Skip to main content

Prif gwnstabl newydd yn addo amddiffyn dioddefwyr ac ymladd trefnwyr troseddau

Dyddiad

Prif gwnstabl newydd yn addo amddiffyn dioddefwyr ac ymladd trefnwyr troseddau

Mae prif gwnstabl newydd Gogledd Cymru wedi datgelu sut y gwnaeth ymchwilio i lofruddiaeth driphlyg mam ifanc a’i dau blentyn roi angerdd iddo dros amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref. 

Roedd y cyn-filwr o ryfel y Gwlff Carl Foulkes, sy’n dod yn wreiddiol o Gaergwrle, ger Wrecsam, yn siarad ar ôl i’w benodiad gael ei gadarnhau gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw (dydd Llun, Medi 10).

Fe wnaeth y Panel gefnogi Comisiynydd Heddlu a Throsedd yr ardal, Arfon Jones, wrth iddo enwebu Mr Foulkes, 47 oed, fel ei  ymgeisydd o ddewis yn dilyn proses gyfweld drylwyr dros ddeuddydd ar ddechrau mis Awst.

Yn ogystal â symud i ogledd Cymru i fyw, mae Mr Foulkes hefyd wedi addo rhoi blaenoriaeth i ddysgu Cymraeg.

Ac mae eisoes wedi cofrestru ar gyfer cwrs dwys yn y Ganolfan Iaith yn hen bentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn yng Ngwynedd ym mis Hydref, yn ystod ei wyliau blynyddol o’i swydd bresennol fel Dirprwy Brif Gwnstabl Glannau Merswy.

Bydd yn ymgymryd â’i rôl newydd yn arwain Heddlu Gogledd Cymru ar ddydd Llun, Tachwedd 5.

Fe’i ganed yn Ysbyty Wrecsam Maelor, a threuliodd Mr Foulkes ychydig flynyddoedd cyntaf ei fywyd yng Nghaergwrle, cyn i’r teulu symud i’r Alban ac yn ddiweddarach i Ddwyrain Canolbarth Lloegr oherwydd gwaith ei dad fel peiriannydd awyrennau.

Ar ôl gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol a gweld gwasanaeth yn Rhyfel y Gwlff cyntaf, treuliodd 10 mlynedd yn gweithio i Heddlu Trafnidiaeth Prydain cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr cyn dod yn ddirprwy brif gwnstabl Heddlu Glannau Merswy.

Mae ganddo gyfrifoldeb portffolio cenedlaethol ar gyfer Cynorthwyo Trosglwyddo Troseddwyr o dan SOCPA, Ymchwiliadau Ffynhonnell Agored a Gwasanaeth Personau Gwarchodedig y DU (UKPPS).

Mae Mr Foulkes yn briod gyda mab yn ei arddegau ac mae’n mwynhau gweithgareddau awyr agored gan gynnwys rhedeg, cerdded a beicio.

Disgrifiodd cael ei benodi’n brif gwnstabl Gogledd Cymru fel uchafbwynt ei yrfa, gan addo mynd ati ar unwaith i ymladd troseddau difrifol a threfnedig a diogelu pobl fregus fel dioddefwyr trais yn y cartref.

Meddai Mr Foulkes: “Mae’n fraint fawr ac rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi’n brif gwnstabl Gogledd Cymru – does dim llawer o brif swyddogion yn cael cyfle i fod yn brif gwnstabl yn y lle y cawsant eu geni, lle mae eu teulu’n byw, ac mewn ardal sy’n agos iawn at eu calon. Rwyf wrth fy modd i ddod yn ôl yma.

Rwyf hefyd yn gyffrous iawn am y cyfleoedd i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau gogledd Cymru.

Rwyf am weithio gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd o ran dargyfeirio pobl sy’n gaeth oddi wrth gyffuriau a chymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau a bod yn fwy ataliol - a gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hynny.

Rwyf am sicrhau bod gan ein swyddogion yr offer a’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn i ni allu gwneud pethau fel cymryd olion bysedd ar y stryd a derbyn tystiolaeth dash cam a gwybodaeth arall trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Rwyf am i’n swyddogion weithredu mor effeithiol ar y stryd ac yng nghartrefi pobl ag y maent ar y rhyngrwyd pan fyddant mewn gorsaf heddlu.

Ni allaf wneud dim o hyn heb y bobl iawn, felly rwyf am fod yn glir iawn ynghylch sut rwy’n gallu eu cefnogi nhw, eu lles, eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol.

Mae angen i ni sicrhau bod gennym sefydliad sy’n addas ar gyfer y pum mlynedd nesaf, nid dim ond heddiw.”

Yr achos erchyll a arweiniodd Mr Foulkes i ymroi ei hun i fynd i’r afael â thrais yn y cartref oedd digwyddiad ofnadwy yn Walsall ar Noswyl Nadolig yn 2003 pan laddodd Spencer Smith, adeiladwr 30 oed, ei gariad 25 oed, Lisa Higgins, a’u dwy ferch fach, Keighley, chwech oed, a Demmy, tair oed.

Cafodd Smith ei gyhuddo o lofruddiaeth, ond fe’i canfuwyd wedi crogi yn y carchar cyn y gallai sefyll ei brawf am eu trywanu i farwolaeth.

Dywedodd Mr Foulkes: “Roeddwn i’n dal yn gymharol ddibrofiad fel ymchwilydd ac roedd yn anodd iawn.

Yn ffodus i mi, roedd gen i dîm gwych yn gweithio gyda mi ac mi wnaethon nhw fy nghefnogi. Mae’n debyg mai bryd hynny y cefais fy angerdd dros amddiffyn pobl agored i niwed a dioddefwyr trais yn y cartref.

Pan rydych chi’n gweld rhywbeth fel yna mewn teulu mor ifanc, rydych chi’n sylweddoli bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol ar gyfer y dyfodol. Dylem wneud popeth i atal digwyddiadau fel hynny.

Mae’r hyn a ddysgais oddi wrth y llofruddiaeth honno o ran amddiffyn pobl agored i niwed a cham-drin yn y cartref yn cyd-daro gyda blaenoriaethau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Rwy’n credu, os darllenwch chi flaenoriaethau’r CHaTh, ei bod yn amlwg iawn mai'r llinyn sy’n rhedeg trwy ei Gynllun Heddlu a Throsedd yw amddiffyn pobl agored i niwed a lleihau niwed.

Fy nau brif flaenoriaeth fydd amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr trais yn y cartref, a hefyd mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig, yn enwedig y bygythiad cynyddol sy’n dod i’r amlwg ar draws Llinellau Sirol lle mae gangiau troseddol o lefydd fel Lerpwl a Manceinion yn chwilio am diriogaethau newydd ar gyfer eu rhwydweithiau delio mewn cyffuriau.

Mae angen i ni drechu troseddau trefnedig difrifol fel bod pobl yn hapus i fyw yma a theimlo’n hyderus yn eu cymunedau.

Ond i mi bydd y tri mis cyntaf ymwneud yn bennaf  ag ymgysylltu mewnol ac allanol, gan fynd allan i gyfarfod gyda’n staff a’n partneriaid.

Mae bod yn brif gwnstabl Gogledd Cymru yn rhywbeth yr wyf yn teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac mae gen i ymroddiad dwfn i wneud y gwaith hyd eithaf fy ngallu.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Rwyf wrth fy modd bod y Panel Heddlu a Throsedd wedi cymeradwyo penodiad Carl Foulkes fel ein prif gwnstabl newydd.

"Yn ogystal â bod yn uwch swyddog o’r radd flaenaf, mae’n ddyn o weledigaeth ac integriti mawr a fydd yn adeiladu ar waith ardderchog ei ragflaenydd Mark Polin, wrth lunio gwasanaeth heddlu sy’n effeithiol ac effeithlon tra’n ymatebol i droseddau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Gyda chyllidebau’n gostwng yn gyson, ni ddylem fod yn ddibris o faint yr heriau sydd o’n blaenau, ond rwy’n teimlo’n sicr bod gennym yr unigolyn cywir i wneud y gwaith.”