Skip to main content

Pennaeth heddlu yn dweud y dylid arfogi mwy o blismyn rheng flaen efo gynnau tasers

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn dweud y dylid arfogi mwy o blismyn rheng flaen efo gynnau tasers

Mae pennaeth heddlu yn dweud y dylai’r rhan fwyaf o swyddogion rheng flaen yng ngogledd Cymru gael eu harfogi â gynnau tasers er mwyn iddynt allu amddiffyn eu hunain rhag nifer cynyddol o ymosodiadau.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn siarad ar ôl cyfres o ymosodiadau difrifol dros benwythnos Gwyl Banc Awst yng Nghaernarfon, Bangor, y Bala, Wrecsam a Sir y Fflint.

Tynnwyd llygad un plismon, torrwyd trwyn un arall a dioddefodd pump arall ymosodiad corfforol, gan gynnwys cael eu curo a'u cicio.

Y llynedd, mewn cynnydd dramatig treblodd nifer yr ymosodiadau ar yr heddlu yng ngogledd Cymru dros y pum mlynedd blaenorol.

Mae'r heddlu bellach yn sefydlu grŵp arbenigol i adolygu'r ymosodiadau yn fanwl, a fydd yn adrodd i Bwyllgor Gweithrediadau Heddlu’r Gogledd.

Mae'r comisiynydd, sy’n gyn-arolygydd heddlu ei hun, o'r farn bod y toriadau ariannol difrifol a bennwyd gan y Llywodraeth yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn ymosodiadau.

Mae Mr Jones wedi rhoi cefnogaeth gyson i'r galwadau i’r llysoedd bennu cosbau mwy difrifol ar bobl sy'n ymosod ar yr heddlu.

Cefnogodd y Mesur newydd ar Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Troseddau) yn gynharach eleni.

Mae'r ddeddf newydd bellach wedi cael trydydd darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi a disgwylir iddi gael Cydsyniad Brenhinol yn yr hydref.

O ganlyniad, caiff y dedfrydau y gall y llysoedd eu gosod eu dyblu.

Dywedodd: "Fel y mae’r Ŵyl Banc diweddar wedi dangos, yn anffodus, mae nifer a difrifoldeb yr ymosodiadau ar swyddogion heddlu yn cynyddu drwy'r amser a rhan o'r rheswm dros hyn yw’r toriadau cyson sy'n cael eu gorfodi ar yr heddlu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae'r toriadau hyn wedi cael canlyniadau difrifol ac mae'r ffaith bod mwy a mwy o ymosodiadau ar swyddogion heddlu yn arwydd o hyn.

Yma yng ngogledd Cymru rydym yn awr yn cryfhau'r rheng flaen ac ers i mi gychwyn yn y swydd ddwy flynedd yn ôl mae'r heddlu wedi recriwtio dros 50 o swyddogion newydd ac rydym yn anelu at barhau i recriwtio.

Roedd yr ymosodiadau dros benwythnos Gŵyl yr Banc yng ngogledd Cymru yn warthus. Ac mae'r ymosodiadau yn cynyddu mewn difrifoldeb. Cafodd trwyn un swyddog ei dorri a thorrwyd gên un arall a bu'n rhaid iddo aros am gyfnod hir i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Hoffwn roi mwy o hyder a chefnogaeth i swyddogion yr heddlu ddefnyddio mwy o rym er mwyn amddiffyn a diogelu eu hunain os byddai rhywun yn ymosod arnynt pan maent ar ddyletswydd.

Mae angen i ni fel heddlu hefyd gefnogi ein swyddogion yn enwedig pan fyddant yn defnyddio grym i amddiffyn eu hunain a'r cyhoedd.

Mae'r gyfraith yn glir, mae'n caniatáu i swyddogion amddiffyn eu hunain a chroesawaf ymyrraeth ddiweddar Prif Gwnstabl Caerhirfryn i gefnogi un o'i swyddogion a feirniadwyd am ddefnyddio grym.

Mae gan bawb, boed yn swyddog heddlu neu'n aelod o'r cyhoedd, yr hawl i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad.

Mae canran uwch o swyddogion heddlu yng ngogledd Cymru yn cario gynnau tasers na llawer o heddluoedd eraill, ond hoffwn weld y mwyafrif o swyddogion yn cario taser pan fyddant allan ar y strydoedd fel y gallant amddiffyn eu hunain.

Mae'r ymosodiadau hyn ar y merched a'r dynion sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol er mwyn ein cadw'n ddiogel yn gywilyddus.

Bydd cyflwyno dedfrydau llymach yn anfon neges glir na fydd yr ymosodiadau hyn ar ein swyddogion rheng flaen yn cael eu goddef.

Mae'r swyddogion yn rhoi eu hunain mewn perygl i gadw ein cymunedau'n ddiogel, felly mae'n rhaid i ni ddiogelu'r rhai sy'n ein hamddiffyn."