Dyddiad
Mae pobl ar draws gogledd Cymru yn cael eu hannog i bleidleisio dros eu hoff gynlluniau ymladd troseddu - gan ddefnyddio arian sydd wedi eu gymryd o enillion drwg troseddwyr.
Mae gan y grwpiau llwyddiannus gyfle i ennill £2,500 yr un o’r pot o arian a sefydlwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Mae dros £60,000 o arian ar gael gyda dau grŵp o bob sir yn cael eu gwobrwyo.
Ar ben hynny, bydd dau grŵp sy’n gweithio mewn tair neu fwy o siroedd yn derbyn grant o £5,000. Bydd dau grant newydd o £10,000 yn ychwanegol i’r cyfanswm sydd ar gael eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Yr unig amod yw bod angen i’r grwpiau llwyddiannus ymrwymo i redeg prosiectau fydd yn ymladd ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i’r afael â throsedd ac anhrefn.
Cafodd cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis, ei lansio gan Mr Jones a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Neill Anderson mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT).
Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan arian a adenillwyd trwy’r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, a Chronfa’r Comisiynydd.
Dewiswyd rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer arian Eich Cymuned Eich Dewis gan banel arbennig a bydd y cyhoedd yn penderfynu pa grwpiau i’w cefnogi gyda phleidlais ar wefannau Heddlu’r Gogledd a’r Comisiynydd, yn ogystal â thrwy gyfeiriad e-bost pwrpasol. Mae’n bosib bwrw pleidlais tan hanner nos ar Fawrth y 15fed.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’n briodol iawn bod y cynllun hwn yn cymryd arian i ffwrdd oddi wrth y drwgweithredwyr ac yn ei roi i’r bobl, er mwyn iddyn nhw allu gwella ansawdd bywyd yn eu cymunedau a’u helpu i ymladd trosedd ac anrhefn neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r arian yn mynd lle bydd yn gwneud gwahaniaeth wrth leihau troseddau a gwella ansawdd y cymunedau sydd wedi dioddef troseddu.”
Ategwyd y neges gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Neill Anderson a ddywedodd: “Mae’n beth da iawn i grwpiau cymunedol allu cael gafael ar ffynonellau arian er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn yn eu cymunedau a gwella ansawdd bywyd ar gyfer y gymuned yn eu hardal.
Mae’n anfon neges wirioneddol gadarnhaol bod arian a ddaw o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion adeiladol.
Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â’r cyhoedd yn fawr ac rydym yn cydnabod na allwn leihau trosedd ac anrhefn ar ein pennau ein hunain. Mae’n bartneriaeth ac yn ymdrech ar y cyd efo asiantaethau eraill, ond mae gan y cyhoedd ran hollbwysig ac allweddol yn hyn i gyd hefyd.
Y cyhoedd yn aml yw’r rhai sy’n gwybod beth yw’r pethau fydd yn gweithio orau yn eu hardaloedd ac mae’r ffaith bod y cyhoedd yn gallu gwneud cais am swm o arian yn beth cadarnhaol iawn.”
Yn ôl rheolwr prosiect PACT Dave Evans, roedd hefyd yn broses ddemocrataidd iawn oherwydd bydd y cyhoedd yn gallu penderfynu pwy sy’n cael yr arian.
Dywedodd Mr Evans: “Un o fanteision gwirioneddol y cynllun yw bod y cyhoedd yn cael llais o ran dweud pa brosiectau fydd yn mynd yn eu blaenau ac sy’n deilwng o dderbyn yr arian pwysig hwn.
Ac yn addas ddigon, un o’r amodau yw bod gofyn i’r bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn wneud rhywbeth sy’n ymladd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n mynd i’r afael â throsedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd.
Mae nodau cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, felly mae’n creu cylch rhinweddol.”
I gael mwy o wybodaeth ar sut i bleidleisio ffoniwch 01745 588516 neu ewch i https://www.north-wales.police.uk/contact/your-community-your-choice?lang=cy-gb