Dyddiad
Mae pennaeth canolfan sy’n cefnogi dioddefwyr troseddau o bob rhan o’r gogledd wedi rhybuddio pobl hŷn i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr wedi i’w thaid 87 oed gael ei gamarwain gan dwyllwr hynaws.
Dywedodd Sioned Jacobsen, Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru, eu bod yn gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion o dwyll sy’n targedu dioddefwyr dros 70 oed dros y ffôn neu ar-lein.
Dros yr wythnosau diwethaf maent wedi bod yn cefnogi un dioddefwr a gollodd tua £140,000 o’i gynilion gydol oes trwy dwyll.
Dychrynwyd Ms Jacobsen pan ddysgodd bod ei Thaid annwyl wedi ei gamarwain gan dwyllwyr a’i perswadiodd i roi ei fanylion banc iddynt.
Dywedodd: “Mi wnaethon nhw gysylltu efo fo gan ddweud bod angen trwsio’r polyn telegraff sydd tu allan, neu mi fuasai ei ffôn yn cael ei ddiffodd, felly mi roddodd ei fanylion banc a’i rif PIN iddyn nhw dros y ffôn.
Ddaru nhw ddim cymryd ei arian oherwydd mi wnaeth o gysylltu efo mam ar unwaith gan ddweud ei fod yn credu iddo wneud rhywbeth hurt, felly mi ffoniodd hi’r banc ar ei ran.
Ond dywedodd bod y twyllwr mor gredadwy ac wedi ei sicrhau ei bod yn hollol iawn iddo roi ei rif PIN a manylion ei gerdyn iddyn nhw dros y ffôn.
Mae’n ofnadwy. Mae’n dangos y gallai hyn ddigwydd i unrhyw un. Mae Taid yn eithaf gwybodus ac effro, ond roedd o’n teimlo’n ofnadwy ac yn teimlo cywilydd mawr am hyn.”
Roedd Ms Jacobsen yn siarad yn lansiad swyddogol dau fideo a wnaed i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau.
Ariennir Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Llanelwy, gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Mae gan y ganolfan 12 aelod o staff, gan gynnwys gweithwyr achos sy’n arbenigo mewn caethwasiaeth fodern, iechyd meddwl a throseddau casineb.
Mae ganddynt hefyd rwydwaith o gynorthwywyr gwirfoddol hyfforddedig sydd wedi eu lleoli ar draws yr ardal.
Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r galw am wasanaethau’r ganolfan wedi cynyddu bob blwyddyn, a’r llynedd buont mewn cyswllt â 34,500 o ddioddefwyr.
Cyfeirir y rhan fwyaf ohonynt at y ganolfan gan yr heddlu ac asiantaethau eraill, ond anogir dioddefwyr i gysylltu â’r ganolfan eu hunain hefyd os oes angen cefnogaeth ac arweiniad arbenigol arnynt.
Ychwanegodd Ms Jacobsen: “Dros y chwarter diwethaf rydym wedi cael y nifer uchaf erioed o unigolion yn cyfeirio eu hunain atom gan bobl nad ydynt eisiau ei adrodd i’r heddlu, a chan asiantaethau eraill sydd eisiau cyfeirio atom ni yn uniongyrchol.
Mae cynnydd mawr yn nifer y bobl hŷn sy’n cael eu cyfeirio atom yn dilyn achosion o dwyll. Fel arfer mae’r dioddefwyr dros 70 oed.
Rydym wedi cefnogi dioddefwyr sydd wedi colli 70, 80, 90 mil o bunnoedd, ac wythnos diwethaf mi wnaethon ni gefnogi rhywun a gollodd tua £140,000.
Mae’n arbennig o greulon bod y twyllwyr hyn yn targedu pobl hŷn oherwydd, yn gyffredinol, maen nhw’n fwy agored i’r math hwn o droseddu.
Mae’r dioddefwyr yn aml iawn yn teimlo cywilydd, felly un o’r pethau mae’r staff yn ceisio ei wneud yw dweud wrthyn nhw nad ei bai nhw yw hyn ac na ddylent deimlo cywilydd amdano.
Mae’r bobl sy’n cyflawni’r troseddau hyn yn glyfar, maen nhw’n gwybod pwy i dargedu, felly mae angen eu cysuro nad ydyn nhw wedi gwneud dim o’i le, ac nad nhw sydd ar fai. Mae’r twyllwyr yn gredadwy iawn, dyna’r broblem.
Y brif neges i’w throsglwyddo i’r dioddefwyr yw y dylent gysylltu, oherwydd mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Gallwn gefnogi dioddefwyr troseddau, waeth beth ydi’r drosedd, waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd, a ph’un ai yw wedi ei hadrodd neu beidio.
Os ydyn nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu herlid mewn unrhyw ffordd, mi ddylen nhw gysylltu efo ni.”
Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwy’n bryderus iawn am y cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll a’r dioddefaint y mae’n ei achosi i bobl.
Hoffwn weld uned benodol ar gyfer troseddau economaidd yn cael ei sefydlu yn y gogledd i ymchwilio i’r troseddau hyn, a bydd rhaid i mi drafod hyd gyda’r heddlu.
Rwy’n credu y gallai pob gwasanaeth heddlu yn y wlad wneud mwy, ond nid yw’n rhywbeth y gall yr heddlu ei ddatrys ar eu pennau eu hunain.
Mae hefyd angen i ni addysgu pobl i addysgu eu hunain yn ogystal â dal y troseddwyr.
Mae’r banciau mawr yn gwneud llawer o waith gwrth-dwyll, ond rwy’n credu y gallai, ac y dylai’r rheolwyr rhanbarthol yng Nghymru wneud mwy i ariannu naill ai swyddogion i gefnogi dioddefwyr neu ymchwilwyr twyll.
Rwy’n credu y dylid gweithredu’r hyn maent yn ei wneud ar draws y Deyrnas Unedig ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae canghennau’r banciau yn diflannu ar raddfa gyflym iawn, sy’n golygu bod cymunedau gwledig a’u trigolion yn eithaf agored i niwed.”
Er mwyn dysgu rhagor am Ganolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru, ewch i http://www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk/?lang=cy-gb