Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cynyddu nifer profion gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn cyhoeddi rhybudd Dydd Sant Ffolant rhag twyllwyr rhamant

Cynnydd o 22c yr wythnos er mwyn arbed bywydau, atal cam-drin a rhoi mwy o blismyn ar y strydoedd  

Mae pennaeth heddlu wedi datgelu cynllun i gynyddu nifer y profion gyrru dan ddylanwad cyffuriau mewn ymgyrch i wella diogelwch ffyrdd ac arbed bywydau.

Mae’r ymgyrch yn rhan o strategaeth newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin sydd hefyd yn cynyddu’r frwydr yn erbyn cam-drin plant, trais domestig a seiberdroseddu, tra’n rhoi mwy o blismyn ar y strydoedd - gan gynnwys 10 Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) newydd.

Bydd yn datgelu ei gynllun i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddydd Llun nesaf (Ionawr 31) pan fydd yn gofyn iddynt gefnogi cynnydd o ychydig llai na 22c yr wythnos yng nghost plismona’r rhanbarth.

Byddai’r cynnydd arfaethedig o 3.68 y cant yn costio £11.25 y flwyddyn ychwanegol i ddeiliaid tai Band D.

Yn ôl Mr Dunbobbin, mae’n anrhydeddu’r addewidion a wnaeth yn ei faniffesto yn ystod yr ymgyrch a arweiniodd at gael ei ethol fis Mai diwethaf a rhoi ar waith ei gynllun Heddlu a Throseddu cyntaf sy’n gosod y seiliau ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

Ymhlith y cynigion allweddol y mae ymgyrch ar y cyd i wella diogelwch ar y ffyrdd a fydd yn gweld tri aelod o staff ychwanegol yn cefnogi’r Uned Plismona Ffyrdd a chynyddu’r defnydd o becynnau profi cyffuriau ymyl y ffordd oherwydd y cynnydd mewn gyrru sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

Bydd 10 swyddog a staff cymorth ychwanegol yn helpu’r rhai sy’n cyflawni cam-drin domestig i newid eu hymddygiad a lleihau aildroseddu, yn ogystal â dod â throseddwyr o flaen eu gwell a diogelu dioddefwyr.

Bydd yr Uned Troseddau Economaidd yn cael tri swyddog arall a dau brentis modern i fynd i’r afael â’r twf mewn seiberdroseddu, gan gynnwys twyll ar-lein.

Bydd 10 SCCH ychwanegol hefyd yn cael eu recriwtio er mwyn helpu i roi tawelwch meddwl i’r henoed a phobl fregus yn y Gogledd.

Mae hynny’n ychwanegol at yr 20 SCCH newydd y telir amdanynt gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae’r cynllun yr wyf yn ei roi gerbron Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn darparu’r cydbwysedd cywir rhwng bod yn ddarbodus yn ariannol a chyflawni’r maniffesto y pleidleisiodd yr etholwyr drosto.

“Fy mlaenoriaeth gyntaf a phennaf yw amddiffyn y cyhoedd yng ngogledd Cymru a chadw pobl yn ddiogel a dyma’r egwyddor sy’n sail i’r cynnig i gynyddu’r praesept o 22c yr wythnos.

“Er enghraifft, mae gormod o bobl yn marw neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.

“Mae mynd i’r afael â diogelwch ffyrdd angen addysgu a chodi ymwybyddiaeth pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, ond byddaf hefyd yn sicrhau bod gorfodi priodol yn cael ei gefnogi fel bod y rhai sy’n achosi’r perygl mwyaf ar ein ffyrdd yn deall na fydd yn cael ei oddef.

“Bydd rhan o’r ymgyrch yn cynnwys mwy o ddefnydd o becynnau profi cyffuriau ar ymyl y ffordd mewn ymdrech fawr i leihau nifer y bobl sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

“Mae troseddwyr a grwpiau troseddau trefnedig sy’n ymwneud â masnach gyffuriau Llinellau Cyffuriau a Chaethwasiaeth Fodern yn defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd i fynd o gwmpas eu busnes, felly byddaf hefyd yn targedu’r rhai sy’n gwneud hynny i wrthod iddynt ddefnyddio’r ffyrdd ac atal cam-fanteisio ar bobl agored i niwed yn ein cymunedau.

“Ar yr un pryd byddaf yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl i gynyddu’r defnydd o Adnabod Platiau Rhif yn Awtomatig (ANPR) sy’n arf effeithiol wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig.

“Mae’r ymgyrch i fynd i’r afael â cham-drin domestig yn cael ei chryfhau gyda thri swyddog heddlu ychwanegol a staff cymorth i weithio gyda rhai sy’n cyflawni troseddau cam-drin o’r fath fel y gallwn leihau aildroseddu. Mae angen i ddynion fod yn ymwybodol o’u hymddygiad a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar ferched.

“Mae seiberdroseddu wedi codi 50 y cant ac mae’n parhau i fod y trosedd sy’n tyfu fwyaf yn y DU a gweddill y byd felly rydw i’n rhoi hwb i’r Uned Troseddau Economaidd arloesol fel y gall Heddlu Gogledd Cymru barhau i arwain y ffordd wrth frwydro yn erbyn y bygythiad newydd hwn.

“Rwyf hefyd yn angerddol dros gryfhau Timau Plismona Cymdogaethau Lleol sy’n sylfaen i Heddlu Gogledd Cymru.

“Yn ogystal â rhoi amlygrwydd a sicrwydd, maen nhw hefyd yn ffynhonnell gwybodaeth amhrisiadwy i fynd i’r afael â’r troseddu mwyaf difrifol a throseddau trefnedig.

“Wrth recriwtio 10 SCCH ychwanegol, rwy’n adeiladu ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu cyllid ar gyfer 20 SCCH arall yn y Gogledd.

“Mae ein hymrwymiad ar y cyd yn ymateb uniongyrchol i’r pryderon y mae pobl wedi’u mynegi i mi ac mae hyn yn aruthrol o bwysig o ran hyrwyddo cydlyniant cymunedol, diogelwch a lles, yn enwedig ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.”