Skip to main content

Pennaeth heddlu yn ymuno â phatrôl i achub bywydau yn Wrecsam

Dyddiad

080222-PCC Wxm-3

Mae pennaeth heddlu wedi ymuno â swyddogion ar y bît Wrecsam i weld sut mae bywydau’n cael eu hachub ar strydoedd tref fwyaf gogledd Cymru.

Lansiwyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel yn y dref gyda chyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i wneud canol tref Wrecsam yn fwy diogel i bobl sydd allan yn mwyhau’r penwythnos.

Yn awr mae Strydoedd Mwy Diogel Tri wedi sicrhau hanner miliwn o bunnoedd o arian ychwanegol i ymestyn y cynllun ac aeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ynghyd â’r Arolygydd Heddlu Claire McGrady allan ar y stryd i weld sut y mae’r arian yn cael ei wario.

Mae rhan fawr o'r ymgyrch wedi ei hanelu'n arbennig at amddiffyn merched ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

Mae hefyd yn gweld tîm o bedwar o angylion gwarcheidiol Wrecsam, sef y Marsialiaid Stryd sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, yn cerdded y strydoedd a helpu allan yng nghanolfan gyswllt Hafan y Dref wrth droed Allt y Dref.

Bu’r heddlu hefyd yn cynnal patrolau ychwanegol, gan gynnwys swyddogion yn eu dillad eu hunain, yng nghanol y dref a chafodd coed, gwrychoedd a thyfiant eu torri’n ôl er mwyn gwella llwybrau cerdded allan o ganol y dref, a gosodwyd camerâu teledu cylch cyfyng a goleuadau ychwanegol yng nghanol y dref a rhoddwyd hyfforddiant arbennig i ddeiliaid trwydded hefyd i'w helpu i adnabod pobl a allai fod yn agored i niwed.

Dywedodd yr Arolygydd McGrady: “Mae’r camau hyn wedi achub bywydau pobl yn llythrennol. Roedd gennym bobl oedd wedi cael eu hanafu neu wedi mynd yn sâl a gafodd driniaeth gyflym yn y ganolfan gan osgoi’r angen i alw ambiwlans brys.

“Mae’r Marsialiaid Stryd newydd ddechrau eu gwaith a hoffem annog pobl i fynd draw atyn nhw a chychwyn sgwrs efo nhw oherwydd nhw yw llysgenhadon y dref.

“Mae pedwar ohonyn nhw’n cael eu darparu gan Parallel Security ac maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth ag Events Medical a fu’n gyfrifol am eu hyfforddi

“Rydym am annog pobl i fwynhau economi’r nos yma yn Wrecsam ac ar yr un pryd i deimlo’n ddiogel a gwybod bod presenoldeb ar y strydoedd sydd yno i roi tawelwch meddwl.

“Rydym eisiau i’r dref fod yn brysur a bywiog ac rydym am weld economi gyda’r nos ffyniannus oherwydd ei fod yn lle da iawn ar gyfer noson allan.”

Dywedodd Andy Dunbobbin: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer yr hyn sydd eisoes yn gynllun cadarnhaol iawn ac sydd wedi cael effaith go iawn wrth wneud Wrecsam yn lle mwy diogel ar gyfer noson allan dda.

“Mae hyn yn mynd i ddod yn fwyfwy pwysig wrth i gyfyngiadau’r pandemig lacio a gobeithio y bydd mwy o bobl yn mentro allan i fwynhau eu hunain mewn trefi ar draws y Gogledd.

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam ac wrth gwrs gyda deiliaid trwydded lleol sy'n derbyn hyfforddiant fel gwylwyr.

“Bydd hyn yn rhoi’r hyder iddyn nhw ymyrryd os ydyn nhw’n gweld arwyddion o aflonyddu ac er ei fod yn dal i fod ar lefel isel ac mae’n rhoi’r hyder i gwsmeriaid gwyno os oes unrhyw aflonyddu, rhywiol neu fel arall.

“Rydym yn benderfynol i wneud popeth o fewn ein gallu yng ngogledd Cymru i amddiffyn pobl a chadw ein strydoedd yn ddiogel.

“Rydym eisiau i bobl allu mwynhau eu hunain yn synhwyrol a chyrraedd adref yn ddiogel ac rydym yn credu y gall llygaid ychwanegol ar y strydoedd wneud gwahaniaeth a dyna yw’r gobaith hefyd drwy oleuo ein strydoedd yn well a sicrhau bod cymorth a chefnogaeth hyfforddedig ar gael.”

Cafodd cynllun peilot Strydoedd Mwy Diogel ei redeg yn wreiddiol yn 2019, gan Heddlu Northumbria yn Newcastle-upon-Tyne, a bu’n llwyddiant mawr, gyda gostyngiad o 30 y cant mewn achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol difrifol yng nghanol y ddinas.

Heddlu Gogledd Cymru oedd y llu cyntaf yng Nghymru i redeg y cynllun eu hunain ac mae’r rownd ariannu diweddaraf a sicrhawyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cynyddu’r swm sy’n cael ei wario i dros £1 miliwn.

Ychwanegodd Mr Dunbobbin: “Rydym am ddangos yr hyn rydym yn ei wneud yma yn Wrecsam a’i rannu ar draws y Gogledd fel y gall trefi eraill elwa hefyd.

“Mae yna nifer o resymau y gall pobl ddod yn agored i niwed, gan gynnwys gormod o alcohol, mynd ar goll, neu gael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau ac yn Wrecsam bydd pobl allan ar y strydoedd ac yn y tafarndai a chlybiau yn edrych allan amdanyn nhw ac yn eu cadw'n ddiogel.”