Dyddiad
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi cyhoeddi enw ei ymgeisydd o ddewis ar gyfer swydd Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth.
Mae penodiad y cyn-filwr o Ryfel y Gwlff, Carl Foulkes, yn amodol ar dderbyn cadarnhad gan gyfarfod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sydd i’w gynnal ar 10 Medi.
Mae Mr Jones wedi hysbysu’r Panel Heddlu a Throsedd o’i ddewis yn dilyn proses gyfweld drwyadl dros ddau ddiwrnod.
Ar hyn o bryd mae Mr Foulkes, 47 oed, sy’n hanu’n wreiddiol o Gaergwrle, ger Wrecsam, yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Glannau Merswy.
Dechreuodd ei yrfa plismona gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn 1993, ar ôl treulio cyfnod yn y Llynges Frenhinol a gwasanaethu yn y Rhyfel Gwlff cyntaf.
Ar ôl gweithio i Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn Llundain am 10 mlynedd, gan gyflawni amryw o swyddi plismona a chefnogi lleol, fe’i dyrchafwyd i fod yn Brif Arolygydd dros dro.
Yn 2003, ymunodd â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fel Ditectif Brif Arolygydd yn Walsall. Symudodd i’r Adran Ymchwilio Troseddol cyn dod yn Uwch Arolygydd Gweithrediadau yn Birmingham.
Yn 2008, fe’i dyrchafwyd i swydd Comander yn Solihull, a dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn arweinydd Cudd-wybodaeth Heddlu’r rhanbarth, cyn symud ymlaen i fod yn bennaeth CID, sef yr adran fwyaf yn yr Heddlu. Fel pennaeth CID, roedd yn gyfrifol am reoli ymateb yr heddlu i droseddau trefnedig difrifol, llofruddiaethau a throseddau caffael.
Mae ganddo gyfrifoldeb portffolio cenedlaethol dros Cynorthwyo Dadfriffio Troseddwyr o dan SOCPA, Ymchwiliadau Ffynhonnell Agored a Gwasanaeth Personau Gwarchodedig y DU (UKPPS).
Mae Mr Foulkes yn briod gyda mab yn ei arddegau ac mae’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys rhedeg, cerdded a beicio.
Yn 2012, bu’n cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Duathlon y Byd yn Ffrainc, ac mae’n aml yn rhedeg a beicio i gefnogi elusen Breakthrough Breast Cancer.
Dywedodd Mr Foulkes: “Mae’n achos cryn falchder ac yn fraint fawr i mi gael fy newis fel yr ymgeisydd o ddewis i wasanaethu pobl gogledd Cymru.
Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r Panel Heddlu a Throsedd yn fy ngwrandawiad cadarnhau ac. yn amodol ar eu cymeradwyaeth i’m penodiad, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at arwain gwasanaeth heddlu mor ymroddedig a gweithgar.”
Dywedodd y Comisiynydd: “Rwy’n hynod falch o enwi Carl Foulkes fel fy ymgeisydd o ddewis i fod yn Brif Gwnstabl newydd Gogledd Cymru.
Roedd ei brofiad, ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad yn glir o’r broses gyfweld ac rwy’n falch o allu cyflwyno ei enw gerbron y Panel Heddlu a Throsedd.
Ni fyddaf yn gwneud unrhyw sylw pellach hyd nes i’r Panel gael y cyfle i adolygu’r penodiad mewn gwrandawiad cadarnhau.”
Hysbysebwyd y swydd ar ôl i Mark Polin ddatgelu ei fod yn ymddeol ar ôl naw mlynedd fel prif gwnstabl.
Hyd nes y bydd Prif Gwnstabl newydd yn dechrau yn ei swydd, bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl presennol, Gareth Pritchard, yn gweithredu fel Prif Gwnstabl Dros Dro gyda Richard Debicki yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro, tra bydd Neill Anderson yn camu ymlaen i fod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro.