Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cyhoeddi rhybudd Dydd Sant Ffolant rhag twyllwyr rhamant

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn cyhoeddi rhybudd Dydd Sant Ffolant rhag twyllwyr rhamant

Os ydych wedi dioddef twyll, gallwch ddweud wrth Action Fraud amdano drwy’r wefan, www.actionfraud.police.uk neu drwy eu ffonio ar 0300 123 2040 tra gall pobl sy’n amau ​​eu bod wedi cael eu twyllo hefyd ffonio llinell gymorth newydd drwy ffonio 159.


Mae pennaeth heddlu wedi cyhoeddi rhybudd taer i ddynion a merched unig yng ngogledd Cymru i beidio â chael eu twyllo gan sgamwyr creulon.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn siarad ar ôl iddi gael ei datgelu bod sgamwyr creulon wedi twyllo eu targedau allan o bron i £500,000 y llynedd.

Dywedodd Mr Dunbobbin fod heddlu’r rhanbarth wedi derbyn dros 100 o adroddiadau o dwyll rhamant yn 2021.

Ond mae’n ofni mai dim ond crafu’r wyneb yw hyn, gyda llawer mwy o ddioddefwyr â gormod o embaras neu gywilydd i gysylltu â’r heddlu ar ôl iddynt gael eu twyllo.

Yn ôl Mr Dunbobbin, roedd y cynnydd mewn unigrwydd a theimlo’n ynysig yn ystod cyfnod y pandemig hefyd wedi arwain at dwf mewn twyll rhamant.

Roedd un o’r achosion a ddaeth i’r amlwg yn ymwneud â dyn a gollodd £150,000 ar ôl cael ei dwyllo mewn sgam fel hyn dros gyfnod o fisoedd wrth iddo ymbellhau oddi wrth deulu a ffrindiau.

Dywedodd y twyllwr wrtho ei bod hi am adnewyddu eiddo roedd ganddi dramor er mwyn ei werthu i symud i'r DU fel eu bod yn gallu treulio gweddill eu bywydau gyda'i gilydd.

Perswadiwyd y dioddefwr i anfon arian at y twyllwr rhamant er mwyn i'r gwaith gael ei gwblhau.

Dywedodd y sgamiwr wrtho hefyd bod angen iddi smalio ei bod yn briod er mwyn hawlio etifeddiaeth deuluol ac oherwydd hynny cytunodd y dioddefwr i esgus ei fod yn ŵr iddi.

Penllawn’r peth oedd i’r dioddefwr wneud “taliadau sylweddol” am ffioedd cyfreithiol ffug i amrywiol gyfrifon banc er mwyn rhyddhau’r arian i’r sawl a ddrwgdybir o’i dwyllo.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i’r achos ac yn darparu cefnogaeth i’r dioddefwr.

Mae mynd i’r afael â thwyll yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throseddu Mr Dunbobbin, sy’n gosod y cynllun cyffredinol ar gyfer plismona’r Gogledd.

Mae'r comisiynydd wedi addo cryfhau Uned Troseddau Economaidd yr heddlu gan benodi tri swyddog ychwanegol.

Mae Mr Dunbobbin hefyd yn darparu cyllid ar gyfer y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy sy'n gwasanaethu gogledd Cymru gyfan.

Mae'r ganolfan yn dod â gwasanaethau cymorth Heddlu Gogledd Cymru, Uned Gofal Tystion Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a'r hen sefydliad Cymorth i Ddioddefwyr i gyd at ei gilydd.

Datgelodd y comisiynydd hefyd y gall pobl sy’n ofni eu bod wedi dioddef twyll ffonio llinell gymorth newydd, 159, sy’n anelu at fod yn “999 ar gyfer twyll”.

Mae’r rhif 159 yn cael ei dreialu gan Stop Scams UK, sef grŵp o fanciau a chwmnïau ffôn a bydd yn galluogi pobl i siarad â’u banc ar unwaith os ydynt yn amau bod twyll wedi digwydd.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Gall bod yn ddioddefwr twyll gael effaith ddinistriol a thrawmatig ar fywydau pobl, gan greu chwalfa emosiynol.

“Y broblem yw bod y sgamwyr hyn yn anhygoel o gredadwy ac yn gallu creu stori y mae’r dioddefwr yn ei llyncu, felly mae’n hawdd deall sut y caiff pobl eu twyllo, yn enwedig os ydyn nhw’n teimlo’n unig.

“Mae’n bwysig felly i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth rhag y math hwn o droseddu a pheidio â chael eu twyllo gan bobl fel hyn, gan mai eu hunig ddiddordeb yw pluo eu dioddefwyr yn ddidrugaredd.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’n ddealladwy, oherwydd y pandemig, fod pobl wedi bod yn teimlo’n ansicr ac yn unig ac mae hynny wedi arwain at gynnydd yn y math hwn o dwyll.

“Mae’r pandemig hefyd wedi rhoi’r esgus perffaith i dwyllwyr pam na allan nhw gyfarfod wyneb yn wyneb efo’u dioddefwyr.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n pryderu y gallent fod wedi dioddef twyll i geisio cymorth a chefnogaeth.”

Os ydych wedi dioddef twyll, gallwch ddweud wrth Action Fraud amdano drwy’r wefan, www.actionfraud.police.uk neu drwy eu ffonio ar 0300 123 2040 tra gall pobl sy’n amau ​​eu bod wedi cael eu twyllo hefyd ffonio llinell gymorth newydd drwy ffonio 159.