Dyddiad
Mae 30 o dditectifs yn cael eu recriwtio gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd mawr mewn troseddau newydd fel troseddau seiber a cham-fanteisio ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed gan gangiau cyffuriau.
Mae’r symudiad yn rhan o ad-drefnu enfawr mewn plismona rheng flaen i dargedu adnoddau yn fwy effeithiol yn unol â Chynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones sydd wedi blaenoriaethu “lleihau niwed ac amddiffyn plant ac oedolion bregus”.
Mae’r ad-drefnu yn un o’r mwyaf a welwyd erioed yn Heddlu Gogledd Cymru ac amlinellwyd y manylion i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn eu cyfarfod yng Nghonwy heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 3).
Cafodd y Rhaglen Gwella Gweithredu ei harwain gan dîm dan arweiniad y Prif Uwcharolygydd Alex Goss a roddodd gyflwyniad i’r cyfarfod.
Mae’r newidiadau’n cael eu cyflwyno yn wyneb y gwerth £30 miliwn o doriadau llym a wnaed i gyllideb Heddlu Gogledd Cymru ers 2010, gyda disgwyl y bydd angen gwneud £3.25 miliwn o arbedion pellach y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y Prif Uwcharolygydd Goss, y nod yw gwneud y defnydd gorau posibl o “adnoddau cyfyngedig” yr heddlu wrth ymateb i’r heriau newydd difrifol hyn.
Maent yn cynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant, caethwasiaeth fodern, cam-drin yn y cartref, seiber-droseddau, trosedd difrifol a chyfundrefnol, a bygythiad cynyddol Llinellau Sirol lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Wrth gynyddu gallu ymchwiliol yr heddlu, dywedodd hefyd eu bod yn cydymffurfio ag argymhelliad Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi a’r Gwasanaeth Tân ac Achub a nododd yr angen i’w gryfhau.
O ganlyniad, bydd 12 o dditectifs ychwanegol ynghyd â 12 o staff cymorth ychwanegol yn cael eu cyflogi.
Bydd hyfforddiant ychwanegol ar gael i staff cefnogi er mwyn iddynt allu ymdopi ag ymchwiliadau mwy cymhleth.
Bydd yr ailstrwythuro hefyd yn golygu symud i adolygu’r patrwm shifftiau presennol er mwyn sicrhau bod mwy o swyddogion a rhingylliaid yn cael eu defnyddio ar y rheng flaen ar unrhyw adeg benodol.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Goss: “Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth wedi amlygu bod lefel cyfredol y galw ar ein hadnoddau ditectif gyda’r uchaf erioed.
“Mae’r newid yn natur troseddu o ran cwmpas a chymhlethdod, ynghyd â’r hinsawdd economaidd bresennol, wedi creu tensiynau aruthrol yn ein gallu i ymateb i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.
“Mae nifer y troseddau sy’n ymwneud â dioddefwyr diamddiffyn a throseddwyr treisgar trefnedig wedi tyfu ar gyfradd gyflymach na throseddau llai cymhleth.
“O ganlyniad, mae’r pwysau ar ein ditectifs wedi cynyddu ac mae’r galw bellach yn fwy na’r gallu i’w ddiwallu - ac mae’r duedd hon yn mynd i barhau.
“Mae’r gofynion a achosir gan seiber droseddu a bygythiad Llinellau Sirol yn parhau i dyfu.
“Ar yr un pryd, mae’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol yn rhagweld y bydd cynnydd o 80 y cant mewn achosion sy’n ymwneud â delweddau anweddus o blant bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf.
“Er mwyn cyfarfod â’r sialensiau hyn, rydym yn buddsoddi mewn galluogi ein timau plismona i ddatrys problemau yn eu cymunedau.
“Y nod yw cefnogi ein timau plismona yn y gymdogaeth i ddelio â materion yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, a lle bo hynny’n bosib, atal pethau cyn iddynt waethygu.
“Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn ein rheng flaen, proffesiynoli ein rheng flaen a sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol - ond yr allwedd go iawn yw’r buddsoddiad yn ein hadnoddau ymchwilio i ddarparu’r gwasanaeth heddlu gorau posibl i bobl sy’n agored i niwed ar draws yr ardal.”
Croesawyd y newidiadau gan y Comisiynydd Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu ei hun, a ychwanegodd ei bod yn hollbwysig bod yr heddlu yn “addas i’r diben” ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Dywedodd: “Hoffwn ganmol y Prif Uwcharolygydd Goss a’i dîm am lunio cynllun rhagorol er mwyn i ni ganolbwyntio ein hymdrechion unwaith eto yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn un o’r mannau mwyaf diogel i weithio, ymweld a byw ynddi.
“Mae natur y plismona wedi newid yn sylweddol ac rydym yn wynebu heriau newydd a chynyddol felly mae’n rhaid i’r heddlu esblygu ac addasu yn unol â hynny. Nid yw parhau i wneud pethau yn yr un ffordd yn opsiwn.”
“Mae ein Prif Gwnstabl newydd, Carl Foulkes, yn hyrwyddwr plismona ataliol ac rwy’n cefnogi ei ymagwedd yn fawr.”
“Gyda hynny mewn golwg, bydd y Rhaglen Gwella Gweithredu yn sicrhau bod yr heddlu yn targedu plismona mannau problemus. Mae arnom angen patrolau heddlu sy’n rhoi gwerth am arian yn hytrach na phatrolau gwastrafflyd, gan ddefnyddio plismona clyfar er mwyn canolbwyntio adnoddau ar y mannau lle mae eu hangen fwyaf. Y ffactor arall sy’n gyrru’r newidiadau yw’r toriadau ariannol llym iawn o £30 miliwn rydym wedi eu dioddef ers 2010.”
“Y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i arbedion ychwanegol o £3.25 miliwn sy’n golygu ein bod yn gorfod gwneud mwy gyda llai o arian.”
“Rydym hefyd yn wynebu’r posibilrwydd o ergyd driphlyg sydd y tu hwnt i’n rheolaeth - chwyddiant cyflogau, chwyddiant prisiau a’r ffrwydrad a ragwelir yng nghost pensiynau. Mae’n golygu y bydd angen i ni wneud rhai penderfyniadau pwysig, yn enwedig wrth bennu lefel y dreth gyngor neu braesept yr heddlu.
“Rwy’n cychwyn ar broses ymgynghori i fesur barn pobl yng ngogledd Cymru ac mae’n amlwg o’n cyfrifiadau y bydd angen cynnydd o chwech y cant os yw'r gyllideb yn aros yr un fath, neu mi fyddai’n rhaid i ni wneud toriadau fydd hyd yn oed yn fwy llym.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: “Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cychwyn ar raglen bwysig o newid i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i gyflenwi gwasanaethau da iawn i’r cyhoedd a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.
“Fel rhan o’r ailstrwythuro, rydym hefyd yn dod â datblygiadau newydd arloesol fel atebion digidol er mwyn galluogi aelodau’r cyhoedd hefyd i gysylltu efo ni ac adrodd am bethau sy’n codi yn ddigidol.”