Skip to main content

Pennaeth yr heddlu'n galw am ddedfrydau llymach i bedoffiliaid

Dyddiad

Pennaeth yr heddlu'n galw am ddedfrydau llymach i bedoffiliaid

Mae pennaeth heddlu wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol yn mynegi pryder ynghylch y dedfrydau “rhy drugarog” a roddir i bedoffiliaid ar ôl i ddyn a gasglodd 300,000 o fideos a lluniau o gam-drin plant ddianc rhag dedfryd o garchar.

Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones ei bod hi’n “frawychus iawn” mai dim ond chwarter y bobl a ddedfrydwyd am greu, dosbarthu neu gyhoeddi delweddau o gam-drin plant yn rhywiol yn 2017 a anfonwyd i’r carchar.

Yn y llythyr, cyfeiriodd Mr Jones at achos James Moran, o Brestatyn a storiodd ddelweddau ffiaidd ar yriant caled ei gyfrifiadur.

Roedd y delweddau’n cynnwys plant o chwe mis i 17 oed a guddiwyd mewn ffeiliau cudd yn dwyn enwau fel “mwy o waith”.

Roedd wedi defnyddio meddalwedd arbenigol i gynnal chwiliadau ar y rhyngrwyd am dermau fel "jail bait gallery".

Creodd 18,186 o ddelweddau a 99 ffilm – gyda 220 ohonynt y math mwyaf difrifol, sef Categori A.

Canfuwyd 293,800 o ddelweddau a ffilmiau eraill ond oherwydd y nifer aruthrol ohonynt, ni chawsant eu categoreiddio.

Ar ôl pledio’n euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis Tachwedd diwethaf, rhoddwyd dedfryd ohiriedig o 14 mis, 60 diwrnod o adsefydlu a 200 awr o wasanaeth yn y gymuned iddo.

Ysgrifennodd Mr Jones: “Dyma’r achos diweddaraf mewn cyfres o achosion lle rhoddwyd dedfrydau i ddiffynyddion a gyflawnodd droseddau oedd yn groes i Ddeddf Diogelu Plant 1978 sy’n cael eu gweld gan y cyhoedd fel rhai llawer rhy ysgafn.

O gofio difrifoldeb yr ymddygiad troseddol, rwy’n cytuno bod y dedfrydau hynny’n ymddangos yn drugarog ac mae gen i bryderon gwirioneddol am rai o’r dedfrydau a roddir i bedoffiliaid.

Mae’n ffaith hynod frawychus mai dim ond chwarter o’r 2,528 o bobl a ddedfrydwyd am greu, dosbarthu neu gyhoeddi delweddau o gam-drin plant yn rhywiol yn 2017 a gafodd eu hanfon i garchar.

Mae’r troseddau hynny’n wrthun i’n cymdeithas a dylid eu trin felly. Mae angen i’r ddedfryd atal troseddwyr. Mae angen i bobl sylweddoli pan fyddant yn cyflawni trosedd benodol, y bydd y gosb yn gweddu i’r drosedd.

Rwy’n deall yn llwyr ar hyn o bryd na ellir adolygu dedfrydu mewn perthynas â throseddau sy’n groes i’r Ddeddf Diogelu Plant 1978 am fod yn ‘rhy drugarog’, gan nad yw’r troseddau hynny wedi’u cynnwys yn y rhestr troseddau y gellir eu hadolygu.

Fodd bynnag, gan fod modd herio dedfrydau am ymosodiadau rhywiol uniongyrchol am fod yn rhy drugarog, a bod lawrlwytho a rhannu delweddau o gam-drin plant yn drosedd yr un mor niweidiol a llechwraidd ag ymosodiad rhywiol uniongyrchol, credaf y dylai’r troseddau hynny fod ar y rhestr.

At hynny, rwy’n cael ar ddeall eich bod yn ystyried ychwanegu troseddau pellach, gan gynnwys troseddau am ddelweddau anweddus o blant at y rhestr troseddau y gellir eu hadolygu o dan y broses o ddedfrydau rhy drugarog. Ysgrifennaf y llythyr hwn i ddangos fy nghefnogaeth ac rwy’n eich annog, yn y modd cryfaf posibl, i gynnwys y troseddau hyn mewn unrhyw restr ddiwygiedig.

Mae gan unrhyw un a gafwyd yn euog yr hawl i apelio yn erbyn difrifoldeb eu dedfryd. Mae hynny’n gwbl briodol mewn cymdeithas wâr, ac mae gweithdrefn ar ei chyfer.

Fodd bynnag, mae’r weithdrefn i ddioddefwyr apelio yn erbyn dedfryd rhy drugarog yn anhygoel o wrthnysig. Mae’r arweiniad yn eithriadol o amwys: “Dim ond rhai mathau o achosion y gellir eu hadolygu, sy’n cynnwys...llofruddiaeth...trais rhywiol...lladrad...rhai troseddau rhyw yn erbyn plant a chreulondeb yn erbyn plant...rhai achosion o dwyll difrifol...rhai troseddau cyffuriau difrifol...rhai troseddau cysylltiedig â therfysg.

Mae’r amwysedd hwn yn hynod anodd i’r cyhoedd rwy’n eu cynrychioli gyda golwg ar ddeall beth ellir a beth na ellir apelio yn ei erbyn.

Mae’n annheg yn y bôn nad oes gan ddioddefwyr yr un hawliau â’r rhai sydd wedi cyflawni trosedd.

Rwy’n deall ei bod hi’n amhosibl rhoi dedfrydau o garchar ar gyfer pob trosedd ac yn wir, byddai’n anghyfiawn gwneud hynny.

Fodd bynnag, deallaf hefyd fod gofyn i’r gosb fod yn addas i’r drosedd ac mae nifer cynyddol o droseddau delweddau anweddus nad ydynt yn cael eu cosbi’n briodol.”