Skip to main content

Pêl-droed yn helpu i roi'r gorau i ddefnyddio cocên

Dyddiad

PCC SPONSORSHIP 03

Mae dyn ifanc wedi siarad yn deimladwy am sut y mae pêl-droed yn ei helpu i oresgyn ei ddibyniaeth ar gocên – ac ennill lle yn chwarae dros Gymru mewn twrnamaint rhyngwladol.

Mae Robbie Ray, 21 oed, yn aelod o Glwb Pêl-droed Cynhwysol Wrecsam a sefydlwyd er mwyn rhoi budd i bobl na fyddent fel arall yn gallu chwarae’r gêm am resymau corfforol neu emosiynol.

O ganlyniad, fe’i dewiswyd i chwarae yn nhîm Cymru yng Nghwpan y Byd i’r Digartref yn Ninas Mecsico ym mis Tachwedd ynghyd â’i gyd-chwaraewr Reanna Walker, tra bod y chwaraewr-hyfforddwr, Ben Ravenscroft, wedi cael ei ddewis fel un o’r chwaraewyr wrth gefn.

Bu’r tri’n sôn am yr effaith gadarnhaol a gafodd pêl-droed ar eu bywydau wrth Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  Arfon Jones a alwodd heibio i weld un o sesiynau hyfforddi’r clwb yng Nghanolfan Hamdden y Waun.

Mae’r clwb wedi derbyn grant o £2,500 o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis a sefydlwyd gan Mr Jones ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT).

Daw hanner yr arian ar gyfer gwobrau Eich Cymuned, Eich Dewis yn rhannol o arian a atafaelwyd gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Dywedodd Robbie Ray: “Roeddwn i’n gaeth i gocên ond rwyf wedi bod yn lân ers rhai misoedd rŵan, diolch i raglen 12 cam.

Mi wnaeth fy nhad sôn wrtha i am y clwb ac mi wnes i ddod lawr yma rhyw dri mis yn ôl ac ymuno â nhw. Rwy’n mwynhau’n arw. Mae’r twrnamaint ar gyfer pobl ddigartref neu’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rwy’n mwynhau chwarae i’r clwb yn fawr a does dim amheuaeth ei fod wedi fy helpu yn fy mrywdr yn erbyn bod yn gaeth i gyffuriau. Mae wedi fy ngwneud yn benderfynol ac yn llawer mwy hyderus am y dyfodol.”

Mae Ben Ravenscroft, 24 oed, wedi bod gyda’r clwb ers ychydig dros flwyddyn.

Meddai: “Rwy’n hyfforddwr gyda’r clwb. Mae hynny’n anhygoel gan fy mod wedi cael problemau iechyd meddwl enfawr a bron iawn i mi gyflawni hunanladdiad ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Mi wnaeth y tîm iechyd meddwl yn Ysbyty Wrecsam Maelor fy roi mewn cysylltiad efo’r clwb ac rwyf wedi mynd o nerth i nerth.

Mi wnes i ddod draw un noson ac ymuno a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Does neb yn eich barnu yma ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi Mae fy ngor-bryder ac iselder, er eu bod nhw’n dal i fod yn broblem, yn gwella, ac mae llawer o hynny i lawr i’r clwb.”

Ychwanegodd Reanna Walker, 18 oed: “Roeddwn i’n teimlo’n isel a doeddwn i ddim wir yn cymysgu gyda fawr o neb ond rŵan rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac yn mwynhau’r hyfforddiant a chwarae mewn gemau. Mae cael y bws mini yn hwb enfawr ac yn golygu llawer i’r clwb a’r chwaraewyr.”

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd gyda’r heddlu: “Bob blwyddyn mae cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis yn cefnogi prosiectau ym mhob sir yng ngogledd Cymru a dau brosiect sy’n ymestyn dros y rhanbarth gyfan. Mae’r arian yn mynd i brosiectau y mae’r cyhoedd wedi pleidleisio drostynt.

Rwyf wrth fy modd bod y cyhoedd wedi pleidleisio o blaid cefnogi CPD Cynhwysol Wrecsam. Mae’r clwb yn dod â phobl at ei gilydd ac yn rhoi teimlad o bwrpas iddyn nhw.

Mae’n beth ardderchog bod y clwb yn cymryd chwaraewyr o bob rhan o fywyd, os oes ganddyn nhw broblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl neu anableddau corfforol. Efallai bod chwaraewyr wedi eu hynysu’n gymdeithasol neu hyd yn oed yn ddigartref, mae pawb yn cael croeso yma.”

Mae’n glwb gwirioneddol wych ac mae’n helpu i leihau aildroseddu ac mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl mewn bywyd.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r clwb gyda rhodd o £2,500 yn ogystal â chyfrannu ychydig bach yn ychwanegol i dalu am nawdd y crysau.”

Mae Wayne Greenshields, rheolwr cyffredinol CPD Cynhwysol Wrecsam, yn dweud bod y rhodd o £2,500 o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis wedi rhoi hwb enfawr i hyder y clwb a’r chwaraewyr.

Dywedodd: “Am flwyddyn rydym wedi bod yn teithio i gemau a thwrnameintiau mewn ceir ond mae hynny’n anodd iawn. Mae cludo dau dîm saith bob ochr i dwrnamaint yn golygu defnyddio o leiaf pum car.

Felly mi wnaethon ni benderfynu cychwyn ymgyrch codi arian rhyw 18 mis yn ôl ar gyfer prynu bws mini ac roedd gennym darged o £7,500 ond cawsom ein cyfeirio at Sefydliad Teulu Williams ac roedden nhw’n help anferth i ni.