Skip to main content

Pennaeth heddlu yn rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn gwneud gogledd Cymru yn lle llai diogel

Dyddiad

Pennaeth yr heddlu'n galw am ddedfrydau llymach i bedoffiliaid

Mae pennaeth heddlu wedi rhybuddio unwaith eto y byddai Brexit Heb Gytundeb yn berygl gwirioneddol i bobl gogledd Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn ofni na fydd yr heddlu’n gallu arestio troseddwyr o wledydd eraill yn y fan a’r lle, os bydd Prydain yn colli mynediad at gronfeydd data a chytundebau Ewropeaidd.

Ni fyddai’n bosibl, er enghraifft, i Heddlu Gogledd Cymru gadw’r rhai sydd dan amheuaeth yn y ddalfa hyd nes y ceir gwarant gan y llysoedd, hyd yn oed os yw gwiriadau yn dangos bod yr unigolyn wedi troseddu dramor.

Mae hynny’n golygu, meddai, y gallai troseddwyr dan amheuaeth ddianc os oedd yn ofynnol i’r heddlu ddibynnu ar fesurau a oedd yn arafach a mwy biwrocrataidd na’r trefniadau presennol.

Dywedodd Mr Jones: “Dyma’r union sefyllfa y gwnes i rybuddio yn ei chylch tua dwy flynedd yn ôl ac rwy’n poeni, wrth i ni nesáu at ddibyn Brexit, y bydd pobl gogledd Cymru yn cael eu rhoi mewn perygl os bydd ffolineb gadael Heb Gytundeb yn digwydd.”

Roedd y Comisiynydd yn siarad ar ôl i’r mater gael ei godi gan y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Richard Martin, yr arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer Brexit.

Yn ôl y Dirprwy Gomisiynydd Martin, ar hyn o bryd os yw swyddog heddlu yn cynnal “gwiriad enw” ar rywun y maent yn dod ar ei draws, caiff yr enw ei redeg yn awtomatig trwy gronfeydd data yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Heb fynediad at gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, byddai’n rhaid i’r swyddog wirio cronfeydd Interpol, sef system ar wahân a allai gymryd hyd at 66 diwrnod

Dywedodd: “Ni fyddem yn gallu arestio’r person hwnnw yn y fan a’r lle, ond gyda Gwarant Arestio Ewropeaidd gallwn ei wneud ar unwaith.

Mae’n rhaid i’r swyddog fynd i lys ynadon i gael gwarant o dan gonfensiwn estraddodi 1957.

Mae drwgweithredwyr yn entrepreneuriaid troseddu… os oes bwlch rwy’n siŵr y bydd rhai ohonynt yn manteisio arno.”

Myngodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bryderon am y peryglon posibl o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn fuan ar ôl y refferendwm ym mis Mehefin 2016.

Meddai: “Mae’r holl offer pwysig hyn rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer diogelwch a phlismona bellach mewn perygl, a chyn bo hir mae’n ddigon posib na fyddant ar gael o gwbl i’n heddluoedd eu defnyddio.

Fe allai Brexit beryglu’r Deyrnas Unedig a gogledd Cymru. Wedi’r cyfan, defnyddir y cydweithredu Ewropeaidd yma i helpu Heddlu Gogledd Cymru i warchod rhag terfysgaeth a throseddu trefnedig difrifol, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a masnachu cyffuriau a masnachu mewn pobl.

Byddai Brexit caled yn golygu dechrau o’r dechrau, gan drafod gyda phob gwlad yn unigol a defnyddio’r trefniadau sydd gennym ar hyn o bryd gyda gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Byddai hynny’n golygu proses estraddodi dipyn arafach a mwy anodd, lle gallai troseddwyr osgoi cyfiawnder a’i chael hi’n haws gweithredu yn y Deyrnas Unedig.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf. Mae’r Swyddfa Gartref wedi derbyn £350 miliwn mewn cyllid pontio a bydd y Lluoedd Ffiniau yn derbyn £60 miliwn o hynny.

Mi wnes i herio Cyfarwyddwr Cynorthwyol Lluoedd Ffiniau’r Deyrnas Unedig ynghylch sut bydd plismona a diogelwch yn edrych ar gyfer yr Ardal Deithio Gyffredin rhwng Prydain ac Iwerddon. Nid oedd yn gallu ateb fy nghwestiynau, ond dywedodd y byddai’r Ardal Deithio Gyffredin yn parhau.

Ond mae hynny’n gofyn am farchnad sengl ac Undeb Tollau, ac mae Mrs May yn dweud y byddwn yn gadael y ddau.

Yn anffodus, mae’n ymddangos nad ydym wedi symud ymlaen fawr ddim ers y refferendwm, ac mi wnes i ofyn bryd hynny i’r Gweinidog dros Ddiogelwch, Ben Wallace, ynghylch plismona’r Ardal Deithio Gyffredin a’i ateb stoc oedd bod y Swyddfa Gartref yn ymwybodol o ‘wendidau’ yr Ardal Deithio Gyffredin ond mae’n ymddangos i mi nad ydyn nhw wedi gwneud llawer ynghylch y gwendidau hynny yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fodd bynnag, mae’n dod yn fwyfwy clir y bydd Brexit caled yn golygu ffin galed nid yn unig ar ynys Iwerddon, ond yng Nghaergybi hefyd gan amharu ar y llif nwyddau a gwasanaethau rydym wedi’i weld yno ers 40 mlynedd, a hynny heb y tawelwch meddwl a roddir gan gydweithrediad efo cyrff plismona Ewropeaidd.

Mae’r materion anodd a arweiniodd at gynllun yswiriant y ‘Backstop’ arfaethedig wedi bod yno o’r cychwn cyntaf ac maent yn dal i fod yn rhwystr mawr, gan wneud trychineb Brexit Heb Gytundeb neu gytundeb gwael yn fwy tebygol o hyd.”