Skip to main content

Pennaeth heddlu yn rhoi'r droed i droseddau casineb

Dyddiad

171021 PCC Commissioners Cup-78

Gwisgodd pennaeth heddlu ei esgidiau pêl-droed i gymryd rhan mewn twrnamaint chwech-bob-ochr i roi’r droed i droseddau casineb.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin bod y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Wrecsam i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb wedi bod yn llwyddiant mawr.

Cynhaliwyd y digwyddiad a noddwyd gan y comisiynydd, ym Mhrifysgol Glyndŵr unwaith eto ar ôl cael ei gohirio y llynedd oherwydd y cyfnod clo, gan ddenu dros 100 o chwaraewyr a 15 tîm, sef y nifer uchaf erioed.

Roedd Mr Dunbobbin yn un o chwaraewyr tîm Heddlu Gogledd Cymru a fethodd o drwch blewyn â chyrraedd y pedwar olaf ac mi gyflwynodd Dlws y Comisiynydd i’r enillwyr Place to Place, o Wigan.

Er bod ei ben-glin yn brifo fymryn ar ôl iddo greu argraff yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn, talodd y Comisiynydd deyrnged i'r timau a gymerodd ran a’r trefnwyr, clwb pȇl-droed Belle Vue, y clwb a ffurfiwyd yn Wrecsam yn 2016 i gefnogi pobl â materion cam-drin sylweddau, problemau iechyd meddwl a phobl o leiafrifoedd ethnig neu grwpiau LGBT.

Meddai: “Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwych ac ar ôl cael ei ohirio gan gyfnodau clo y pandemig, mae’r twrnamaint yn mynd o nerth i nerth ac yn tyfu.

“Yn y flwyddyn gyntaf roedd tri thîm, y tro diwethaf roedd wyth a’r tro hwn mae 15 o dimau wedi dod yma o lefydd mor bell i ffwrdd â Wigan, Caer a Chroesoswallt gyda mwy o ymholiadau gan dimau i gymryd rhan y flwyddyn nesaf.

“Mae wedi cael ei chwarae mewn ysbryd gwych heb un cerdyn melyn ac mae’n tanlinellu’r neges o sut y gallwn ni wneud cymaint mwy a sut y gall pethau cadarnhaol ddigwydd pan ddown ni i gyd at ein gilydd.”

Yn y rownd derfynol curodd yr enillwyr, Place to Place, clwb a ffurfiwyd gyda'r un delfrydau â Belle Vue, dîm Hosbis y Good Shepherd, o Backley, ger Caer, 4-0.

Mi wnaethon nhw gyrraedd y rownd derfynol ar ôl curo gem gynderfynol yn erbyn Merched Belle Vue, a oedd yn cymryd rhan yn dilyn pleidlais gan gapteiniaid yr holl dimau, tra llwyddodd yr Hosbis i oresgyn bygythiad Clwb Dydd Mawrth y Ddraig o Groesoswallt, a orffennodd yn drydydd yn y pen draw.

Fe wnaeth trefnydd y digwyddiad, Delwyn Derrick, sylfaenydd clwb pȇl-droed Belle Vue, hefyd helpu i ddyfarnu’r twrnamaint a oedd yn cynnwys tri grŵp o bum tîm a 34 o gemau 20 munud, pob un yn cael eu chwarae gyda phêl-droed lliw enfys, ac ar ol chwythu’r chwiban olaf dywedodd Delwyn: “Hwn oedd y digwyddiad mwyaf i ni ei gynnal felly mae gen i lawer llai o straen erbyn hyn!

“Ond mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae pawb wedi dod yma i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ac maen nhw i gyd wedi ymrwymo i ddod yn ôl y flwyddyn nesaf.

“Mae cefnogaeth y Comisiynydd wedi bod yn wych a’r tro nesaf rwy’n rhagweld y bydd y twrnamaint hyd yn oed yn fwy ac efallai y bydd yn rhaid i ni ei gynnal dros ddau ddiwrnod.

“O ran troseddau casineb nid y bobl sy’n dod o amodau gwael yw’r broblem ac mae llwyddiant y twrnamaint hwn yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd.”

Methodd Belle Vue, a enillodd y digwyddiad pan gafodd ei chwarae ddiwethaf dair blynedd yn ôl, â chyrraedd y rownd gynderfynol er gwaethaf goliau gan Rolando Bertrand, ffoadur 23 oed, a orfodwyd i ffoi o Nicaragua gyda'i fam a'i chwaer ar ôl protestio yn erbyn y llywodraeth.

Dywedodd Rolando, sydd bellach yn chwarae’n rheolaidd gyda Belle Vue yn Uwch Gynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru: “Dechreuodd y Llywodraeth yn Nicaragua aflonyddu arna i a fy nheulu ac nid oedd yn ddiogel i ni mwyach felly roedd yn rhaid i ni adael a chawsom ein cartrefu yn Wrecsam.

“Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac ar ôl i mi dderbyn fisa gan y Swyddfa Gartref rydw i eisiau parhau â fy astudiaethau cyfraith ond yn y cyfamser rydw i'n angerddol am bêl-droed ac mae Belle Vue wedi rhoi cyfle i mi chwarae yn rheolaidd ac rydw i wedi sgorio pedair gôl mewn tair gêm.

“Mae’r bobl yma yn Wrecsam wedi bod yn groesawgar iawn ac mae gan y dref ddiwylliant amrywiol iawn gyda thrigolion yma o Bortiwgal, Gwlad Pwyl a chymunedau Ewropeaidd eraill yn ogystal â phobl o Venezuela a Colombia hefyd.”

Cafodd y digwyddiad hefyd ganmoliaeth gan Mark Liptrot, capten y tîm llwyddiannus Place to Place, a ddywedodd: “Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych. Mae'r trefniadau yma yn ffantastig ac rydym i gyd wrth ein boddau.

“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i’r digwyddiad a byddwn yn dod yn ôl i amddiffyn y tlws y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd Delwyn Derrick: “Roedden ni i gyd yn gwybod pam ein bod ni yma. Nid dim ond y tlws oedd hyn, roeddem am godi ymwybyddiaeth o'r frwydr yn erbyn troseddau casineb a'r angen i ddangos y cerdyn coch i hiliaeth.

Yn ogystal â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan Brifysgol Glyndwr, Avow, BEST Wales, y Co-op. Arloeswyr Cymunedol, Morrisons, Pride Wrecsam a Phêl-droed v Homoffobia.