Skip to main content

Pennaeth Heddlu yn dathlu hat-tric o wobrau am fod yn agored

Dyddiad

Pennaeth Heddlu yn dathlu hat-tric o wobrau am fod yn agored

Mae pennaeth heddlu yn dathlu ar ôl cipio hat-tric o wobrau am y ffordd agored a thryloyw y mae ef a'i staff yn gweithio. Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi derbyn Marc Ansawdd Tryloywder gan CoPaCC, sefydliad sy'n monitro trefn lywodraethol yr heddlu, am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Rhoddwyd yr anrhydedd am sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar ei wefan fel bod aelodau'r cyhoedd yn gallu darganfod yn hawdd beth mae'n ei wneud.

Galwodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, am fwy o onestrwydd a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus yn ystod yr ymgyrch a welodd ef yn cael ei ethol ym mis Mai 2016.

Dywedodd: "Rwy'n credu'n angerddol mewn pwysigrwydd bod yn gwbl agored am yr hyn rwy'n ei wneud, felly mae ennill y marc ansawdd hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol yn golygu llawer i mi.

Rwy'n arbennig o falch o'r wobr benodol hon oherwydd fy mod yn credu'n angerddol ym mhwysigrwydd bod yn gwbl agored am yr hyn rwy’n ei wneud.

Mewn bywyd cyhoeddus, mae'n ddyletswydd arnom i fod yn dryloyw ynghylch yr hyn a wnawn a dylai bod yn agored fod yn norm ac nid yr eithriad,

Rwy'n gobeithio y bydd sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn dilyn yr un peth oherwydd ein bod yn cael ein hariannu gan drethdalwyr ac mae ganddynt bob hawl i wybod beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwario eu harian.

Mae'n fater o atebolrwydd, felly mae angen i ni fod yn gwbl flaengar ynglŷn â sut rydym yn gweithredu yn hytrach na chuddio y tu ôl i ddeddfwriaeth ac eithriadau i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhaid i mi dalu teyrnged i'r staff yn fy swyddfa oherwydd maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau ein bod ni wedi cael y marc ansawdd hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt.”

Roedd y Swyddog Gweithredol, Meinir Mai Jones, yr un mor falch.

Dywedodd: “Y Marc Ansawdd Tryloywder yw'r safon aur o ran bod yn agored a thryloyw, felly rydym i gyd yn falch iawn o'i dderbyn.

Roedd yn ymdrech tîm go iawn. Er mai fi wnaeth lunio'r cyflwyniad a rheoli'r wefan, roedd hynny ond yn bosib efo cymorth a gwaith pobl eraill.

Yn ôl y beirniaid roeddem yn cydymffurfio'n llwyr â’r gofynion, ac mae derbyn y wobr am yr ail flwyddyn yn olynol yn golygu ein bod yn gyson ragorol yn hyn o beth, ac nad oes lle i wella.

Mae'r Comisiynydd yn berson etholedig ac mae'n gwneud cymaint â phosib i wneud y cyhoedd yng ngogledd Cymru yn ymwybodol o'r gwaith y mae'n ei wneud.”

Dywedodd Paul Grady, Pennaeth yr Heddlu ar gyfer Grant Thornton sy'n noddi'r cynllun: “Mae tryloywder yn rhan hanfodol o'r broses ddemocrataidd.

Er mwyn i'r cyhoedd allu mesur pa mor llwyddiannus yw eu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wrth gyflawni eu mandad etholiadol, mae angen iddyn nhw allu cael gafael ar wybodaeth sy'n hygyrch, yn hawdd ei deall ac yn addas at y diben.

Ychwanegodd Bernard Rix, Prif Weithredwr CoPaCC: “Yn fy marn i, mae swyddfeydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i gyd wedi dangos eu bod yn dryloyw yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud, gan fodloni gofynion cyfreithiol perthnasol.

Maen nhw’n cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn fformat hygyrch ar eu gwefannau. Rwy'n eu llongyfarch i gyd ar eu gwaith rhagorol, ac rwy’n gallu edrych ymlaen yn gwbl hyderus gan wybod y bydd pob un ohonynt yn parhau i wneud gwaith rhagorol yn y maes hwn.”