Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn annog rheolwyr busnesau yn y Gogledd i ddilyn esiampl y cwmni cadwyn sy’n trwsio watsys ac esgidiau, Timpson, drwy roi ail gyfle i droseddwyr.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gall recriwtio pobl sydd ag euogfarnau effeithio’n gadarnhaol ar eu busnes drwy roi mynediad iddynt at gronfa newydd o dalent.
Daeth sylwadau Mr Jones yn ystod ei anerchiad i Glwb Busnes Gogledd Cymru yng Ngwesty a Sba y Quay Hotel yn Neganwy.
Cyfeiriodd y Comisiynydd at lwyddiant cwmnïau megis Timpsons sy’n cyflogi cyn-droseddwyr ac anogodd reolwyr i beidio â mabwysiadu gwaharddiad cyffredinol ar bobl sydd ag euogfarnau.
Yn hytrach, galwodd Mr Jones arnynt i gefnogi’r ymgyrch ‘Ban the Box’ i gael gwared ar y blwch ticio troseddol oddi ar ffurflenni cais ac i ofyn am euogfarnau troseddol yr ymgeiswyr yn nes ymlaen yn y broses.
Rhoddwyd gobaith newydd i ymgyrchwyr ar ôl dyfarniad nodedig yn y Goruchaf Lys a allai arwain at adolygiad gan y Swyddfa Gartref.
Dyfarnodd y llys bod y gofyniad presennol ar gyfer datgelu pobl euogfarn flaenorol, er mor fychan, lle mae gan y person fwy nag un euogfarn, ac yn achos unrhyw rybudd neu gerydd a roddwyd i droseddwyr ifanc, yn anghymesur.
Dyfarnodd y llys hefyd fod hynny yn mynd yn gores i erthygl 8 cyfreithiau hawliau dynol sy'n datgan hawl pobl i fywyd preifat a theuluol.
Cred y Comisiynydd y byddai cymryd agwedd gadarnhaol tuag at gyflogi pobl sydd â chofnod troseddol yn helpu i leihau aildroseddu, sy’n flaenoriaeth allweddol yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’n bosib bod cyflogwyr sy’n canolbwyntio ar euogfarn droseddol ar eu ffurflenni cais yn eithrio pobl o swyddi y gallen nhw fod yn ddigon cymwys ac abl i’w gwneud. Mewn gwirionedd, mae’n bosib eu bod yn colli allan ar gronfa dalent o dros 10.5 miliwn o bobl sydd ag euogfarnau troseddol.
Yr hyn yr wyf i, David Cameron ac elusen Unlock yn gweithio arno fel rhan o ymgyrch ‘Ban the Box’ yw i chi fel cyflogwyr posib gael gwared â’r blwch ticio cofnod troseddol o’ch ffurflenni cais a gofyn am euogfarnau troseddol eich ymgeiswyr yn nes ymlaen, gan osgoi ‘rhagfarn ddiarwybod’ mewn cyfweliadau.
Yn aml, gwrthodir cyn-droseddwyr ar gyfer swyddi yn syth oherwydd eu gorffennol. Wrth reswm, rwyf eisiau i fusnesau wybod pwy maen nhw’n eu cyfweld. Ond fy nghwestiwn yw hyn: a ddylai troseddwyr orfod datgan cofnod troseddol yn syth, neu a ellid gwneud hyn ychydig yn ddiweddarach neu cyn cynnig y swydd?
Felly, dyna beth yw ‘Ban the Box’ - rhoi’r cyfle i ymgeiswyr am eich swyddi roi eu hachos gerbron heb roi tic mewn blwch euogfarn flaenorol, gan osgoi’r rhagfarn ddiarwybod sy’n dylanwadu ar eich penderfyniad.
Byddai’r penderfyniad hwn nid yn unig yn rhoi mantais i’ch busnes o gael cronfa fwy o weithwyr, ond byddai hefyd yn lleihau’r gronfa o droseddwyr sydd wedi eu dadrithio ac sydd wedyn yn troi yn ôl at fywyd o droseddu gan nad oes neb yn ymddiried ynddyn nhw i droi dalen newydd a chael ail gyfle.
Mae nifer o gwmnïau mawrion yn rhoi ail gyfle i droseddwyr - Boots, Barclays a’r Gwasanaeth Sifil fydd rhai o’r cyntaf, heb sôn am y gwaith clodwiw y mae Timpson yn ei wneud yn yr ardal hon ers blynyddoedd.
Mae ‘Ban the Box’ yn rhoi’r hyder a’r ysgogiad i bobl i ymgeisio am swyddi yn y lle cyntaf.
Maen nhw’n gwybod bod cyfle ganddyn nhw oherwydd eu bod yn cael eu barnu yn ôl eu sgiliau, eu cryfderau a’u profiad yn gyntaf, yn hytrach na’u gorffennol.
Ni all busnesau fforddio anwybyddu’r amrywiaeth o ddoniau sydd gan ymgeiswyr sydd â chofnod troseddol. Gyda swydd, mae pobl yn dod yn drethdalwyr yn hytrach nag yn faich ar y wladwriaeth.
Profwyd bod cyflogaeth sefydlog, bwrpasol yn lleihau aildroseddu, sy’n golygu llai o droseddau a llai o ddioddefwyr. Mae pawb ar eu hennill.”
Yn dilyn y penderfyniad yn y Goruchaf Lys, dywedodd Christopher Stacey, cyd-gyfarwyddwr Unlock, elusen ar gyfer pobl ag euogfarnau, a wnaeth ymyrryd yn yr achos: “Mae hwn yn ddyfarniad pwysig sy'n effeithio ar filoedd o bobl sydd â chofnodion troseddol hen a mân sydd wedi cael eu hangori'n ddiangen i'w gorffennol.
Rydym yn annog y Llywodraeth yn gryf i gymryd camau prydlon ac ystyriol ar y system hidlo, yn ogystal ag ymrwymo i gynnal adolygiad sylfaenol o'r drefn datgelu cofnodion troseddol ehangach.”
Mewn cyfnod lle mae busnesau yn ei chael hi’n anodd recriwtio, mae angen i gwmnïau sicrhau eu bod yn croesawu amrywiaeth eang o ymgeiswyr.
Mae gan dros 11 miliwn o bobl yn y DU gofnod troseddol ac rwy’n croesawu’r ffocws gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru ar annog cwmnïau i edrych ar bobl sydd ag euogfarnau fel cronfa dalent a all fod o fudd i’w busnesau.
Mae Unlock yn cefnogi busnesau i recriwtio pobl sydd ag euogfarnau ac i ymdrin â chofnodion troseddol yn deg. Mae gennym wefan ar gyfer cyflogwyr ac rydym yn croesawu sgyrsiau gyda chyflogwyr unigol sy’n awyddus i archwilio hyn ymhellach.”