Skip to main content

Peidiwch â chael eich twyllo gan sgam creulon pigiad atgyfnerthu Covid

Dyddiad

020921 Wayne Jones -9

Datgelwyd bod sgamwyr Nadolig creulon yn ceisio codi tâl am drefnu pigiadau atgyfnerthu Covid ffug ar gyfer dioddefwyr yng Ngogledd Cymru.

Daeth y rhybudd gan Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sydd ei hun wedi’i dargedu â neges ffug gyda dolen i “gofrestru” am drydydd brechiad.

Mae'r ddolen yn mynd â phobl i wefan ffug sy'n edrych fel safle GIG dilys ac sy'n gofyn am eu manylion bancio.

Pwysleisiodd Mr Jones nad yw'r GIG yn codi tâl am wasanaethau o'r fath sy'n gysylltiedig â Covid ac na ddylid agor negeseuon testun neu e-byst sy'n gofyn i chi glicio arnynt.

Rhybuddiodd y prif uwch-arolygydd heddlu sydd wedi ymddeol fod y sgamwyr diegwyddor yn anelu at gymryd mantais ar gyfnod yr ŵyl, gyda nifer fawr o achosion o dwyll anghyfreithlon ar adeg pan yw gwariant ar-lein yn cynyddu yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Meddai: “Mae pobl yn gwneud llawer mwy ar-lein y dyddiau hyn, gan gynnwys prynu anrhegion Nadolig neu gyfrannu i elusen, felly mae angen i bawb gofio, os yw cynnig yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg nad yw’n wir o gwbl.

“Mae angen iddyn nhw sicrhau bod ganddyn nhw feddalwedd a waliau tân cywir ar eu ffonau a dyfeisiau eraill fel nad ydyn nhw'n cael eu heintio gan feddalwedd ysbïo ac anghyfreithlon sy'n tracio eu gweithgaredd ar-lein.

“Dylai unrhyw brynu ar-lein gael ei wneud oddi wrth gyflenwyr ag enw da a dibynadwy a dylid gwirio eu polisi dychwelyd a’u polisi yswiriant.

“Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn gwbl ddiogel o ran eich bancio ar-lein a'ch bod yn diogelu eich gwybodaeth breifat.

“Fy nghyngor i yw sicrhau bod eich cyfrineiriau’n ddiogel trwy beidio â defnyddio penblwyddi, enwau teulu ac ati, a pheidiwch â defnyddio’r un cyfrineiriau ar draws cyfrifon pwysig.

“Mae yna hefyd lawer o negeseuon e-bost neu negeseuon testun digymell, yn honni eu bod yn gysylltiedig â pharseli na ellir eu dosbarthu.

“Weithiau maen nhw’n gallu bod yn gyfreithlon ond mae yna lawer iawn o negeseuon e-bost a negeseuon testun gan sgamwyr yn mynd o gwmpas. Os ydych chi'n derbyn neges am dderbyn neu ddanfon parsel, gwiriwch wefan swyddogol y cwmni dosbarthu bob amser lle gallwch dracio unrhyw barseli.

“Yn aml iawn pwrpas e-bost gan sgamiwr yw eich cael i glicio dolen. Bydd hynny wedyn yn mynd â chi i wefan a allai lawrlwytho firws i'ch cyfrifiadur, neu ddwyn cyfrineiriau neu wybodaeth bersonol arall. Weithiau gelwir hyn yn gwe-rwydo, sef phishing.

“Hoffwn i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig a chyfnod y sȇls ar ôl y Nadolig, wrth iddyn nhw wario mwy o arian.

“Hefyd, byddwch ar eich gwyliadwriaeth am alwadau ffôn gan dwyllwyr yn dweud eu bod yn galw ar ran gwasanaethau bancio.

“Fe ddylech chi bob amser fod yn wyliadwrus o alwadau, negeseuon testun neu e-byst digymell yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu ariannol, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion banc, e-bost neu rifau ffôn. Cysylltwch â'ch banc/cymdeithas adeiladu yn uniongyrchol bob amser gan ddefnyddio e-bost neu rif ffôn hysbys i wneud yn siwr mai nhw ydyn nhw.

“Yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd y sgamwyr bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud arian allan o bobl - yn enwedig wrth ofyn am roddion elusennol. Mae’r sgamwyr hyn yn gwbl ddideimlad, does ganddyn nhw ddim cwmpawd moesol o gwbl.

“Mi fyddan nhw'n neidio ar unrhyw stori maen nhw'n ei gweld yn y wasg os ydyn nhw'n credu y gallan nhw wneud arian ohoni, oherwydd mai sgamwyr yn addasu eu hunain yn gyflym iawn i amgylchiadau sy'n newid. Maen nhw bob amser yn ceisio cymryd eich arian oddi arnoch chi.

“Maen nhw hyd yn oed yn ceisio gwneud arian allan o Covid ac un o’u triciau newydd yw smalio cynnig apwyntiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu neu brawf PCR.

“Rwyf wedi cael profiad o hynny fy hun lle rwyf wedi derbyn dolen i fynd i wefan sy'n edrych fel gwefan y GIG er mwyn archebu pigiad. Mae'n edrych yn gyfreithlon ond nid ydyw, peidiwch byth â chlicio ar unrhyw ddolenni a anfonir atoch.

“Mae achos arall o dwyllo yn cynnwys sgamwyr yn cynnig paratoi dogfennau teithio mewn perthynas â Covid, yn enwedig os ydych chi'n ceisio archebu gwyliau ar ôl y Nadolig.

“Mae'n beth ofnadwy i'w wneud ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ond mae'n arbennig o greulon adeg y Nadolig. Mae'n amser pan fo sgamwyr yn gwybod y bydd pobl yn gwario mwy o arian nag arfer ar anrhegion Nadolig ac yn rhoi rhoddion i elusen.

“Cyfrannwch i elusen ar bob cyfrif ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod i bwy rydych chi'n rhoi eich arian a beth rydych chi'n rhoi eich arian amdano.

“Rwyf wedi gweld yr effaith y gall bod yn ddioddefwr twyll ei chael ar bobl a gall fod yn gwbl ddinistriol. Gall fod yn wirioneddol niweidiol i unigolion ac i fusnesau. ”

Ategwyd y neges amserol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin.

Mae mynd i'r afael â throseddau ar-lein yn flaenoriaeth allweddol i'r Comisiynydd sydd ag arbenigedd technolegol ac sydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ar lefel y Deyrnas Unedig yn y maes.

Mae Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi ei ethol yn ddirprwy arweinydd technoleg a digidol yr heddlu a dirprwy arweinydd ar gyfer troseddau economaidd a seiber, gan gynnwys twyll.

Penderfynodd ei gyd-gomisiynwyr mai ef oedd y person perffaith ar gyfer y swydd oherwydd ei gefndir yn gweithio yn y diwydiant technoleg.

Yn ôl yn 2012 fe helpodd i sicrhau bod Gemau Olympaidd Llundain yn cael eu darlledu'n llwyddiannus ledled y byd i biliynau o wylwyr.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rydyn ni’n gwybod bod troseddau seiber yn ystod y pandemig wedi cynyddu 50 y cant o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

“Roedd mynd i’r afael â throseddau seiber yn ymrwymiad mawr yn fy maniffesto ac mae’n flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy’n gosod allan fu  mwriadau ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

“Nid oes neb yn rhydd rhag sgamiau trwy e-bost neu neges testun. Rwy'n cael rhai, rydyn ni i gyd yn eu cael. Mae angen i bobl ddefnyddio ychydig o synnwyr cyffredin.

“Mae'r sgamwyr hyn yn hollol ddiegwyddor - maen nhw'n defnyddio unrhyw gyfle a allai fod yn arbennig o berthnasol ar adeg benodol.

“Mae defnyddio’r pandemig ar gyfer sgam gwneud arian yn weithred ddideimlad iawn oherwydd rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael Covid ac mae rhai wedi colli eu bywydau.

“Mae’r Nadolig i fod i fod yn dymor ewyllys da ond nod y sgamwyr creulon hyn yw ei wneud yn amser diflas i’w dioddefwyr.”