Skip to main content

Prosiectau cymunedol yn cael eu hannog i ymgeisio am gyfran o gronfa £60k

Dyddiad

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis, hefo help Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (SCHTh), Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) yn dychwelyd ar gyfer 2023-24. Mae cyfanswm mawr o £60,000 ar gael i brosiectau cymunedol ledled Gogledd Cymru. Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn noddi prosiectau ar lawr gwlad sy'n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd, hefo'r nod o greu amgylchfyd saffach i bawb.

Dathlodd Eich Cymuned, Eich Dewis 10 mlynedd o ariannu prosiectau yn 2023. Dros y cyfnod hwnnw mae cyfanswm o £547.705 wedi'i roi i 174 o brosiectau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio er mwyn helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.

Mae'r arian sydd ar gael i'r prosiectau buddugol ar gyfer rownd nesaf y fenter yn £60,000, a gaiff ei rannu ar draws 21 prosiect. Gall grwpiau cymunedol ym mhob sir ymgeisio am hyd at £2,500. Mae sefydliadau sy'n gweithio ledled tair sir neu fwy yn gallu ymgeisio am hyd at £5,000.

Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu gan y llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau hefo'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Bydd y cyfle i wneud cais eleni yn agor ar 16 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 11 Rhagfyr 2023. Ceir manylion am sut i ymgeisio ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a sianelau'r cyfryngau cymdeithasol ynghyd â gwefan PACT a Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi gan banel yn cynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â PACT a chynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru. Bydd yr enillwyr wedyn yn cael eu penderfynu ar sail pleidlais gyhoeddus, a fydd yn digwydd fis Ionawr.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Wrth i ni fynd i rownd newydd o gyllid Eich Cymuned, Eich Dewis, dwi'n edrych ymlaen at don newydd o geisiadau am brosiectau arloesol ac ysbrydoledig ledled Gogledd Cymru.

"Buaswn i'n annog unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn menter gymunedol i ymgeisio am gyllid er mwyn buddsoddi yn eich cymdogaeth a helpu lleihau trosedd. Ers dechrau yn y swydd fel Comisiynydd, dwi wedi gweld llawer o brosiectau cyffrous a gwerth chweil yn derbyn cyllid. Mae'n bleser gwirioneddol helpu eu twf a'u heffaith parhaus."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: ““Wrth i ni lansio ffenest ymgeisio Eich Cymuned, Eich Dewis am eleni, fe hoffwn i fynegi fy malchder o fod yn rhan o'r fenter barhaus hon. Mae'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn y gorffennol wedi dangos eu gwerth hynod i gymunedau lleol. Dwi'n edrych ymlaen at weld hyn yn parhau eleni.

"Unwaith eto, mae cyllid sylweddol ar gael. 'Da ni'n ymwybodol o'r heriau mae sefydliadau a phrosiectau cymunedol wedi'u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf. Hefo'r cyfle hwn am gyllid sylweddol, dwi'n gobeithio gweld cymaint o fentrau â phosib yn gwneud cais."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi meithrin cymdogaethau saffach. Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefo swm sylweddol o gyllid ar gael er mwyn helpu syniadau a phrosiectau arloesol.  'Da ni'n credu drwy weithio hefo'n gilydd, gallwn ni wneud effaith ar atal trosedd a helpu cymunedau'r un pryd. 

"'Da ni'n annog pawb a sefydliadau sy'n angerddol dros eu cymuned i gyflwyno eu ceisiadau ac ymuno hefo ni wrth wneud Gogledd Cymru'n lle saffach i bawb."

Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais, dewch o hyd i'r dogfennau isod neu ar wefannau PACT a Heddlu Gogledd Cymru. neu cysylltwch hefo ni drwy:

E-bost: yourcommunityyourchoice@northwales.police.uk

Ffôn: 01745 588516

Pecyn cais Eich Cymuned, Eich Dewis: