Skip to main content

Prifysgol Wrecsam yn gofalu am ddodrefn gorsaf heddlu, er mwyn rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd fel swyddog heddlu

Dyddiad

Dyddiad
Wrexham Uni

Mae myfyrwyr Prifysgol Wrecsam bellach yn medru cael profi sut beth ydy gweithio yn nalfa’r heddlu, diolch i gynllun ailgylchu gwreiddiol gan Heddlu Gogledd Cymru, a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Andy Dunbbobbin. O ganlyniad, mae desg y ddalfa o orsaf heddlu lleol nad oes ei hangen rhagor wedi ei gosod ar y campws er budd astudiaethau ymarferol y myfyrwyr. Mi gafodd y cyfleuster newydd ei ddatgelu heddiw (3 Hydref) gan Andy Dunbobbin a’r Is-Ganghellor, sef yr Athro Joe Yates o Brifysgol Wrecsam.

Mae’r Radd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam bellach yn ei phumed blwyddyn, ac wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Mae’r cwrs yn cael ei arwain gan nifer o gyn swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnwys Andy Jones, Uwch Ddarlithydd ym Mhlismona a chyn Arolygydd dros dro (a Rhingyll y Ddalfa), a’i gyd Uwch Ddarlithwyr, y cyn Ringyll Darren Jacks, a’r cyn dditectif Andy Crawford.

Fel rhan o broses barhaus sy’n ceisio datblygu a gwella profiad y myfyrwyr, mae’r staff darlithio ym Mhrifysgol Wrecsam wedi nodi datblygiad Uned Ddalfa ffug fel blaenoriaeth er mwyn cyfoethogi profiad y myfyrwyr. Gan ystyried y berthynas waith wych sydd gan y Brifysgol efo’r Heddlu lleol, mi gysyllton nhw efo Heddlu Gogledd Cymru, a welodd werth mewn ail-ddefnyddio desg o’r ddalfa oedd wedi ei digomisiynu yn ddiweddar, er budd y myfyrwyr.

Gyda gosod y ddesg, mi fydd y myfyrwyr yn gallu chwarae rôl a dysgu sut i ymdrin â gwahanol senarios, fel mae pobl yn cael eu derbyn i’r ddalfa. Mi fydd hyn yn help mawr, yn enwedig yn ail flwyddyn y cwrs gradd, lle mae gofyn am elfen ymarferol. Yn ogystal â bod o fudd i fyfyrwyr y Radd Plismona Proffesiynol, mi fydd y cyfleuster hefyd yn helpu myfyrwyr o raglenni ar draws y Brifysgol, gan gynnwys y Gyfraith, Troseddeg, Gwaith Cymdeithasol a Gwyddoniaeth Fforensig. Byddan nhw’n gallu chwarae rôl helpu eu cleientiaid yn y ddalfa. Mi fydd hefyd yn helpu myfyrwyr parafeddygol, fydd efallai angen mynd i’r ddalfa er mwyn trin rhywun.

Dywedodd Andy Jones: “Mae mynd i’r ddalfa yn gallu bod yn frawychus i lawer o swyddogion heddlu newydd, felly ‘dwi’n gobeithio fydd yr uned newydd yn rhoi hyder iddyn nhw, ac yn eu dysgu nhw am sefyllfaoedd lle maen nhw’n agored i niwed, a chysylltiadau eraill maen nhw’n debygol eu cael yn eu rolau yn y dyfodol.”

Yn ogystal ag agor y ddalfa newydd yn swyddogol, mi welodd yr ymwelwyr arddangosfa fyw o’r ddalfa ar waith, cael taith o amgylch y cyfleuster, a chael trafodaethau craff efo arbenigwyr yn y maes.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “’Roedd yn bleser ymweld â Phrifysgol Wrecsam, ac agor y ddesg ddalfa newydd. ‘Dwi’n gobeithio mi wnaiff roi dirnadaeth ymarferol i fyfyrwyr y Radd Plismona Proffesiynol  sut mae’n teimlo bod yn swyddog yn y ddalfa. ‘Dwi hefyd yn falch bydd myfyrwyr ar gyrsiau eraill yn gallu defnyddio’r cyfleuster, er mwyn rhoi blas go iawn ar sefyllfaoedd maen nhw’n debygol o’u hwynebu yn eu bywydau proffesiynol. Wrth ystyried y cyfrifoldeb sydd gan gyrff cyhoeddus i ailgylchu ac ymgysylltu â’r gymuned, mae hyn yn enghraifft gwych o ailddefnyddio gyda bwriad, er budd addysg a phobl lleol.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, yr Athro Joe Yates: “Mae’r cyfleuster arloesol hwn wedi ei ddylunio er mwyn darparu ein myfyrwyr Plismona Proffesiynol efo hyfforddiant ymarferol o senarios go iawn yn y ddalfa. Wrth ddynwared y broses o dderbyn unigolion i’r ddalfa, ‘da ni’n bwriadu paratoi’r genhedlaeth nesaf o swyddogion yn well, ar gyfer heriau gorfodi’r gyfraith.”