Skip to main content

Pennaeth heddlu a dwy elusen cam-drin yn cyhoeddi cynghorion i ddynion er mwyn gwneud i ferched deimlo'n fwy diogel

Dyddiad

Rhowch ganabis am ddim i garcharorion, meddai pennaeth heddlu

Mae pennaeth heddlu a dwy elusen cam-drin yn annog dynion yng ngogledd Cymru i wneud mwy i helpu merched i deimlo’n ddiogel yn sgil cipio a llofruddio Sarah Everard.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru (DASU) a’r Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru yn rhwystredig ei bod yn ymddangos bod y cyfrifoldeb yn cael ei roi ar ysgwyddau merched i gadw eu hunain yn ddiogel yn hytrach na chael dynion i newid eu hymddygiad.

Daeth diflaniad Sarah, 33 oed, wrth gerdded adref yn Llundain yn newyddion cenedlaethol oedd yn amlygu’r peryglon y gall merched eu hwynebu pan fyddant allan ar eu pennau eu hunain.

Cafwyd hyd i gorff Sarah mewn coetir yng Nghaint ac mae Wayne Couzens, 48 oed, heddwas gyda Heddlu’r Metropolitan, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, fod merched wedi postio awgrymiadau defnyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol, y rhan fwyaf ohonynt yn bethau bychain a allai wneud gwahaniaeth mawr i ba mor ddiogel y mae merched yn teimlo wrth gerdded ar eu pennau eu hunain yn y nos.

Yn ôl y comisiynydd, roedd sawl pwynt allweddol a ailadroddwyd yn yr ymatebion yr oedd am eu rhannu â dynion yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Mr Jones: “Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, rwy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru a’i bartneriaid yn mynd i’r afael yn effeithiol â phob achos o drais yn erbyn merched a bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Nid ydym, ac ni fyddwn, yn goddef ymddygiad o’r fath yng ngogledd Cymru.

“Nid yw merched yn dioddef ymosodiadau am eu bod wedi parcio yn y lle anghywir, neu oherwydd nad ydyn nhw’n rhoi digon o sylw i’w hamgylchedd pan maen nhw allan yn gyhoeddus.

“Mae merched yn dioddef ymosodiadau oherwydd bod dynion yn ymosod arnyn nhw.

“Mae diflaniad Sarah wedi ysgogi pobl i feddwl sut y gall dynion helpu merched i deimlo’n fwy diogel ar y strydoedd, yn enwedig gyda’r nos.

“Mae llawer o ferched wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i egluro beth all dynion ei wneud er mwyn i ferched deimlo’n fwy diogel pan maen nhw allan ar eu pennau eu hunain.

“Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr o bell ffordd, ond mae’n seiliedig ar brofiadau go iawn llawer o ferched.”

Cadwch eich pellter

Wrth gerdded y tu ôl i ferch gyda’r nos, cofiwch mai y mwyaf agos ydych chi, y mwyaf bygythiol rydych chi’n ymddangos. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gadael cryn bellter rhyngoch chi a hi.”

Rhowch wybod i ferched o’ch presenoldeb - ond nid trwy gychwyn sgwrs

Gall agosáu at ferch yn ddistaw ennyn ofn a phanig. Os ydych chi y tu ôl i ferch ac os nad yw hi’n gallu eich gweld chi, ceisiwch wneud rhywfaint o sŵn er mwyn gadael iddi wybod nad ydych chi’n sleifio i fyny y tu ôl iddi - ffoniwch ffrind, gwnewch sŵn gyda’ch goriadau - neu gwnewch unrhyw sŵn i dynnu sylw atoch chi’ch hun.

Cynigiwch hebrwng ffrindiau adref

Ni fyddai merch yn gwerthfawrogi cynnig gan ddyn dieithr i’w hebrwng adre. Ond fe allai pe bai’r cynnig yn dod gan ffrind. Er y gallech feddwl bod llwybr yn ddiogel neu mai dim ond taith fer sydd ganddi i’w chartref, yn anffodus mae cael presenoldeb dyn yn ffordd werthfawr o osgoi cael sylw digroeso gan ddynion eraill.

Siaradwch gyda dynion eraill

Er bod cadw draw oddi wrth ferched a bod o gymorth i’ch ffrindiau sy’n ferched yn dda, mae trais tuag at ferched ac aflonyddu ar ferched yn broblem sy’n rhan annatod o’n cymdeithas. Y gwir ateb yw newid y ffordd y mae dynion yn trin merched - ac mae hyn yn golygu galw eich ffrindiau a dynion eraill allan pan fyddan nhw’n croesi’r llinell. Os ydych chi am wneud newid gwirioneddol ac ystyrlon, y tro nesaf y byddwch chi yng nghwmni eich ffrindiau sy’n ddynion tynnwch eu sylw at y ffaith bod 97 y cant o ferched ifanc wedi profi aflonyddu rhywiol. Efallai y bydd y sgwrs sy’n deillio o hynny yn eich synnu.

Peidiwch â rhedeg i fyny o’r tu ôl

Gall cael rhywun redeg i fyny y tu ôl i chi yn y nos roi braw i unrhyw un, ond i ferch gall fod yn frawychus iawn. Y tro nesaf y byddwch chi allan yn loncian gyda’r nos a gweld merch yn cerdded o’ch blaen... croeswch y ffordd neu gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gadael cryn dipyn o le wrth ei phasio.

Peidiwch â rhythu

Os ydych chi ar eich pen eich hun, mae cael rhywun yn rhythu arnoch yn gallu peri dychryn a gofid. Gall tynnu eich ffôn allan a chanolbwyntio ar rywbeth arall fynd yn bell i ddangos nad ydych chi’n fygythiad. Edrychwch allan o’r ffenest i ganolbwyntio ar rywbeth arall, neu ffoniwch ffrind i gael sgwrs.

Cadwch eich sylwadau i chi eich hunan

Efallai bod yr hyn y byddech chi’n ei ystyried yn ddim ond ychydig o hwyl, mewn gwirionedd yn aflonyddu a gall fod yn frawychus i ferched ar eu pennau eu hunain.

Cadwch eich ffrindiau mewn trefn

Efallai nad ydych chi’n aflonyddu ar ferched, ond os ydych chi’n aros yn dawel tra bod eich ffrindiau’n gwneud hynny yna rydych chi’n rhan o’r broblem.

Byddwch yn weithredol a pheidiwch â sefyll o’r neilltu 

Os byddwch chi’n sylwi bod merch yn anghyffyrddus ag ymddygiad rhywun, dangoswch eich cefnogaeth trwy fod yn weithredol a pheidio â sefyll o’r neilltu. Gall fod yn rhywbeth mor syml â sefyll rhwng merch a’r sawl sy’n aflonyddu er mwyn eu rhwystro rhag ei gweld. Gofynnwch iddi a yw hi’n iawn, a chefnogwch unrhyw un arall sy’n ymyrryd.

Dywedodd Gaynor Mckeown, prif weithredwr DASU Gogledd Cymru: “Rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru i gefnogi a chynnig cyngor i ferched a allai fod yn destun aflonyddu neu gam-drin.

“Rydym yn croesawu sylwadau’r comisiynydd ar yr angen i sefydlu bod gan bob merch yr hawl i gerdded yn ddiogel ar ein strydoedd, ar unrhyw adeg o’i dewis gan wisgo unrhyw beth y mae hi’n dymuno.

“Nid yw merched yn gofyn am aflonyddu, stelcio nac ymosod ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i ddwyn y rhai sy’n cam-drin fel hyn i gyfrif.

“Nid yw’n dderbyniol gwneud sylwadau, dilyn naill ai ar droed neu mewn cerbyd, bîpio, galw allan neu chwibanu ar ferched.

“Fel mam i ddwy ferch yn eu harddegau sy’n cael eu gwneud yn anghyfforddus ac yn ofnus yn rheolaidd gan y math hwn o ymddygiad. Mae angen i ni addysgu ein meibion, ffrindiau, cydweithwyr ac eraill sy’n gwneud hyn, gan egluro nad yw’n dderbyniol nad yw’n briodol, ac mae’n achosi ofn a gofid.”

Dywedodd rheolwr gweithrediadau RASASC, Fflur Emlyn: “Mae gan ferched hawl nid yn unig i deimlo’n ddiogel ond i FOD yn ddiogel - yn gyhoeddus, yn eu cartref, yn y gwaith - ymhobman.

“Roedd Sarah Everard yn cerdded adref, a gall pawb ohonom uniaethu â’r digwyddiad erchyll hwn, gallai fod wedi bod yn unrhyw un ohonom: mae 97% o ferched ym Mhrydain wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

“Rydym yn croesawu datganiad a chyngor y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, nid merched sydd ar fai am yr ymosodiadau arnynt. Nid oes ac ni ddylai fod unrhyw gywilydd, bai nac euogrwydd ar unrhyw ferched yr ymosodwyd arnynt, bai’r troseddwr yw hynny bob amser.

“Gadewch i ni siarad am hyn, addysgwch eich ffrindiau sy’n ddynion a’r dynion yn eich teulu a pheidiwch â sefyll ar yr ochr, mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom mewn cymdeithas i ddwyn troseddwyr o’r fath i gyfrif.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Os yw dynion yn dilyn y canllawiau synnwyr cyffredin hyn bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gwneud i ferched deimlo’n fwy diogel pan fyddan nhw allan ar eu pennau eu hunain.

“Mae troseddau erchyll fel hyn yn brin ac mae gogledd Cymru yn parhau i fod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel yn y DU i fyw a gweithio ynddo ond gall cymryd y camau syml hyn wneud llawer i fynd i’r afael ag ofn trosedd.”