Skip to main content

Pennaeth heddlu yn atgyfnerthu'r rheng flaen gyda mwy o blismyn, technoleg newydd a pheilotiaid dronau

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn atgyfnerthu'r rheng flaen gyda mwy o blismyn, technoleg newydd a pheilotiaid dronau

Mae pennaeth heddlu yn rhoi hwb i blismona rheng flaen yng ngogledd Cymru gydag 82 o blismyn newydd, 10 SCCH ychwanegol a mwy na 40 o staff heddlu ychwanegol.

Daeth yr addewid gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin ar ôl i’w gynlluniau ariannu ar gyfer y flwyddyn i ddod gael eu cymeradwyo gan gorff craffu.

Cafodd ei gynnig am gynnydd o 22c yr wythnos ym mhris plismona’r rhanbarth gymeradwyaeth gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw (dydd Llun, Ionawr 31).

Bydd y cynnydd o 3.68 y cant yn costio £11.25 y flwyddyn ychwanegol i ddeiliaid tai Band D – tua phris dau becyn o bysgod a sglodion.

Yn ôl Mr Dunbobbin, fe fydd yn talu am lu o fesurau newydd gan gynnwys cynnydd mewn profion gyrru dan ddylanwad cyffuriau i wella diogelwch ffyrdd ac arbed bywydau, sy’n un o flaenoriaethau strategol y comisiynydd.

Mae mentrau eraill yn cynnwys cynyddu’r frwydr yn erbyn cam-drin plant, cam-drin domestig a seiberdroseddu.

Dywed Mr Dunbobbin ei fod hefyd yn cyflawni addewid yn ei faniffesto etholiadol i roi mwy o blismyn ar y strydoedd.

Bydd uned dronau arloesol yr heddlu, sydd wedi achub tri bywyd ers ei sefydlu fis Ebrill diwethaf, yn cael ei hehangu gyda dau beilot ychwanegol.

Bydd 10 swyddog heddlu arall a staff heddlu yn ymroddedig i weithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig i newid eu hymddygiad gyda’r nod o leihau aildroseddu, yn ogystal â dod â throseddwyr o flaen eu gwell a diogelu dioddefwyr.

Ar yr un pryd, meddai, bydd diogelu dioddefwyr yn ganolog i ddull gweithredu’r heddlu a bydd panel newydd yn cael ei sefydlu fel bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed.

Mae’r comisiynydd o’r farn y bydd cryfhau Timau Plismona Cymdogaethau yn helpu i roi tawelwch meddwl i holl gymunedau’r Gogledd, ac yn enwedig yr henoed a phobl fregus.

Yn y cyfamser, mae’n cryfhau’r Uned Troseddau Economaidd gyda thri swyddog arall er mwyn helpu i atal llanw cynyddol seiberdroseddu, gan gynnwys twyll ar-lein.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rwy’n ddiolchgar i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am eu cefnogaeth i’m cynigion.

“Rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl a’i dîm o uwch swyddogion i lunio’r mesurau a fydd yn awr yn cael eu hymgorffori yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy’n gosod y seiliau ar gyfer plismona gogledd Cymru.

“Byddaf yn craffu ar y gwasanaeth heddlu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu’n llawn ac rwy’n cymryd fy nghyfrifoldebau o ddifrif yn hyn o beth.

“Bydd ffocws o’r newydd ar ddiogelwch ffyrdd oherwydd bod llawer gormod o bobl yn marw neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol ar ein priffyrdd.

“Dyna pam y bydd mwy o ddefnydd o brofion cyffuriau ar ymyl ffordd oherwydd os ydych chi’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau mae’n ddamwain sy’n aros i ddigwydd.

“Yn ogystal â gorfodi cadarn, bydd ymgyrch i addysgu a chodi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ffyrdd.

“Mae gan blismona’r ffyrdd hefyd rôl bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfniadol wrth i ni gynyddu ein brwydr yn erbyn gangiau cyffuriau milain Llinellau Cyffuriau.

“Byddwn hefyd yn cynyddu’r defnydd o gamerâu Adnabod Platiau Rhif yn Awtomatig (ANPR) sy’n ffordd hynod effeithiol o adnabod troseddwyr sy’n croesi ffiniau ac unigolion eraill sy’n torri’r gyfraith.

“Fel rhywun sydd â chefndir yn y diwydiant TG, rydw i hefyd yn gwthio’n galed am y gynyddu’r defnydd o dechnoleg mewn nifer o feysydd.

“Yn ogystal ag achub bywydau, bydd ehangu’r uned drôn yn cefnogi gweithrediadau plismona a mentrau atal trosedd yn arbennig ar gyfer cymunedau mewn ardaloedd gwledig.

“Byddwn hefyd yn sefydlu tîm cyswllt digidol pwrpasol i ehangu’r ffyrdd sydd ar gael i bobl eu defnyddio i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae seiberdroseddu yn cynyddu ar raddfa frawychus ar draws y byd ac rydym wedi gweld cynnydd o 50 y cant yn ddiweddar.

“O ganlyniad, rwy’n darparu cyllid ar gyfer tri swyddog ychwanegol i ymuno â’r Uned Troseddau Economaidd lwyddiannus fel y gallwn fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol hwn yn ei holl ffurfiau.

“Bydd taro’n galed yn erbyn seiberdroseddu yn cynnwys mynd i’r afael â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant, targedu troseddau meithrin perthynas amhriodol, a sgamiau ar-lein.

“Rwyf hefyd yn angerddol am bwysigrwydd plismona cymdogaeth da, hen ffasiwn sy’n sylfaen i Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae sicrhau bod ein swyddogion allan yn darparu presenoldeb gweladwy yn ein cymunedau yn ffordd o roi tawelwch meddwl i bobl oedrannus a bregus yn arbennig.

“Yn ogystal â dal unrhyw achosion posib yn fuan, maen nhw hefyd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth wrth i ni fynd i’r afael â throseddu mwy difrifol.

“Dyna pam rwy’n buddsoddi mewn recriwtio 10 Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu ychwanegol, gan adeiladu ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i dalu am 20 SCCH ychwanegol ar draws y Gogledd.

“Bydd cael mwy o blismyn ar y strydoedd yn cynyddu cyfleoedd i gasglu gwybodaeth a brwydro yn erbyn troseddau cudd fel caethwasiaeth fodern.

“Rwy’n credu bod y cynnydd o 22c yr wythnos yn cynrychioli gwerth gwych am arian ac mae wedi’i gynllunio i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bod yn ddarbodus yn ariannol a gwneud gogledd Cymru yn lle hyd yn oed yn fwy diogel i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn ymweld â’r rhanbarth.”