Skip to main content

Peilotiaid dronau'r heddlu yn derbyn canmoliaeth ar ôl achub tri bywyd

Dyddiad

Peilotiaid dronau'r heddlu yn derbyn canmoliaeth ar ôl achub tri bywyd

Mae tîm dronau newydd yr heddlu wedi cael ei alw’n “arwyr yr awyr” ar ôl achub tri bywyd a chwarae rhan allweddol wrth ddiffodd tân eithin mawr.

Daeth y ganmoliaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sy'n awyddus i ehangu'r uned.

Cafodd Mr Dunbobbin wybod am lwyddiannau’r uned gan y Prif Arolygydd Jon Aspinall sy'n arwain y tîm ymroddedig a sefydlwyd ym mis Ebrill eleni sy'n cynnwys rhingyll a phedwar cwnstabl.

Dangosodd hefyd luniau dramatig i Mr Dunbobbin o sut chwaraeodd y tîm ran hanfodol wrth ymladd tân enfawr ar fynydd Llantysilio ger Llangollen ddechrau mis Mehefin, ochr yn ochr ag 11 o griwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Defnyddiwyd drôn i adnabod mannau problemus ar y mynydd fel y gallai hofrennydd o Gyfoeth Naturiol Cymru ollwng dŵr arnynt.

Ddyddiau’n ddiweddarach fe ddaeth y tîm o hyd i bensiynwr ar goll, Roy Giblin, 82 oed, o Abergele, mewn darn o laswellt hir ger gorsaf reilffordd y dref. Dywedodd ei deulu diolchgar, “na fyddai wedi gallu goroesi” heb gymorth y drôn.

Nid oedd gan achubwyr "fawr o amheuaeth" bod yr uned drôn wedi arbed bywyd dyn oedrannus arall, Robert Davies, 86 oed, o Morfa Bychan, yng Ngwynedd, a oedd wedi mynd ar goll ym mis Gorffennaf.

Ar ôl ymdrech fawr gan sawl asiantaeth i chwilio amdano, cafodd ei leoli gan ddrôn yr heddlu, wedi'i guddio o'r golwg mewn llwyni tal ar ochr bryn uwchben y pentref a chafodd ei hedfan i ddiogelwch mewn hofrennydd.

Digwyddodd y trydydd achos o achub bywyd pan ddisgynnodd dyn i lawr ochr serth mewn chwarel yn Ninbych a glanio ar silff.

Dywedodd y Prif Arolygydd Aspinall: “Cafodd anaf difrifol i’w ben ac rwy’n siŵr ei bod hi’n wir i ddweud bod honno’n sefyllfa lle arbedodd ein drôn ei fywyd oherwydd efallai na fyddai wedi cael ei ddarganfod fel arall.

“Yn ogystal â dod o hyd i bobl sydd ar goll, mae’r dronau’n cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o waith heddlu gan gynnwys dal troseddwyr sy’n ffoi o gerbydau neu dai, neu bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig ac sydd wedi ffoi o’r fan lle digwyddodd y drosedd. Mae yna enghreifftiau di-ri o'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud.

“Maen nhw'n amlbwrpas tu hwnt ac yn y bôn maen nhw wedi chwyldroi plismona. Mae'n ein galluogi i wneud pethau nad oeddem yn gallu eu gwneud o'r blaen.

“Roedd y ffaith bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn awyddus i ddefnyddio technoleg yn gyffredinol a dronau yn benodol yn newyddion arbennig o dda i ni.”

Defnyddiwyd y dronau fwy na 350 o weithiau yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl dechrau gweithredu.

Mae'r sgwadron yn cynnwys dau ddrôn tywydd gwlyb a all weithredu pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm ac mewn gwyntoedd o hyd at 35 milltir yr awr.

Yn ogystal â bod â gallu delweddu thermol, mae gan y camerâu fideo pŵer uchel gyfleuster chwyddo 200x sy'n galluogi'r peilot i ddweud faint o’r gloch yw hi ar oriawr garddwrn rhywun o’r awyr.

Mae gan y dronau hefyd gyfleuster geo-leoli felly os yw'r peilot yn pwyso botwm, gall roi'r union hydred a lledred i swyddogion heddlu ar lawr gwlad.

Os yw'r batri'n rhedeg yn isel, bydd y drôn yn dychwelyd ei hun yn awtomatig i'r fan lle cychwynnodd ohoni.

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am y ffordd y mae rhanbarth Gogledd Cymru yn cael ei phlismona mae Mr Dunbobbin yn chwarae rhan allweddol wrth ddefnyddio technoleg, gan gynnwys dronau, i ymladd troseddau ledled y DU.

Mae’r Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wedi ei ethol yn ddirprwy arweinydd ar gyfer materion technoleg a digidol yr heddlu a dirprwy arweinydd ar gyfer seiberdroseddu, gan gynnwys twyll.

Penderfynodd ei gyd-gomisiynwyr mai ef oedd y person perffaith ar gyfer y swydd oherwydd ei gefndir yn gweithio yn y diwydiant technoleg.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae’r dronau yn hynod effeithiol ac amlbwrpas, ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda’r Prif Gwnstabl ynglŷn â sut fedr y tîm dronau symud ymlaen a beth y gellir ei wneud.

“Mi wnes i addewid yn fy maniffesto y byddem yn gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg sydd ar gael i ni a dyma beth sy’n digwydd yma.

“Mae cyflwyno dronau wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol ac mae o leiaf dri bywyd wedi’u hachub eisoes. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar hynny."