Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw unwaith eto am Gyfraith Hillsborough ar ôl drama ddogfen bwerus

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn cyhoeddi rhybudd Dydd Sant Ffolant rhag twyllwyr rhamant

Mae pennaeth heddlu wedi ymbil yn angerddol unwaith eto am gyfraith i atal achosion o gamweinyddu cyfiawnder fel yr hyn a welwyd ar ôl trychineb Hillsborough.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn siarad ar ôl darlledu drama deledu bwerus, Anne, oedd yn seiliedig ar y drasiedi a’i chanlyniadau.

Mae'r ymgyrch dros Gyfraith Hillsborough wedi cael cefnogaeth eang gan deuluoedd y dioddefwyr, y gwleidyddion ac enwogion.

Dywed Mr Dunbobbin y dylid rhoi gorfodaeth gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus fel yr heddlu i fod yn rhagweithiol onest os oes unrhyw beth yn mynd o'i le.

Ar yr un pryd, dylid darparu corff cyfreithiol i bobl gyffredin, wedi'i ariannu gan y trethdalwr, i ymladd eu hachos yn y llys.

Mae'r ymgyrch yn deillio o'r drasiedi a ddigwyddodd yn rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989, pan fu farw 97 o ddynion, menywod a phlant o ganlyniad i'r wasgfa yn y stadiwm.

Roedd y ddrama ddogfen pedair rhan ITV gyda Maxine Peake yn chwarae rhan Anne Williams, y bu farw ei mab 15 oed, Kevin, yn y trychineb.

Cysegrodd Mrs Williams ei bywyd i ddarganfod beth yn union a ddigwyddodd i’w mab, ond bu farw yn 2013 cyn dechrau’r cwest newydd i’r trychineb.

Daeth y gwrandawiadau, a ddaeth i ben yn 2016, i’r casgliad bod y dioddefwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

Ond cafwyd David Duckenfield, yr heddwas oedd yn gyfrifol am reoli’r dorf adeg y gȇm, yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol yn 2019.

Yn y cyfamser, methodd achos yn erbyn dau heddwas wedi ymddeol a chyn-gyfreithiwr Heddlu De Swydd Efrog, a gyhuddwyd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, y llynedd ar ôl i farnwr ddyfarnu nad oedd achos i'w ateb.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Roedd y ddrama deledu, Anne, yn anhygoel o deimladwy a phwerus ac fe danlinellodd yr anghyfiawnder gwarthus y mae’r teuluoedd wedi bod yn ei ddioddef ers llawer gormod o flynyddoedd.

“Roedd y rhaglen hefyd yn ffordd effeuithiol o ddod â’r ymgyrch yn ôl i sylw’r cyhoedd er mwyn sicrhau Cyfraith Hillsborough newydd fel na fydd yr anghyfiawnderau hyn yn cael eu hailadrodd yn y dyfodol.

“Fel y mae pethau, mae clorian cyfiawnder yn pwyso’n drwm yn erbyn pobl gyffredin fel y diweddar Anne Williams a’r ymgyrchwyr eraill sydd wedi brwydro mor benderfynol am gymaint o amser.

“Mae'n warth cenedlaethol eu bod nhw ar ochr arall anghywir celwyddau gan uwch swyddogion yr heddlu ac ymdrechion honedig i guddio’r gwirionedd.

“Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn ei hannog i roi camau ar droed i gyflwyno Bil Atebolrwydd Awdurdod Cyhoeddus sy’n cael ei gynnig gan Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf, sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros deuluoedd Hillsborough.

“Byddai deddf o’r fath yn golygu na fyddai’n rhaid i unrhyw deuluoedd sy’n galaru ddioddef yr un ffawd greulon fyth eto.

“Byddai sicrhau’r ddeddfwriaeth hirddisgwyliedig yma yn ffordd dda o anrhydeddu cof yr holl ddioddefwyr diniwed hyn a byddai’n mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at unioni’r camweddau ofnadwy a welsom yn ystod y degawdau dilynol.”