Skip to main content

Pennaeth heddlu yn addo mynd i'r afael â gangiau cyffuriau a cham-drin plant yn rhywiol

Dyddiad

Cost plismona i godi 38c yr wythnos i'r cartref cyffredin

Mae pennaeth heddlu wedi addo mynd i’r afael a gangiau cyffuriau a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant ar ôl i’w gynnydd arfaethedig cynnydd o 38c yr wythnos yng nghost plismona gael ei gymeradwyo.

Mae’n dweud bod angen y cynnydd o 7.74 y cant er mwyn recriwtio 34 o swyddogion heddlu ychwanegol a chwe aelod o staff i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â bygythiadau newydd sy’n dod i’r amlwg, fel troseddau difrifol a threfnedig, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, a gangiau cyffuriau sy’n manteisio ar blant ac oedolion ifanc.

Ymysg y blaenoriaethau a ddatgelwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, y mae cam-drin yn y cartref, seiber-droseddu, a chaethwasiaeth fodern.

Roedd Mr Jones yn siarad ar ôl i’r cynnydd o 7.7 y cant, un o’r isaf yng Nghymru a Lloegr, gael sêl bendith Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw (dydd Llun, Ionawr 28).

Yn ôl y Comisiynydd, bydd hyn yn ei alluogi i fuddsoddi mewn plismona rheng flaen drwy recriwtio 34 swyddog heddlu a chwech o staff ychwanegol ar ben y 90 swyddog a staff ychwanegol a gyflogwyd ers iddo gael ei ethol yn 2016.

Rhoddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganiatâd arbennig i heddluoedd godi £24 y flwyddyn ychwanegol ar gyfer eiddo Band D, a disgwylir i’r rhan fwyaf o heddluoedd fanteisio ar y cyfle i bennu'r uchafswm ar ôl blynyddoedd o lymder, ynghyd â’r angen i chwistrellu mwy o arian i bensiynau’r heddlu oherwydd yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â Brexit.

Ond mae’r cynnydd i £19.98 a argymhellwyd gan Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ymhell islaw’r uchafswm hynny o £24.

Dywedodd: “Mae Gogledd Cymru’n dal i fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel yn y DU ond nid yw hynny’n golygu nad ydym yn wynebu heriau ac mae llawer o’r rhain yn dod ar ffurfiau newydd a rhaid i ni fod yn barod i addasu iddynt.

Y ffaith amdani yw bod llawer o’r troseddau a gyflawnir heddiw yn digwydd ar-lein ac rydym yn ymwybodol iawn bellach yng Ngogledd Cymru bod ein llinell flaen bellach ar-lein.

Ond rydym hefyd yn gweld y defnydd o linellau sirol gan gangiau cyffuriau dinesig sy’n lledu i ardaloedd fel gogledd Cymru trwy feithrin a cham-fanteisio ar blant a phobl ifanc i adeiladu eu rhwydweithiau cyflenwi cyffuriau.

Rwy’n credu y dylai adnoddau’r heddlu ganolbwyntio ar dargedu’r troseddwyr trefnedig hyn sy’n gyfrifol am werthu cyffuriau, nid y dioddefwyr diamddiffyn.”

Ers ei ethol yn 2016, mae Mr Jones wedi sicrhau cynnydd mewn staffio gan Heddlu Gogledd Cymru tra bod y gwasanaeth heddlu wedi wynebu toriadau mewn termau gwirioneddol yn ei gyllideb, ac ychwanegodd: “Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gosod y praesept ar y lefel gywir er mwyn gallu darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon sy’n rhoi gwerth am arian.

Rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl newydd a’i dîm i benderfynu ar lefel y gyllideb sydd ei hangen i gyflawni blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, sy’n anelu at leihau bygythiad, risg a niwed drwy adnabod y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i’w hamddiffyn.

Mae trosedd yn esblygu ac fel heddlu mae’n rhaid i ni newid i ddelio â bygythiadau newydd fel caethwasiaeth fodern, masnachu mewn pobl a chamfanteisio’n rhywiol  ar blant, gyda’r bygythiad a achosir gan bedoffiliaid ar-lein.”

Fel rhan o’i ymrwymiad i ymgynghori, unwaith eto cynhaliodd Mr Jones arolwg ar-lein o drethdalwyr y dreth gyngor yng ngogledd Cymru. Mi wnaeth bron i 2,000 o bobl ymateb i'r arolwg, cynnydd o dros 50 y cant ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd mwy na 1,000 o’r bobl wnaeth ymateb yn cefnogi cynnydd o 37c neu fwy yn y praesept, gyda thraean o blaid cynnydd llawer uwch o 50c yr wythnos.

Roedd hefyd yn dangos “cefnogaeth lethol” i flaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd Mr Jones sy’n nodi’r strategaeth ar gyfer plismona yng ngogledd Cymru.

Daw hyn i gyd yn erbyn cefndir o £31 miliwn o arbedion a orfodwyd ar Heddlu Gogledd Cymru ers 2011, a thoriad gwirioneddol o £2 filiwn yn y grant blynyddol gan y Swyddfa Gartref am y flwyddyn i ddod.

Mae cyfanswm cyllideb Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod yn £154 miliwn ac fe’i dyrannwyd er mwyn cyflawni blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.

Ychwanegodd Mr Jones: “Rwyf wedi fy nghalonogi gan gefnogaeth aruthrol y cyhoedd i’m gweledigaeth i wella’r ffordd y mae’r rhanbarth yn cael ei phlismona.

Mae’r arolwg wedi dangos bod 90 y cant o’r rhai a ymatebodd o blaid blaenoriaethu mynd i’r afael â throseddau trefnedig a chadw cymdogaethau’n ddiogel.

Mae’n bwysig ymgynghori â’r cyhoedd er mwyn darganfod pa fath o wasanaeth heddlu y mae pobl am ei weld a beth yw eu blaenoriaethau.

Yn ogystal ag ymgynghori â’r cyhoedd, rwyf wedi cynnal trafodaethau manwl gyda’r Prif Gwnstabl a’i uwch dîm, ac mi wnaeth gadarnhau y bydd cynnydd o 7.74 y cant yn y dreth gyngor yn caniatáu buddsoddiad yn ôl yn rheng flaen plismona. Buddsoddiad sydd ei ddirfawr angen, wedi degawd o doriadau ariannol, a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gweithrediad gorau posibl o blismona yng ngogledd Cymru.

“Mae’n sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng fforddadwyedd i drethdalwyr y dreth gyngor a sicrhau bod y gwasanaeth heddlu’n gallu parhau i fod yn rym effeithlon ac effeithiol.

Roedd angen pedwar a hanner y cant o’r cynnydd dim ond i sicrhau cyllideb yr un fath a'r llynedd, ond byddai hynny wedi golygu na allai’r heddlu ymdopi â’r galw cynyddol a achosir gan droseddau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Rydym yn wynebu heriau newydd a chynyddol, felly mae’n rhaid i’r heddlu esblygu ac addasu ac er gwaethaf toriadau llym y blynyddoedd diwethaf, rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein rheng flaen, gan ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: “Rydym wedi cydweddu ein hymdrechion fel gwasanaeth heddlu i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Heddlu a Throsedd, er mwyn i ni sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac ymweld.

O ganlyniad, rydym yn canolbwyntio ein hymagwedd ar gryfhau plismona rheng flaen, cynyddu ein gallu rhagweithiol ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed trwy ein Rhaglen Gwella Gweithredol.

Yn ogystal â’r personél ychwanegol rydym wedi’u recriwtio ers 2016, bydd gennym 30 o ymchwilwyr ychwanegol a fydd yn gaffaeliad mawr wrth i ni fynd i’r afael â’r troseddau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt.

Dros y degawd diwethaf mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gorfod ymdopi â £31 miliwn o doriadau llymder, sy’n golygu ein bod bellach yn gorfod bod hyd yn oed yn fwy call yn y ffordd rydym yn gweithredu.”

Yn ogystal â gwneud y gorau o gyllideb sy’n lleihau, rydym yn gweithio’n agosach gyda phartneriaid gan geisio gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau ar y cyd.”

Mae gennym uchelgais i fod y lle mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig a bydd y gyllideb arfaethedig yn sicrhau ein bod ni’n gallu bodloni’r heriau niferus sydd o’n blaenau, yn arbennig yn wyneb y troseddau newydd sy’n dod i’r amlwg y mae angen i ni roi sylw arbennig iddynt.