Dyddiad
Mae cynhadledd sy'n torri tir newydd wedi edrych ar ymateb amlasiantaethau i drais domestig a chaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru
23/11/22: Mae cynhadledd y cyntaf o'i bath wedi digwydd yng Nghyffordd Llandudno er mwyn edrych ar sut y gall asiantaethau a sefydliadau gwahanol, o'r heddlu i wasanaethau iechyd a chymdeithasol, ddod at ei gilydd i ymdrin ag achosion o drais domestig a chaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad, o'r enw Pawb yn Un, yng Nghanolfan Fusnes Conwy ac fe'i trefnwyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan ychwanegu at waith Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru yn yr ardal hon. Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi strategaeth hyd at 2024 gyda'r weledigaeth ganlynol: "Gall pobl Gogledd Cymru fyw bywydau diogel, cyfartal a rhydd o drais, mewn cymunedau heb ofn, cael eu cam-drin na'u camfanteisio."
Mae'r trefnwyr yn cydnabod pa mor bwysig ydy hi fod partneriaid gwahanol yn dod at ei gilydd i herio trais yn erbyn merched, cam-drin domestig, trais rhywiol, caethwasiaeth fodern, masnachu pobl a chamfanteisio. Edrychodd Pawb yn Un ar yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r hyn ellir ei wneud ymhellach, er mwyn ymdrin â'r materion hollbwysig hyn ledled ein rhanbarth.
Roedd y gynulleidfa'n cynnwys cant o gynrychiolwyr ledled y gwasanaethau brys, cynghorwyr lleol, gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol, addysg, grwpiau cymorth a ledled y sector gwirfoddol.
Hwyluswyd y digwyddiad gan Stephen Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chadeirydd Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr a Ruth Dodsworth, cyflwynydd ar ITV, a drafododd ei phrofiad hi ei hun o gael ei cham-drin a'i gorfodi mewn perthynas.
Roedd dwy sesiwn astudio achos er mwyn rhoi cip o lygad y ffynnon i gynrychiolwyr i gaethwasiaeth fodern a cham-drin domestig, a sut all asiantaethau gwahanol weithio fel un er mwyn cynorthwyo dioddefwyr. Roedd yr astudiaeth achos gyntaf yn cynnwys panel gydag aelodau o Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a Barnado's. Edrychodd ar ymchwiliad masnachu pobl cymhleth, yn cynnwys unigolyn ifanc a ddefnyddiwyd fel rhan o rwydwaith cyffuriau Llinellau Cyffuriau.
Roedd yr ail astudiaeth achos gan Jess Russell, goroeswr ac ymgyrchydd cam-drin domestig o Fae Colwyn, a adroddodd am ei phrofiadau trawmatig o gael ei cham-drin mewn perthynas am 18 mlynedd. Rhoddodd Jess gyngor i'r gynulleidfa ar arwyddion cam-drin i edrych amdanynt. Rhannodd enghreifftiau lle gallai awdurdodau fod wedi'i chynorthwyo'n fwy pan oedd y cam-drin yn digwydd.
Gwelodd Pawb yn Un hefyd lansiad Canllawiau Arfer i Amlasiantaethau Caethwasiaeth Fodern Gogledd Cymru gan Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac Anwen Huws, Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu ac Ansawdd), Cyngor Sir Ynys Môn. Gall caethwasiaeth Fodern gwmpasu caethwasanaeth domestig, camfanteisio rhywiol, llafur gorfodol a chamfanteisio troseddol. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr. Mae'n cynnwys amlinelliad o'r llwybrau atgyfeirio mewn lle er mwyn cynorthwyo'r bobl hynny sydd wedi dioddef. Maent hefyd yn rhestru cyfrifoldebau pob sefydliad ac unigolyn. Mae'r canllawiau'n cael eu cyflwyno gan y dylai dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl gael eu gwarchod, cael y cymorth angenrheidiol er mwyn gwella o'u profiadau a chael mynediad at y cyfiawnder maent yn ei haeddu.
Eitem bellach ar yr agenda oedd y rhaglen IRIS ac Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol ysbytai. Arweiniwyd hyn gan Rhian Lewis, Pennaeth Gweithrediadau/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, DASU. Trafodwyd rhaglen er mwyn nodi a chynorthwyo dioddefwyr trais domestig drwy leoliadau gofal iechyd, fel meddygfeydd teulu ac ysbytai yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr: “Rwyf yn falch o weld yr ymdriniaeth hon gan amlasiantaethau i fynd i’r afael â cham-drin domestig yng Ngogledd Cymru. Rwyf wirioneddol yn credu mai’r ffordd orau gallwn gynorthwyo dioddefwyr ydy cael ymateb cymunedol cydlynol sydd â goroeswyr yn graidd iddo. Mae gennym ni gyd ran i’w chwarae er mwyn ymdrin â’r drosedd erchyll hon sy’n plagio cymaint o fywydau ledled Cymru a Lloegr. Mae digwyddiadau fel hyn yn mynd ymhell er mwyn ategu’r ymdriniaeth honno.”
Dywedodd Ruth Dodsworth, Cyflwynydd ITV: "Roedd yn fraint fawr gallu rhannu fy hanes gyda chymaint o bobl ledled sawl sector yng Ngogledd Cymru. Rhaid i ni ddal ati i siarad, fel bod fy mhrofiad o gam-drin domestig a'r daith sy'n dilyn yn cael ei godi ar bob lefel. Mae mor bwysig bod ein gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill yn ymwybodol o arwyddion troseddu, a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt i bobl fel fi er mwyn gwneud sefyllfa ddyrys yn well. Mae rheoli gorfodol yn llechwraidd, ac mae'r effaith yn ddinistriol. Felly, bydd gallu trafod y pwnc yn agored gobeithio'n annog pobl eraill i ddod ymlaen a thorri cadwyni cam-drin domestig."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Ein gweledigaeth oedd y byddai'r gynhadledd newydd hon yn cyfrannu mewn ffordd rymus ac ystyrlon at amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn cymunedau ledled y wlad er mwyn ymdrin â bregusrwydd a chamfanteisio. Rwyf yn siŵr y dysgodd pawb a ddaeth lawer gan y siaradwyr ysbrydoledig ynghylch pa mor effeithiol mae ymyrraeth effeithiol yn gweithio a sut gellir ei reoli'n well er mwyn cyflawni'r canlyniad mae dioddefwyr yn ei ddymuno. Y dioddefwr sydd wrth galon fy nghynllun ymladd trosedd yng Ngogledd Cymru. Dylai fod wrth galon yr oll a wnawn fel gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn ein maes bob amser."