel bachgen lleol rwy’n falch o’r hyn sy’n cael ei wneud yma a’r ffaith bod y cyfleusterau rhagorol yma ym Mharc Colliers yn cael eu defnyddio gan y gymuned. Mae'n wych i'r ardal hon," meddai.

Rhoddodd chwaraewyr o'r ddau dîm bopeth i'r gêm ac roedd pawb yn unfryd y dylid cynnal mwy o gemau tebyg yn y dyfodol.

Roedd gan ddau o dîm Bellevue reswm arbennig i fwynhau’r achlysur oherwydd bod y clwb wedi rhoi cyfle iddyn nhw chwarae’r gêm y maen nhw’n ei charu.

Roedd Sian Jones, 38 oed, a oedd wedi bod yn ddi-ofn wrth daclo rhai o'i gwrthwynebwyr mawr, wrth ei bodd gyda'r ffordd yr oedd pethau wedi mynd.

“Roeddwn i’n arfer chwarae pêl-droed yn fy arddegau ond doedd dim timau merched,” meddai. “Pan welais i hysbyseb ar gyfer Belle Vue y llynedd mi wnes i feddwl rhoi cynnig arni eto a rŵan dw i’n ymarfer ddwywaith yr wythnos yn ogystal â gwneud ychydig o hyfforddi fy hun. Rwy’n ei fwynhau’n fawr.”

Mae Olivia Kassab yn un arall a gafodd drafferth dod o hyd i dîm merched ar ôl troi’n 16.

“Roeddwn i’n arfer chwarae i Brickfield Rangers ac fe awgrymodd fy hen reolwr fy mod i’n dod i Bellevue. Mae'n gweithio allan yn dda," meddai.