Dyddiad
Ar ddydd Sadwrn 11 Mai, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â’r Corws Forget-me-not ym Modelwyddan, Sir Ddinbych. Mae’r elusen a chôr, a gychwynnodd y 2011, yn cynorthwyo unigolion sy’n byw efo dementia drwy gyfrwng trawsnewidiol cerddoriaeth, ac ‘roedd yn llwyddiannus yn ddiweddar yn ymgeisio am fuddsoddiad oddi wrth fenter Eich Cymuned, Eich Dewis. Bydd y buddsoddiad yn cynorthwyo’r côr ymhellach efo’u sesiynau wythnosol.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis, sy’n cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ledled Gogledd Cymru, yn cael cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Cymunedol a Heddlu Gogledd Cymru (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru. Mae buddsoddiad Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol o arian a atafaelwyd drwy’r llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Trosedd, efo’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae’r prosiect yn defnyddio pŵer cerddoriaeth i ddarparu cymorth i bobl sy’n byw efo neu ochr yn ochr â dementia. Maen nhw’n cyfarfod mewn lleoliad sy’n gyfeillgar i’r rheiny â dementia, sy’n le hygyrch, lle maent yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel. Maen nhw’n cyfarfod am ddwy awr yr wythnos ac mae’r sesiynau rhad ac am ddim yn cael eu rhedeg gan dîm cerddorol a chydlynydd sesiwn, sy’n dod i adnabod y bobl sy’n cymryd rhan. Drwy brofiadau tebyg, maent yn creu cymuned gynorthwyol, ac yn cyfarfod eraill sy’n rhannu eu profiad o ddementia. Mae’r prosiect wedi ei ysgogi gan weledigaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r effaith ddofn mae’n cael ar unigolion, eu teuluoedd a chymunedau. Nid yn unig mae’r Corws Forget-me-not yn darparu cymorth i’r rhai efo dementia, ond mae hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ehangach o ddementia.
Yn ystod yr ymweliad, a oedd yn ddathliad diwedd tymor i’r côr, mi wnaeth y Comisiynydd gyfarfod efo’r rhai sy’n cymryd rhan, y gofalwyr a’r trefnwyr. Mi wnaethon nhw drafod pwysigrwydd cynorthwyo ei gilydd a’u cymunedau, a sut oedd y brosiect yn cael effaith werthfawr ar y gymuned. Fe welodd y Comisiynydd yn uniongyrchol sut oedd y buddsoddiad yn mynd i elwa’r grŵp.
Dywedodd Katherine Harri, o’r Corws Forget-me not: ”Mae’r Corws Forget-me-not yn credu’n gryf ym mhŵer y gân i greu cymuned ac i wella iechyd a lles y rhai sy’n byw efo ac ochr yn ochr efo dementia. Mae ymuno efo’n gilydd yn wythnosol mewn amgylchedd groesawus lle gellir ymlacio yn ymgysylltu, yn ysgogi ac yn rhoi egni i’n cantorion, ac mae’r teimlad da yn cynnal ein teulu Forget-me-not ymhell ar ôl i’r ymarfer orffen. ‘Da ni’n wirioneddol ddiolchgar am y buddsoddiad, fydd yn cynorthwyo ein côr cymunedol wythnosol ym Modelwyddan. Diolch o galon!”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “’Roedd yn bleser ymweld â’r Corws Forget-me-not ym Modelwyddan. ‘Roedd yn bleser medru gweld a chael profiad o sut mae’r buddsoddiad wedi elwa pobl efo dementia drwy gerddoriaeth. Mae dementia yn gyflwr sy’n cael ei gamddeall yn aml, a dyna pham ei bod yn bwysig iawn i mi fel CHTh Gogledd Cymru i gynorthwyo cymunedau a diogelu pobl fregus.”
Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae elusen Corws Forget-me-not yn cydnabod pwysigrwydd cynorthwyo pobl fregus a chymunedau, a dwi’n falch ein bod wedi medru cynorthwyo efo’u gwaith gwerthfawr a phwysig. Mae’r elusen yn enghraifft cadarnhaol o sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o helpu’r brosiect yma drwy fuddsoddiad Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwaith ardderchog i gynorthwyo pobl mewn angen ac yn ein galluogi i ddod at ein gilydd er mwyn achos da.”
Dros yr un-ar-ddeg mlynedd ers i Eich Cymuned, Eich Dewis ddechrau, mae bron i £600,000 wedi ei wobrwyo i bron i 200 prosiect, yn gweithio i leihau troseddau yn eu cymdogaethau, ac i gynorthwyo’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Am ragor o wybodaeth am PACT, ewch i: www.pactnorthwales.co.uk/cy/
Am ragor o wybodaeth am y Corws Forget-me-not, ewch i: Forget-me-not Chorus | Bringing the joy of singing to people living with dementia (forgetmenotchorus.com)