Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi annog busnesau lleol i gefnogi clwb bocsio sy’n helpu’r frwydr yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ystâd dai a fu’n helbulus ar un adeg.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn siarad yn ystod ymweliad â Chlwb Bocsio Maesgeirchen, sydd wedi derbyn grant o £2,500 a ariannwyd yn rhannol o arian a gymerwyd oddi wrth droseddwyr.
Defnyddiwyd yr arian o’r gronfa ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’, a weinyddir gan Mr Jones, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru i brynu offer newydd, gyda hanner yr arian yn dod drwy arian a atafaelwyd gan droseddwyr.
Caiff y clwb ei redeg gan yr hyfforddwr ymroddedig Brian Williams, 71 oed, sy’n treulio ei nosweithiau a’i benwythnosau yn y clwb yn hyfforddi’r bechgyn ac yn dysgu crefft y cylch bocsio iddynt.
Fodd bynnag, mae dirfawr angen adnewyddu cyfleusterau’r clwb gan fod bellach rhaid i’r bechgyn ymarfer mewn sgwâr bocsio dros dro mewn hen garej.
Dywedodd Mr Jones: “Mae PACT yn cefnogi prosiectau ar draws pob awdurdod yng Ngogledd Cymru a dau brosiect sy’n cwmpasu’r rhanbarth cyfan bob blwyddyn. Mae’r arian yn mynd tuag at brosiectau y pleidleisiwyd drostynt gan y cyhoedd.
Rwyf wrth fy modd bod y cyhoedd wedi pleidleisio dros gefnogi Clwb Bocsio Maesgeirchen. Mae’r clwb yn dod â bechgyn ynghyd ac yn rhoi teimlad o bwrpas iddynt.
Mae’n wych bod y clwb yn helpu cymaint o fechgyn. Mae’r gwaith mae Brian yn ei wneud yn wych ac mae’n dysgu gwersi pwysig i’r bechgyn ynghylch disgyblaeth a ffitrwydd.
Mae gwerth cymdeithasol go iawn yn yr hyn sy’n digwydd yma. Mae’n wych gweld y bechgyn ifanc hyn yn gweithio’n galed gan sianelu eu hegni yn y ffordd gywir. Nid oes dim amheuaeth o’m rhan i y caiff y clwb bocsio effaith fawr ar leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Ychwanegodd: “Dim ond cyllid cyfyngedig sydd gennyf i a PACT ond rwy’n credu bod angen i fusnesau lleol gefnogi’r clwb bocsio gyda nawdd sylweddol. Defnyddiwyd yr arian a roddwyd gennym i brynu gwarchodwyr pen, menig, bagiau dyrnu ac offer eraill.
Hoffwn weld y clwb mewn cartref gwell ond bydd hynny’n cymryd ymrwymiad gwirioneddol a gwaith caled. Rwy’n apelio ar fusnesau Bangor a gogledd Cymru i gymryd rhan yn y prosiect gwych hwn.”
Dechreuodd Brian Williams, a anwyd yn Lerpwl ond sy’n byw ar ystâd Maesgeirchen ym Mangor ers iddo fod yn chwech oed, focsio gyda Chlwb YMCA, sydd bellach wedi cau, yng Nghaergybi yn y 1970au.
Dywedodd: “Bu fy mab, David Williams, yn bocsio ers iddo fod yn 11 oed. Symudodd i Fangor ac fe’i hyfforddwyd gan y cyn-ddyfarnwr Les Davies. Mi wnes i helpu gydag ymarfer a hyfforddi a mynd ar gwrs i gael fy nghymhwyster hyfforddi.
Dechreuais glwb Maesgeirchen ar Rodfa Penrhyn tua 1995 gan ei fod ar yr ystâd ac roeddwn i’n meddwl bod angen rhywbeth arnom ni yma. Roedd gennym ystafell fawr ond fe’i caewyd gan y clwb ieuenctid pan ddaeth hwnnw i ben ac erbyn hyn rydyn ni’n gorfod defnyddio’r garej.
Fe wnaethon ni adeiladu sgwâr bocsio ac mae gennym ni sgwâr addas y gallwn ei ddefnyddio wrth wneud sioeau neu ddigwyddiadau bocsio. Ar hyn o bryd mae gen if tua 12 o focswyr rheolaidd a rhai ohonyn nhw’n rhai da hefyd. Rwyf hefyd yn helpu’r rhai iau i ddechrau.
Mae’r bechgyn yn hyfforddi ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener ac rydyn ni’n mynd i gystadlaethau neu ddigwyddiadau ar y penwythnos. Mae gen i’r rhai bach ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Y peth yw ei fod yn cadw’r plant oddi ar yr ystâd ac yn sefyllian o gwmpas heb ddim byd i wneud.”
Mae’r arian a gawsom gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn anhygoel ac o help go iawn.
Mae gynnon ni rai bechgyn ifanc da, rhai sydd wedi bocsio mewn cystadlaethau cenedlaethol, ac mae wir o gymorth. Mae’r offer ‘rydyn ni wedi gallu prynu yn golygu y gallwn ni weithio hyd yn oed yn fwy caled. Byddwn wrth fy modd yn gweld un o’n bechgyn yn cyrraedd Gemau’r Gymanwlad neu’r Gemau Olympaidd, byddai hynny’n anhygoel.
Enillodd David Davies, sydd o’r ardal hon, y wobr arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn y 70au. Mae’n dod i mewn o dro i dro i weld sut mae’r bechgyn yn datblygu. Roeddwn i’n arfer ymladd yn ei erbyn.”
Mae’r Cynghorydd Nigel Pickavance, yr aelod lleol dros ystâd Maesgeirchen, yn credu y dylid cydnabod y gwaith y mae Brian Williams yn ei wneud yn y clwb.
Dywedodd: “Mae’n rhoi llawer iawn o ymdrech i hyfforddi’r bechgyn, ac wedi gwneud hynny ers degawdau.
Mae llawer o bobl ifanc yn dod i’r clwb a byddant yn elwa o’r offer newydd mae’r clwb wedi gallu prynu, diolch i’r rhodd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a PACT.
Mi wnes i’r cais ar gyfer y grant ar ran Brian a’r clwb ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i wneud hynny. Mae hyn yn ddefnydd da iawn o arian o ymdrechion atal troseddu.”
Ychwanegodd y Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu Mike Sandbrook: “Mae Brian yn wych ac yn cadw’r bechgyn ifanc ar y llwybr cywir. Mewn gwirionedd mae’n eithaf llym gyda’r bechgyn ac rwy’n credu eu bod yn ymateb i hynny. Mae’r clwb hwn yn gwneud llawer iawn ac yn cadw bechgyn oddi ar y strydoedd a gwneud rhywbeth gwerth chweil.
Mae Boxer Paddy Wall, 11 oed, yn mynychu’r clwb ers ei fod yn naw mlwydd oed ac mae’n gobeithio dod yn brif ymladdwr.
Dywedodd: “Dw i wrth fy modd. Roeddwn i ym Mhencampwriaethau Cymru i Fechgyn Ysgol yn y grŵp dan 11 oed gan golli yn y rownd derfynol ar benderfyniad agos i hogyn o Gas-gwent. Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ennill i fod yn onest.
Dw i eisiau bocsio’n broffesiynol a dod yn bencampwr. Mae cael y clwb yma ar yr ystâd yn wych ac yn golygu llawer.”
Dywedodd Jamie Laudan, 13 oed: “Mae Brian yn wych a dw i wrth fy modd â’r clwb er ei fod o’n fach. Mae’r offer newydd yn anhygoel a bydd o help go iawn i ni.”