Dyddiad
Yn ddiweddar bu pennaeth heddlu yn troedio’r hen lwybrau wrth fynd yn ôl ar ei rawd yn Nyffryn Clwyd.
Yn ôl yn y 1990au cynnar, roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn cerdded strydoedd Dinbych yn rheolaidd fel rhingyll wedi’i leoli yn Rhuthun.
Felly, aeth yn ôl i’r dyfodol er mwyn cynnal y gyntaf mewn cyfres o gymorthfeydd stryd ar draws y rhanbarth i glywed pryderon aelodau’r cyhoedd a chynghorwyr lleol
Treuliodd y diwrnod yn teithio trwy Ddinbych a Henllan gyda’r Cynghorwyr Mark Young, Glen Swingler a Rhys Thomas.
Dywedodd Mr Jones ei fod yntau, fel y cynghorwyr, wedi cael ei ethol gan y cyhoedd, a’i fod eisiau cael mwy o gyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr cymunedol a thrigolion beth y maen nhw eisiau gweld swyddogion yr heddlu yn ei wneud.
Dywedodd: “Mae’n bwysig clywed gan gynghorwyr sir, gan nad oes neb yn adnabod eu trefi a’u cymunedau yn well na nhw. Rydym yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ond am ba reswm bynnag nid oes llawer yn eu mynychu. Rwy’n credu efallai fod pobl yn eu gweld nhw fel digwyddiadau rhy ffurfiol.
Penderfynais felly mai’r peth gorau i mi ei wneud oedd mynd allan a chyfarfod efo cynghorwyr yn eu cymunedau, a chlywed o lygad y ffynnon beth oedd eu pryderon ar lawr gwlad. Mae hefyd yn ffordd wych o gyfarfod efo aelodau’r cyhoedd yng ngogledd Cymru a siarad efo nhw am eu pryderon.
Mae yna wahoddiad agored i gynghorwyr sir gogledd Cymru o bob lliw gwleidyddol i gyfarfod yn eu wardiau ac yn eu cymunedau i drafod plismona a diogelwch cymunedol.
Mae’n hanfodol fy mod i’n ymgysylltu efo’r gymuned a chlywed am y materion sydd ar feddwl pobl yn uniongyrchol, ac mae hefyd yn rhoi’r cyfle i mi amlinellu ac esbonio fy mlaenoriaethau fy hun. Mae llawer iawn o adnoddau’r heddlu yn cael ei wario yn ymchwilio i droseddau sydd alan o olwg y cyhoedd ond mae angen i ni hefyd gofio beth yw blaenoriaethau craidd yr heddlu.”
Ychwanegodd: “Rwy’n cofio dirprwy brif gwnstabl dros dro Gogledd Cymru yn ateb cwestiwn ynghylch y canfyddiad bod llai o swyddogion heddlu yn cerdded y strydoedd.
Dywedodd yn eithaf cywir, er ei bod hi’n braf gweld swyddogion heddlu allan yn cerdded ac yn weladwy ar y strydoedd, na fyddai’r heddwas yna’n gallu atal plentyn rhag cam-fanteisio ar-lein.
Mae hynny’n bwynt pwysig gan fod plismona, a’r gofynion ar swyddogion, wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
I mi mae yna broblem fawr gyda’r cyfryngau cymdeithasol a cham-fanteisio a throseddu ar-lein. Rwy’n credu bod rhieni a neiniau a theidiau yn prynu ffonau clyfar a dyfeisiau eraill i blant heb feddwl am osodiadau diogelwch.
Mae hwnnw’n faes yr hoffwn fynd i’r afael ag o a chael y cyhoedd i feddwl amdano. Mae bron â bod yn drosedd anweledig ac yn rhywbeth y mae angen i ni fynd i’r afael ag o.”
Roedd y Cynghorydd Mark Young, sy’n aelod arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Ddiogelwch Cymunedol a hefyd yn is-gadeirydd y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel, wrth ei fodd i groesawu Mr Jones i Ddinbych.
Dywedodd: “Mae’n wych bod rhywun mor brysur â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn fodlon dod allan i gymunedau i drafod materion lleol.
Mae cynghorwyr yn adnabod eu cymunedau a gall materion newid o ward i ward. Mae llawer o bartneriaid yn ymwneud â diogelwch cymunedol felly mae cyfarfod wyneb yn wyneb, yn enwedig gydag aelodau’r cyhoedd, yn arbennig o bwysig.
Rydym wedi cael problemau gyda throseddau treisgar a lladradau yn Ninbych, ond yn ddiweddar rydym wedi gweld nifer o droseddwyr yn cael eu harestio a dod gerbron y llysoedd, felly rydym wedi gweld peth llwyddiant a gostyngiad mawr mewn troseddau.
Rwy’n cadeirio Partneriaeth Dinbych ac rwyf wedi croesawu’r cyfle i drafod cael mwy o ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ar gyfer Dinbych gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wrth i ni gerdded o gwmpas strydoedd y dref.
Mae teledu cylch cyfyng o ansawdd uchel fforddiadwy wedi bod yn werthfawr tu hwnt i drefi ac ardaloedd eraill yn Sir Ddinbych ac mae gweld yr ystadegau o ran faint o droseddu y maen nhw’n helpu i’w ganfod a’i atal yn anhygoel.”
Ymysg y bobl wnaeth gyfarfod â’r Comisiynydd yr oedd George Demir, sy’n rhedeg siop bwyd cyflym yn Bridge Street, Dinbych.
Dywedodd: “Rwy’n dod yn wreiddiol o Dwrci ond symudais i Ddinbych dros 25 mlynedd yn ôl ac rwy’n rhedeg siop cibab yn y dref.
Mi wnes i egluro wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fy mhryderon ynghylch goryrru a bechgyn yn rasio’n wyllt.
Dydw i ddim yn hoffi gweld y bobl ifanc hyn yn rasio o gwmpas y strydoedd; mae’n beryglus iawn ac yn fy mhoeni’n fawr.”