Dyddiad
Ar Agor Ar Gyfer Busnes: Edrych ar Gaethwasiaeth Fodern yn economi Gogledd Cymru yn dilyn y pandemig
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i berchnogion busnes a sefydliadau sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru ar sut i adnabod Caethwasiaeth Fodern a'r peryglon y mae yn ei osod ar yr economi leol. Yr enw arno yw 'Ar Agor ar Gyfer Busnes: Edrych ar Gaethwasiaeth Fodern yn economi Gogledd Cymru", bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 22 Mai yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno.
Mae Caethwasiaeth Fodern yn fygythiad parhaus i gymunedau yng Ngogledd Cymru a rhaid i fusnesau fod yn ymwybodol o sut y gall hyn gael effaith arnynt a sut i adnabod yr arwyddion. Yn y digwyddiad, bydd SCHTh yn dod â lleisiau allweddol a sefydliadau at ei gilydd i drafod camau syml y gall pob perchennog busnes gymryd i ddiogelu eu hunain, eu staff a'u cwmnïau.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth siaradwyr a sefydliadau gydag arbenigedd yn y maes hwn, yn cynnwys:
- Kevin Hyland OBE – Santa Marta Group
- Martin Plimmer - Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur
- Glory Williams – BAWSO a Melanie Chitty – Barnardo’s
- Ditectif Uwcharolygydd Simon Williams - Heddlu Gogledd Cymru
- Seb Phillips - Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Heddlu Gogledd Cymru
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Wayne Jones: "Mae caethwasiaeth fodern yn tyfu'n gyflym, mae'n aml yn guddiedig ac yn un y dylai pob busnes - o letygarwch a gofal i fanwerthu ac amaeth - fod yn ymwybodol ohono. Mae hyn yn wir hyd yn oed yng Ngogledd Cymru, ble mae nifer o achosion o Gaethwasiaeth Fodern wedi cael eu darganfod yn ddiweddar.
"Bydd Agored ar Gyfer Busnes yn cynnig y cyfle i berchnogion busnesau ddod at ei gilydd, clywed gan yr arbenigwyr a dysgu sut i gadw eu staff a'u busnesau yn ddiogel rhag Caethwasiaeth Fodern. Buaswn yn annog unrhyw berchennog busnes sydd â diddordeb mewn dod i archebu eu lle rŵan."
Pryd: 22 Mai 2023, 12:30 - 16:30
Lle: Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno
Cost: yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa: Perchnogion busnes bach a chanolig ledled Gogledd Cymru
Tocynnau: Archebwch docynnau Ar Agor Ar Gyfer Busnes nawr: https://tocyn.cymru/en/event/cc03c28d-3025-43fa-9254-842c001cc147
Dalier sylw: Gan fod y digwyddiad yn debygol o fod yn boblogaidd, mae trefnwyr yn gofyn i ddim mwy na 2 docyn gael eu harchebu ar gyfer bob busnes.